
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Iechyd Cyhoeddus Cymru (Aelodaeth a Gweithdrefn) (Diwygio) 2016.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 15 Mawrth 2016.
2 

(1) Mae Rheoliadau Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Iechyd Cyhoeddus Cymru (Aelodaeth a Gweithdrefn) 2009 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 5 (cyfarwyddwyr anweithredol), yn lle paragraff (1) rhodder—“
(1) Bydd cyfarwyddwyr anweithredol yr Ymddiriedolaeth yn cynnwys—
(a) person sy’n ddeiliad swydd sy’n ymwneud ag iechyd mewn prifysgol;
(b) person a chanddo brofiad o awdurdodau lleol yng Nghymru;
(c) person sy’n un o gyflogeion neu’n un o aelodau corff sector gwirfoddol a chanddo brofiad o’r fath gyrff yng Nghymru.”
(3) Hepgorer paragraff (2).
Mark Drakeford
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
28 Ionawr 2016