
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Sir y Fflint (Cymunedau) 2016.
(2) At unrhyw ddiben a nodir yn rheoliad 4(1) o’r Rheoliadau, daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Rhagfyr 2016.
(3) At bob diben arall, daw’r Gorchymyn hwn i rym ar y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 2017.
2 
Yn y Gorchymyn hwn—
 ystyr “newydd” (“new”), mewn perthynas ag ardal llywodraeth leol, yw’r ardal honno fel y’i sefydlir gan y Gorchymyn hwn;
 ystyr “presennol” (“existing”), mewn perthynas ag ardal llywodraeth leol, yw’r ardal honno fel y mae’n bodoli yn union cyn y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 2017;
 ystyr “y Rheoliadau” (“the Regulations”) yw Rheoliadau Newidiadau i Ardaloedd Llywodraeth Leol 1976;mae unrhyw gyfeiriad at fap yn golygu un o’r 7 map a farciwyd “Map Gorchymyn Sir y Fflint (Cymunedau) 2016” a adneuwyd yn unol â rheoliad 5 o’r Rheoliadau ac a labelwyd “A” i “G”, ac mae cyfeiriad at fap â llythyren yn gyfeiriad at fap sy’n dwyn y llythyren honno; apan ddangosir bod ffin ar fap yn rhedeg ar hyd ffordd, rheilffordd, troetffordd, cwrs dŵr neu nodwedd ddaearyddol debyg, mae i’w thrin fel un sy’n rhedeg ar hyd llinell ganol y nodwedd.
3 
Mae newidiadau wedi eu gwneud yn ardal llywodraeth leol Sir y Fflint yn unol â’r darpariaethau a ganlyn yn y Gorchymyn hwn.
4 

(1) Mae’r rhan o gymuned Helygain a ddangosir â chroeslinellau ar Fap A—
(a) wedi ei throsglwyddo i gymuned yr Wyddgrug;
(b) yn ffurfio rhan o ward Dwyrain yr Wyddgrug yng nghymuned yr Wyddgrug; ac
(c) yn ffurfio rhan o adran etholiadol Dwyrain yr Wyddgrug.
(2) Yng nghymuned Helygain a ddangosir ar Fap B—
(a) mae wardiau cymunedol presennol Helygain, Rhes-y-cae a Rhosesmor wedi eu huno i ffurfio ward gymunedol newydd Mynydd Helygain a ddangosir â llinellau rhwyllog ar Fap B;
(b) mae ward gymunedol newydd Mynydd Helygain o fewn adran etholiadol Helygain;
(c) nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol ar gyfer ward newydd Mynydd Helygain yw 8; a
(d) nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol ar gyfer ward Pentre Helygain yw 5.
5 

(1) Mae’r rhan o gymuned Pen-y-ffordd a ddangosir â chroeslinellau ar Fap C wedi ei throsglwyddo i gymuned Brychdyn a Bretton.
(2) Yn y rhan o gymuned Brychdyn a Bretton a ddangosir â chroeslinellau ar Fap D—
(a) mae wardiau cymunedol presennol Dwyrain Brychdyn a Bretton a Gogledd Brychdyn a Bretton wedi eu huno i ffurfio ward gymunedol newydd Gogledd-ddwyrain Brychdyn a Bretton;
(b) mae ward gymunedol newydd Gogledd-ddwyrain Brychdyn a Bretton o fewn adran etholiadol Gogledd-ddwyrain Brychdyn; ac
(c) nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol ar gyfer ward newydd Gogledd-ddwyrain Brychdyn yw 5.
(3) Yn y rhan o gymuned Brychdyn a Bretton a ddangosir â llinellau rhwyllog ar Fap D—
(a) mae hyn yn cynnwys ward De Brychdyn a Bretton;
(b) mae’n ffurfio rhan o adran etholiadol De Brychdyn; ac
(c) nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol ar gyfer ward De Brychdyn a Bretton yw 9.
6 
Mae’r rhan o gymuned Kinnerton Uchaf a ddangosir â chroeslinellau ar Fap E—
(a) wedi ei throsglwyddo i gymuned Pen-y-ffordd; a
(b) yn ffurfio rhan o adran etholiadol Pen-y-ffordd.
7 
Mae’r rhan o gymuned yr Hob a ddangosir â chroeslinellau ar Fap F—
(a) wedi ei throsglwyddo i gymuned Pen-y-ffordd; a
(b) yn ffurfio rhan o adran etholiadol Pen-y-ffordd.
8 

(1) Mae’r rhan o gymuned Coed-llai a ddangosir â chroeslinellau ar Fap G—
(a) wedi ei throsglwyddo i gymuned Pen-y-ffordd; a
(b) yn ffurfio rhan o adran etholiadol Pen-y-ffordd.
(2) Yng nghymuned Pen-y-ffordd nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol yw 13.
9 

(1) Mae Gorchymyn Sir y Fflint (Trefniadau Etholiadol) 1998 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yng ngholofn (2) o’r Tabl yn yr Atodlen, yn lle’r eitem yn y golofn gyferbyn ag Enw Adran Etholiadol Newydd Helygain rhodder—“
 The Halkyn Mountain ward of the Community of Halkyn”.
Mark Drakeford
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
25 Tachwedd 2016