
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Gwahardd Cadw neu Ollwng Pysgod Byw (Rhywogaethau Penodedig) (Cymru) 2015 a daw i rym ar 27 Chwefror2015.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Mae erthygl 4(c) yn gymwys o ran Cymru ac mae i “Cymru” (“Wales”), at ddibenion y paragraff hwn yn unig, yr un ystyr ag a roddir i “Wales” yn rhinwedd adran 158(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.
(4) Nid yw’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran cyflwyno unrhyw bysgod byw gan berson –
(a) y dyroddwyd trwydded iddo o dan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 708/2007 o ran defnyddio rhywogaethau estron a rhywogaethau sy’n absennol yn lleol mewn dyframaethu, neu
(b) y cyflwynwyd hysbysiad iddo o dan reoliad 7(2)(b) neu (3)(b) (hysbysiadau sy’n caniatáu symud) o Reoliadau Rhywogaethau Estron a Rhywogaethau sy’n Absennol yn Lleol mewn Dyframaethu (Cymru a Lloegr) 2011.
(5) Nid yw’r Gorchymyn hwn yn gymwys i gadw neu ollwng pysgod byw mewn dyfroedd mewndirol.
2 
Yn y Gorchymyn hwn —
 mae i “dyfroedd mewndirol” (“inland waters”) yr un ystyr ag yn adran 221 o Ddeddf Adnoddau Dŵr 1991 ond nad ydynt yn cynnwys pyllau gerddi sy’n llai na 0.4 hectar o faint, nad ydynt yn cael eu defnyddio ar gyfer pysgota, nad oes ganddynt gysylltiadau â dyfroedd eraill ac sydd wedi eu lleoli o fewn cwrtil eiddo preswyl; ac
 ystyr “pysgod dŵr croyw” (“freshwater fish”) yw unrhyw bysgod sy’n byw, neu’n gallu byw, mewn dŵr croyw.
3 

(1) Ni chaiff neb, ac eithrio o dan awdurdod trwydded a roddwyd gan Weinidogion Cymru, gadw neu ollwng unrhyw bysgod dŵr croyw byw, neu wyau byw unrhyw bysgod dŵr croyw–
(a) sy’n perthyn i urdd dacsonomaidd a restrir yng ngholofn gyntaf y tabl yn Rhan 1 o’r Atodlen; a
(b) nad ydynt yn frodorol i Gymru a Lloegr.
(2) Nid yw’r gofyniad am drwydded ym mharagraff (1) yn gymwys o ran unrhyw rywogaethau o bysgod anfrodorol a bennir yn nhrydedd golofn y tabl yn Rhan 2 o’r Atodlen ac sy’n perthyn i urdd dacsonomaidd y cyfeirir ati ym mharagraff (1).
4 
Dirymir y canlynol—
(a) Gorchymyn Gwahardd Cadw neu Ollwng Pysgod Byw (Rhywogaethau Penodedig) (Cymru) 1998;
(b) Gorchymyn Gwahardd Cadw neu Ollwng Pysgod Byw (Rhywogaethau Penodedig) (Cymru) 2003; ac
(c) rheoliad 29 o Reoliadau Rhywogaethau Estron a Rhywogaethau sy’n Absennol yn Lleol mewn Dyframaethu (Cymru a Lloegr) 2011.
Carl Sargeant
Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, un o Weinidogion Cymru
28 Ionawr 2015
YR ATODLEN
Erthygl 3
RHAN 1

Urdd dacsonomaidd Enw cyffredin
Acipenseriformes Styrsiwn, Pysgod Sbodol
Amiiformes Morgwn
Anguilliformes Llysywod
Atheriniformes Pysgod Ystlys Arian
Batrachoidiformes Môr-lyffaint
Beloniformes Môr-nodwydd, Pysgodyn hedegog
Ceratodontiformes Pysgod ysgyfeiniog
Characiformes Tetrâu, Characiniaid, Pensafwyr
Clupeiformes Penwaig, Brwyniaid, Gwangod
Cypriniformes Carp, Gwrachod, Pilcod
Cyprinodontiformes Pysgod abwyd
Esociformes Penhwyaid
Gasterosteiformes Crethyll
Gonorynchiformes Kneriidae
Gymnotiformes Llafnbysg
Lepidosyreniformes Pysgod ysgyfeiniog De Americanaidd ac Affricanaidd
Lepisosteiformes Môr-nodwyddau neu Gornbigau
Myliobatiformes Morgathod duon
Osmeriformes Brwyniaid Conwy
Osteoglossiformes Arapaimaod
Perciformes Draenogiaid, Glöynnod y môr, Ciclidau, Tiwnaod
Percopsiformes Draenogiaid brithion, Pysgod ogof
Petromyzontiformes Llysywod pendoll
Pleuronectiformes Lledod mwd a Lledod chwithig
Polypteriformes Cyrsbysg
Salmoniformes Eogiaid, Brithyllod, Powaniaid
Scorpaeniformes Pysgod dreiniog, Sgorpioniaid
Siluriformes Morfleiddiaid
Synbranchiformes Llysywod pigog
Syngnathiformes Pibellau môr, Morfeirch
Tetraodontiformes Chwyddbysgod
RHAN 2

Urdd dacsonomaidd Enw cyffredin Enw’r rhywogaeth
Cypriniformes Carp a phob amrywiaeth ohono Cyprinus carpio
Pysgod aur a phob amrywiaeth ohonynt Carassius auratus
Orffod Leuciscus idus
Salmoniformes Brithyllod seithliw, ac eithrio’r Brithyllod Arian Esgynnol Oncorhynchus mykiss ac eithrio’r Brithyllod Arian Esgynnol