
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cymeriad Crefyddol Ysgolion (Gweithdrefn Ddynodi) (Cymru) 2016 a deuant i rym ar 1 Ionawr 2017.
(2) Mae Rheoliadau Cymeriad Crefyddol Ysgolion (Gweithdrefn Ddynodi) 1998 wedi eu dirymu o ran Cymru.
(3) Mae rheoliad 49 o Reoliadau Ysgolion a Gynhelir Newydd (Cymru) 2005 wedi ei ddirymu.
2 

(1) Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “Deddf 1998” (“the 1998 Act”) yw Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998;
 ystyr “Deddf 2013” (“the 2013 Act”) yw Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013;
 ystyr “y grefydd berthnasol neu’r enwad crefyddol perthnasol” (“the relevant religion or religious denomination”) yw’r grefydd neu’r enwad crefyddol y mae’n ofynnol, neu y caniateir iddi fod yn ofynnol, i addysg grefyddol gael ei darparu yn yr ysgol yn unol â’i daliadau neu ei ddaliadau, yn unol ag Atodlen 19 i Ddeddf 1998 (neu, yn ôl y digwydd, pob crefydd neu enwad crefyddol o’r fath).
(2) Yn y Rheoliadau hyn—
(a) mae cyfeiriadau at “ysgol wirfoddol” yn gyfeiriadau at ysgol o’r fath o fewn ystyr Deddf 1998 gan gynnwys ysgol newydd sydd â chorff llywodraethu dros dro ac a fydd yn ysgol o’r fath pan fydd wedi ei sefydlu; a
(b) mae cyfeiriadau at “corff llywodraethu” yn cynnwys corff llywodraethu dros dro.
3 

(1) Pan fo cynigion i sefydlu ysgol wirfoddol newydd yn cael eu cymeradwyo o dan adran 50 neu 51 o Ddeddf 2013, neu pan fo’r cynigydd yn dyfarnu bod y cynigion yn cael eu gweithredu o dan adran 53 o Ddeddf 2013, rhaid i Weinidogion Cymru ei dynodi yn ysgol sydd â chymeriad crefyddol os yw’r gofynion a nodir yn y rheoliad hwn wedi eu bodloni.
(2) Rhaid bod y cynigwyr wedi gwneud cais i Weinidogion Cymru i’r ysgol gael ei dynodi yn ysgol sydd â chymeriad crefyddol ac, yn achos ysgol newydd y bwriedir iddi fod yn un o ysgolion yr Eglwys yng Nghymru, yn un o ysgolion yr Eglwys Gatholig Rufeinig neu’n un o ysgolion Eglwys Loegr, rhaid i gais o’r fath fod wedi ei gymeradwyo gan yr awdurdod esgobaethol y bwriedir mai ef fydd yr awdurdod esgobaethol priodol pan fydd yr ysgol yn agor.
(3) Rhaid bod corff llywodraethu dros dro wedi ei gyfansoddi ar gyfer yr ysgol.
(4) Rhaid i’r cynigion a gyhoeddir o dan adran 48 o Ddeddf 2013 er mwyn sefydlu’r ysgol bennu—
(a) y bwriedir i’r ysgol fod yn ysgol sydd â chymeriad crefyddol; a
(b) y grefydd neu’r enwad crefyddol neu’r crefyddau neu’r enwadau crefyddol y bydd yr ysgol yn gysylltiedig â hwy.
(5) Rhaid i delerau neu delerau arfaethedig—
(a) y weithred ymddiriedolaeth; a
(b) offeryn llywodraethu’r ysgol,
fod yn gyson â’r cynigion a gyhoeddir.
(6) Rhaid i Weinidogion Cymru fod wedi eu bodloni o ran un neu ragor o’r materion a ganlyn—
(a) bod o leiaf un aelod o gorff llywodraethu’r ysgol yn berson a benodir yn llywodraethwr sefydledig dros dro (o fewn ystyr Rheoliadau Ysgolion a Gynhelir Newydd (Cymru) 2005) i gynrychioli buddiannau un neu ragor o grefyddau neu enwadau crefyddol;
(b) bod y fangre a ddarperir neu sydd i gael ei darparu ar gyfer yr ysgol yn cael ei dal neu i gael ei dal ar ymddiriedolaeth fel bod yr eiddo o dan sylw, os bydd yr ysgol yn cael ei therfynu, yn cael ei ddal, neu i gael ei werthu ac y cymhwysir enillion y gwerthiant, er budd un neu ragor o grefyddau neu enwadau crefyddol;
(c) bod y fangre a ddarperir neu sydd i gael ei darparu ar gyfer yr ysgol yn cael ei dal neu i gael ei dal ar ymddiriedolaeth mewn cysylltiad â—
(i) darparu addysg, neu
(ii) rhedeg sefydliad addysgol,
yn unol â daliadau un neu ragor o grefyddau neu enwadau crefyddol.
4 

(1) Pan fo Gweinidogion Cymru ar unrhyw adeg o’r farn—
(a) bod ysgol wedi ei dynodi’n anghywir neu nad yw wedi ei dynodi; neu
(b) bod y datganiad ynghylch y grefydd berthnasol neu’r enwad crefyddol perthnasol yn anghywir,
rhaid iddynt ddiwygio’r gorchymyn o dan sylw neu wneud gorchymyn arall fel y maent yn ystyried ei bod yn briodol.
(2) Cyn gwneud gorchymyn yn unol â pharagraff (1), rhaid i Weinidogion Cymru—
(a) ymgynghori â chorff llywodraethu ac unrhyw ymddiriedolwyr yr ysgol; a
(b) ymgynghori ag unrhyw gyrff crefyddol a nodir yn Atodlen 1 y maent yn ystyried eu bod yn briodol.
(3) I’r graddau y mae Gweinidogion Cymru yn gwneud gorchymyn o dan adran 69(3) o Ddeddf 1998—
(a) nad yw’n newid dynodiad ysgol, na’r datganiad o ran y grefydd berthnasol neu’r enwad crefyddol perthnasol mewn perthynas â’r ysgol honno, a wnaed mewn gorchymyn blaenorol (ac eithrio dynodiad neu ddatganiad dros dro); neu
(b) sy’n dileu cofnod ynghylch terfynu’r ysgol,
nid oes angen iddynt ymgymryd ag unrhyw ymgynghori mewn perthynas â’r dynodiad penodol hwnnw na’r datganiad penodol hwnnw cyn gwneud gorchymyn o’r fath.
5 

(1) Pan fo’r Rheoliadau hyn yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r corff llywodraethu ac unrhyw ymddiriedolwyr yr ysgol, rhaid iddynt wneud hynny drwy anfon dau gopi o’r ddogfen ymgynghori (un ar gyfer y corff llywodraethu ac un ar gyfer yr ymddiriedolwyr) i’r ysgol.
(2) Rhaid i gorff llywodraethu ysgol beidio â dirprwyo i bwyllgor o’r corff llywodraethu nac i gadeirydd y corff llywodraethu unrhyw benderfyniad mewn perthynas â’i ymateb i ymgynghoriad y cyfeirir ato ym mharagraff (1) a rhaid i unrhyw ymateb o’r fath ddangos mai dyna ymateb pob aelod o’r corff llywodraethu, neu’r mwyafrif o’r aelodau, ac nad oes unrhyw benderfyniad mewn perthynas â’r ymateb hwnnw wedi ei ddirprwyo.
6 
Mae’r diwygiadau canlyniadol a nodir yn Atodlen 2 yn cael effaith.
Kirsty Williams
Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, un o Weinidogion Cymru
22 Tachwedd 2016
ATODLEN 1
Rheoliad 4(2)


 Yr Eglwys yng Nghymru
 Gwasanaeth Addysg yr Eglwys Gatholig
 Bwrdd Addysg Synod Cyffredinol Eglwys Loegr
 Yr Eglwys Fethodistaidd
 Cyngor Ffederal yr Eglwysi Rhyddion
 Eglwys Adfentaidd y Seithfed Dydd
 Bwrdd Dirprwyon Iddewon Prydain
 Cymdeithas yr Ysgolion Mwslimaidd

ATODLEN 2
Rheoliad 6
1 
Yn rheoliad 50(1) o Reoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2005 yn lle “rheoliad 3(2) o Reoliadau Cymeriad Crefyddol Ysgolion (Gweithdrefn Ddynodi) 1998” rhodder “rheoliad 5(2) o Reoliadau Cymeriad Crefyddol Ysgolion (Gweithdrefn Ddynodi) (Cymru) 2016”.
2 
Yn rheoliad 62(1) o Reoliadau Ffedereiddio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2014 yn lle “rheoliad 3(2) o Reoliadau Cymeriad Crefyddol Ysgolion (Gweithdrefn Ddynodi) 1998” rhodder “rheoliad 5(2) o Reoliadau Cymeriad Crefyddol Ysgolion (Gweithdrefn Ddynodi) (Cymru) 2016”.