
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Addysg Uwch (Cymru) 2015 (Cychwyn Rhif 2) 2016.
(2) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Addysg Uwch (Cymru) 2015.
2 
Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym, i’r graddau a bennir, drannoeth y diwrnod y gwneir y Gorchymyn hwn—
(a) adran 38(3) (dyletswydd i dynnu cymeradwyaeth yn ôl) at bob diben; a
(b) adran 52(1) (datganiad mewn cysylltiad â swyddogaethau ymyrryd) at bob diben sy’n weddill.
3 
Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym, i’r graddau a bennir, ar 1 Awst 2016—
(a) adran 38(1) (dyletswydd i dynnu cymeradwyaeth yn ôl) at bob diben; a
(b) adran 40 (cyhoeddi etc hysbysiad) at bob diben sy’n weddill.
4 
Daw’r darpariaethau a ganlyn i rym, i’r graddau a bennir, ar 1 Medi 2016—
(a) adran 27(1) (dyletswydd CCAUC i lunio a chyhoeddi cod) at bob diben sy’n weddill;
(b) adran 27(5) a (6) at bob diben; ac
(c) adran 30 (y weithdrefn os cymeradwyir cod drafft gan Weinidogion Cymru) at bob diben.
Huw Lewis
Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
2 Chwefror 2016