
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Cynigion Cyllidebol a Chyrff Dynodedig) 2016.
(2) Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 19 Rhagfyr 2016.
2 
Mae corff sydd wedi ei restru yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn yn gorff dynodedig at ddibenion adran 126A o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 mewn perthynas â Gweinidogion Cymru.
Mark Drakeford
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
15 Tachwedd 2016
YR ATODLEN
Erthygl 2

Byrddau Iechyd Lleol (fel y’u sefydlwyd o dan adran 11 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006)
Career Choices Dewis Gyrfa Ltd
Hybu Cig Cymru-Meat Promotion Wales
