
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Rheoleiddio Tai Rhent Preifat (Gorchmynion Ad-dalu Rhent) (Darpariaethau Atodol) (Cymru) 2016, a deuant i rym ar 24 Tachwedd 2016.
(2) Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “yr awdurdod” (“the authority”) yw awdurdod trwyddedu neu awdurdod tai lleol; ac
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Tai (Cymru) 2014.
2 

(1) Mae paragraff (2) yn gymwys os, yn ystod achos ar gais o dan adran 32(1) o’r Ddeddf (gorchmynion ad-dalu rhent), daw i sylw’r awdurdod mewn cysylltiad â thaliadau cyfnodol sy’n daladwy mewn cysylltiad â thenantiaeth ddomestig yr annedd y mae’r cais yn ymwneud ag ef y gall fod budd-dal tai neu ddyfarniad perthnasol o gredyd cynhwysol wedi ei dalu nad oedd yn briodol daladwy.
(2) Caiff yr awdurdod wneud cais i’r tribiwnlys eiddo preswyl am ganiatâd i ddiwygio ei gais drwy roi—
(a) yn achos budd-dal tai, yn lle cyfanswm y budd-dal tai a dalwyd, y rhan honno o’r swm hwnnw y mae’n credu ei bod yn briodol daladwy;
(b) yn achos dyfarniad perthnasol o gredyd cynhwysol, yn lle’r swm y cyfeirir ato yn adran 33(2)(a) o’r Ddeddf y credid yn wreiddiol ei fod yn gymwys, y swm y credir bellach ei fod yn gymwys (os yw’n wahanol).
(3) At ddibenion paragraffau (1) a (2)—
(a) mae swm o fudd-dal tai yn briodol daladwy os yw’r person y’i telir iddo, neu y’i telir mewn cysylltiad ag ef, â hawlogaeth iddo o dan Reoliadau Budd-dal Tai 2006 neu Reoliadau Budd-dal Tai (Personau sydd wedi cyrraedd yr oed cymwys ar gyfer credyd pensiwn y wladwriaeth) 2006 (pa un ai yn y penderfyniad cychwynnol neu fel y’i diwygiwyd neu y’i disodlwyd ar ôl hynny, neu fel y’i diwygiwyd neu y’i disodlwyd ymhellach); a
(b) mae dyfarniad perthnasol o gredyd cynhwysol yn briodol daladwy os yw’r person y’i telir iddo, neu y’i telir mewn cysylltiad ag ef, â hawlogaeth iddo o dan Reoliadau Credyd Cynhwysol 2013 (pa un ai yn y penderfyniad cychwynnol neu fel y’i diwygiwyd neu y’i disodlwyd ar ôl hynny, neu fel y’i diwygiwyd neu y’i disodlwyd ymhellach).
3 

(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), caiff yr awdurdod ddefnyddio swm a adenillir o dan orchymyn ad-dalu rhent at unrhyw rai o’r dibenion a grybwyllir ym mharagraff (2).
(2) Y dibenion yw ad-dalu costau a threuliau’r awdurdod (pa un ai’n gostau gweinyddol neu gyfreithiol) yr aed iddynt wrth, neu sy’n gysylltiedig â—
(a) gwneud y cais o dan adran 32(1) o’r Ddeddf;
(b) ymdrin ag unrhyw gais am drwydded o dan Ran 1 o’r Ddeddf (Rheoleiddio tai rhent preifat);
(c) erlyn y person priodol am drosedd o dan adran 7(5) o’r Ddeddf neu, yn ôl y digwydd, adran 13(3) o’r Ddeddf (pa un a gychwynnir achos cyn neu ar ôl gwneud y gorchymyn).
(3) Nid oes dim ym mharagraff (1) yn awdurdodi defnyddio swm ar gyfer ad-dalu costau neu dreuliau awdurdod os cafodd y costau neu’r treuliau hynny eu talu eisoes gan neu ar ran y person priodol.
4 
Rhaid talu swm a adenillir o dan orchymyn ad-dalu rhent nas defnyddir at ddiben a grybwyllir yn rheoliad 3(2) i Gronfa Gyfunol Cymru.
Carl Sargeant
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant, un o Weinidogion Cymru
17 Hydref 2016