
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Rhondda Cynon Taf (Cymunedau) 2016.
(2) At unrhyw ddiben a nodir yn rheoliad 4(1) o’r Rheoliadau, daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Rhagfyr 2016.
(3) At bob diben arall, daw’r Gorchymyn hwn i rym ar y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 2017.
2 
Yn y Gorchymyn hwn—
 ystyr “newydd” (“new”) mewn perthynas ag ardal llywodraeth leol, yw’r ardal honno fel y’i sefydlir gan y Gorchymyn hwn.
 ystyr “presennol” (“existing”) mewn perthynas ag ardal llywodraeth leol, yw’r ardal fel y mae’n bodoli yn union cyn y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 2017;
 ystyr “y Rheoliadau” (“the Regulations”) yw Rheoliadau Newidiadau i Ardaloedd Llywodraeth Leol 1976;mae unrhyw gyfeiriad at fap yn gyfeiriad at un o’r 14 o fapiau a farciwyd “Map Gorchymyn Rhondda Cynon Taf (Cymunedau) 2016” a adneuwyd yn unol â rheoliad 5 o’r Rheoliadau ac a labelwyd yn “A” i “N”, ac mae cyfeiriad at fap â llythyren yn gyfeiriad at fap sy’n dwyn y llythyren honno; apan ddangosir bod ffin ar fap yn rhedeg ar hyd ffordd, rheilffordd, troetffordd, cwrs dŵr neu nodwedd ddaearyddol debyg, mae i’w thrin fel un sy’n rhedeg ar hyd llinell ganol y nodwedd.
3 
Mae newidiadau yn cael eu gwneud yn ardal llywodraeth leol Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn unol â’r darpariaethau a ganlyn yn y Gorchymyn hwn.
4 
Mae’r rhan o gymuned Llanilltud Faerdref a ddangosir â chroeslinellau ar Fap A (ward Llanilltud Faerdref)—
(a) wedi ei throsglwyddo i gymuned Llantrisant;
(b) yn ffurfio rhan o ward Tyn-y-Nant yng nghymuned Llantrisant; ac
(c) yn ffurfio rhan o adran etholiadol Tyn-y-Nant.
5 
Mae’r rhan o gymuned Llantrisant a ddangosir â chroeslinellau ar Fap B (ward Tyn-y-Nant)—
(a) wedi ei throsglwyddo i gymuned Llanilltud Faerdref;
(b) yn ffurfio rhan o ward Llanilltud Faerdref yng nghymuned Llanilltud Faerdref; ac
(c) yn ffurfio rhan o adran etholiadol Llanilltud Faerdref.
6 
Mae’r rhannau o gymuned Llanilltud Faerdref a ddangosir â chroeslinellau ar Fap C, Map D a Map E (ward Llanilltud Faerdref)—
(a) yn ffurfio rhan o ward Pentre’r Eglwys yng nghymuned Llanilltud Faerdref; a
(b) yn ffurfio rhan o adran etholiadol Pentre’r Eglwys.
7 
Mae’r rhan o gymuned Llantrisant a ddangosir â chroeslinellau ar Fap F (ward Tonysguboriau)—
(a) yn ffurfio rhan o ward Tref Llantrisant yng nghymuned Llantrisant; a
(b) yn ffurfio rhan o adran etholiadol Tref Llantrisant.
8 
Mae’r rhan o gymuned Llantrisant a ddangosir â chroeslinellau ar Fap G (ward Tyn-y-Nant a ward Tref Llantrisant)—
(a) wedi ei throsglwyddo i gymuned Llanilltud Faerdref;
(b) yn ffurfio rhan o ward Llanilltud Faerdref yng nghymuned Llanilltud Faerdref; ac
(c) yn ffurfio rhan o adran etholiadol Llanilltud Faerdref.
9 
Mae’r rhan o gymuned Llantrisant a ddangosir â chroeslinellau ar Fap H (ward Tref Llantrisant)—
(a) wedi ei throsglwyddo i ffurfio rhan o ward Beddau yng nghymuned Llantrisant; a
(b) yn ffurfio rhan o adran etholiadol Beddau.
10 
Mae’r rhan o gymuned Llantrisant a ddangosir â chroeslinellau ar Fap I (ward Beddau)—
(a) wedi ei throsglwyddo i gymuned Pontypridd;
(b) yn ffurfio rhan o ward y Graig yng nghymuned Pontypridd; ac
(c) yn ffurfio rhan o adran etholiadol y Graig.
11 

(1) Mae cymuned bresennol Aberaman wedi ei diddymu.
(2) Mae dwy gymuned newydd o’r enw Gogledd Aberaman a De Aberaman wedi eu creu, a ddangosir ar Fap J fel yr ardaloedd wedi eu marcio “Gogledd Aberaman” a “De Aberaman” yn y drefn honno.
12 

(1) Mae cymuned bresennol Aberdâr wedi ei diddymu.
(2) Mae dwy gymuned newydd o’r enw Dwyrain Aberdâr a Gorllewin Aberdâr wedi eu creu, a ddangosir ar Fap K fel yr ardaloedd wedi eu marcio “Dwyrain Aberdâr” a “Gorllewin Aberdâr” yn y drefn honno.
13 

(1) Mae cymuned bresennol Aberpennar wedi ei diddymu.
(2) Mae dwy gymuned newydd o’r enw Dwyrain Aberpennar a Gorllewin Aberpennar wedi eu creu, a ddangosir ar Fap L fel yr ardaloedd wedi eu marcio “Dwyrain Aberpennar” a “Gorllewin Aberpennar” yn y drefn honno.
14 
Mae’r rhan o gymuned newydd De Aberaman a ddangosir â chroeslinellau ar Fap M—
(a) wedi ei throsglwyddo i ffurfio rhan o gymuned Cwmbach; a
(b) yn ffurfio rhan o adran etholiadol Cwmbach.
15 
Mae’r rhan o gymuned Cwmbach a ddangosir â chroeslinellau ar Fap N—
(a) wedi ei throsglwyddo i ffurfio rhan o gymuned newydd Dwyrain Aberpennar; a
(b) yn ffurfio rhan o adran etholiadol Dwyrain Aberpennar.
16 
Yng nghymuned Llanilltud Faerdref—
(a) nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol ar gyfer ward Ton-Teg yw 3;
(b) nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol ar gyfer ward Pentre’r Eglwys yw 4;
(c) nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol ar gyfer ward Llanilltud Faerdref yw 4; a
(d) nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol ar gyfer ward Efail Isaf yw 1.
17 
Yng nghymuned Llantrisant—
(a) nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol ar gyfer ward Tyn-y-Nant yw 3;
(b) nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol ar gyfer ward Beddau yw 4;
(c) nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol ar gyfer ward Tref Llantrisant yw 4; a
(d) nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol ar gyfer ward Tonysguboriau yw 3.
18 
Yng nghymuned Pontypridd—
(a) nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol ar gyfer ward Glyncoch yw 2;
(b) nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol ar gyfer ward Cilfynydd yw 2;
(c) nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol ar gyfer ward Rhondda yw 4;
(d) nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol ar gyfer ward Pontypridd yw 2;
(e) nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol ar gyfer ward Trallwng yw 3;
(f) nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol ar gyfer ward Ilan yw 1;
(g) nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol ar gyfer ward Canol Rhydfelen yw 2;
(h) nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol ar gyfer ward Rhydfelen Isaf yw 1;
(i) nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol ar gyfer ward y Ddraenen Wen yw 2;
(j) nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol ar gyfer ward Trefforest yw 2; a
(k) nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol ar gyfer ward y Graig yw 2.
Mark Drakeford
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
25 Tachwedd 2016