
1 
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Tai (Cymru) 2014 (Diwygiadau Canlyniadol) 2015 a deuant i rym ar 27 Ebrill 2015.
2 

(1) Mae Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Contractio Allan Swyddogaethau Dyrannu Tai a Digartrefedd) 1996 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn erthygl 3 (contractio allan swyddogaethau digartrefedd) ar ôl “Part VII of the Act (homelessness)” mewnosoder “or Chapter 2 of Part 2 of the Housing (Wales) Act 2014 (help for people who are homeless or threatened with homelessness)”.
(3) Ar ddiwedd Atodlen 2 mewnosoder “Functions conferred by or under section 95 of the Housing (Wales) Act 2014.”
Lesley Griffiths
Y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi, un o Weinidogion Cymru
16 Mawrth 2015