
RHAN 1
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol a Ffioedd a Thaliadau Optegol) (Diwygio) (Cymru) 2016.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Rhagfyr 2016 ac maent yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “Rheoliadau’r Ffioedd a Thaliadau Optegol” (“the Optical Charges and Payments Regulations”) yw Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) 1997;
 ystyr “Rheoliadau’r Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol” (“the General Ophthalmic Services Regulations”) yw Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) 1986; ac
 ystyr “Rheoliadau’r Rhestr Atodol” (“the Supplementary List Regulations”) yw Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Rhestr Atodol Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) a (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) (Diwygio a Diwygiad Canlyniadol) (Cymru) 2006.
RHAN 2
2 

(1) Mae rheoliad 7A o Reoliadau’r Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Ym mharagraff (1)—
(a) yn is-baragraff (e) ar ddiwedd yr is-baragraff dileër y gair “or”; ac
(b) ar ôl is-baragraff (f) mewnosoder—“or
(g) that after 30 July 2002, the ophthalmic medical practitioner or optician has been convicted in the United Kingdom of any criminal offence (other than murder) and has been sentenced to a term of imprisonment (whether suspended or not) of over six months.”
(3) Hepgorer rheoliad 7A(2)(b).
3 

(1) Mae rheoliad 9 o Reoliadau’r Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Ar ôl rheoliad 9(1) mewnosoder—“
(1A) The Local Health Board may remove the ophthalmic medical practitioner or optician from its ophthalmic list where that person has been convicted in the United Kingdom of a criminal offence (other than murder) since 30 July 2002, and has been sentenced to a term of imprisonment (whether suspended or not) of over six months.”
(3) Yn rheoliad 9(2), yn lle “six” rhodder “twelve”.
(4) Yn lle rheoliad 9(2A), rhodder—“
(2A) In calculating the period of twelve months referred to in paragraph (2), the Local Health Board will disregard any period—
(a) during which the contractor provided no general ophthalmic services by reason only that the practitioner was suspended from the ophthalmic list;
(b) during which the contractor was performing whole-time service in the armed forces in a national emergency (as a volunteer or otherwise);
(c) during which the contractor was performing compulsory whole-time service in the armed forces (including service resulting from reserve liability), or any equivalent service, if liable for compulsory whole-time service in the armed forces; and
(d) which the Local Health Board with good cause so determines.”
(5) Hepgorer rheoliad 9(5).
4 
Hepgorer rheoliad 9C(1)(b).
5 

(1) Mae Atodlen 1 i Reoliadau’r Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Ym mharagraff 9(2) o Atodlen 1, ar ôl y geiriau “Any such claim”, mewnosoder “may be submitted electronically or on paper and”.
(3) Yn lle paragraff (9)(3) rhodder—“
(3) A signatory or counter-signatory is to sign any electronic claim or paper claim in digital ink or in ink with his or her initials or forename and with his or her surname in his or her own handwriting and not by means of a stamp or reproduced image.”
(4) Hepgorer paragraff 10(3).
RHAN 3
6 

(1) Mae rheoliad 1 o Reoliadau’r Ffioedd a Thaliadau Optegol wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Ym mharagraff (2), yn lle’r diffiniad o “small glasses” rhodder—“
 “small glasses” means glasses—
(a) having a frame which is either custom made or a stock frame requiring extensive adaptation to ensure an adequate fit; and
(b) having a boxed centre distance of no more than 55 millimetres, and for this purpose “boxed centre” is to be construed in accordance with British Standard BS EN ISO 8624:2011 (Ophthalmic Optics. Spectacle Frames. Measuring System and Terminology) published on 28 February 2011;”.
7 
Yn Atodlen 2 (prismau, arlliwiau, lensys ffotocromaidd, sbectolau bach a sbectolau arbennig, a theclynnau cymhleth) yn lle paragraff 1(1)(g) rhodder—“
(g) where the voucher is issued by an ophthalmic medical practitioner or optician, an NHS trust or Local Health Board in respect of glasses, the frame of which is certified by the ophthalmic medical practitioner or optician, the NHS Trust or Local Health Board issuing that voucher as being required to be specifically manufactured on account of the person’s facial characteristics—
(i) by £64.20 in the case of the supply or replacement of the glasses or repair of the whole frame;
(ii) by £57.00 in the case of repair of the front of the frame; and
(iii) by £30.80 in the case of repair of a side frame.”
RHAN 4
8 

(1) Mae rheoliad 6 o Reoliadau’r Rhestr Atodol wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Ym mharagraff (1)—
(a) yn is-baragraff d ar ddiwedd yr is-baragraff dileër y gair “neu”; ac
(b) ar ôl is-baragraff (dd) mewnosoder—“neu
(e) pan fo ymarferydd, ar ôl 1 Chwefror 2006, wedi cael ei gollfarnu yn y Deyrnas Unedig am unrhyw dramgwydd troseddol (ar wahân i lofruddiaeth) ac wedi cael ei ddedfrydu i dros chwe mis o garchar (pa un a yw’n ddedfryd ohiriedig ai peidio).”
(3) Hepgorer paragraff (2)(dd).
9 

(1) Mae rheoliad 10 o Reoliadau’r Rhestr Atodol wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Hepgorer paragraff (1)(b).
(3) Ar ôl paragraff (5)(a) mewnosoder—“
(aa) bod yr ymarferydd wedi cael ei gollfarnu yn y Deyrnas Unedig am dramgwydd troseddol (ar wahân i lofruddiaeth), a gyflawnwyd ar neu ar ôl 1 Chwefror 2006 a’i fod wedi ei ddedfrydu i dros chwe mis o garchar (pa un a yw’n ddedfryd ohiriedig ai peidio);”.
(4) Ym mharagraff (7), yn lle “chwe” rhodder “deuddeng”.
(5) Yn lle paragraff (8) rhodder—“
(8) Wrth gyfrifo’r cyfnod o ddeuddeng mis y cyfeirir ato ym mharagraff 10(7), rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol ddiystyru—
(a) unrhyw gyfnod pan oedd yr ymarferydd wedi ei atal dros dro o dan y Rheoliadau hyn;
(b) unrhyw gyfnod pan oedd yr ymarferydd yn cyflawni gwasanaeth amser llawn yn y lluoedd arfog mewn argyfwng cenedlaethol (fel gwirfoddolwr neu fel arall), gwasanaeth amser llawn gorfodol yn y lluoedd arfog (gan gynnwys gwasanaeth o ganlyniad i unrhyw atebolrwydd i wasanaethu fel aelod wrth gefn), neu wasanaeth cyfatebol os oedd yn atebol am wasanaeth amser llawn gorfodol yn y lluoedd arfog; ac
(c) unrhyw gyfnod y mae gan y Bwrdd Iechyd Lleol reswm da dros ei benderfynu.”
Vaughan Gething
Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon, un o Weinidogion Cymru
1 Tachwedd 2016