
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cymorth Gwladol (Symiau at Anghenion Personol) a Ffioedd Gofal Cymdeithasol (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2015.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 6 Ebrill 2015.
(3) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
RHAN 1
2 
Y swm y mae awdurdod lleol i ragdybio bod ei angen ar berson at ei anghenion personol o dan adran 22(4) o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 yw £25.50 bob wythnos.
3 
Mae rheoliad 2 o Reoliadau Cymorth Gwladol (Symiau at Anghenion Personol) (Asesu Adnoddau) a Ffioedd Gofal Cymdeithasol (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2014 wedi ei ddirymu.
RHAN 2
4 

(1) Mae Rheoliadau Ffioedd Gofal Cymdeithasol (Asesu Modd a Phenderfynu Ffioedd) (Cymru) 2011 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 5 (uchafswm rhesymol y ffi am wasanaeth)—
(a) ym mharagraff (2) yn lle’r ffigur “£55.00” rhodder y ffigur “£60.00”, a
(b) ym mharagraff (3) yn lle’r ffigur “£55.00” rhodder y ffigur “£60.00”.
(3) Mae paragraff (2) o reoliad 5 o Reoliadau Cymorth Gwladol (Symiau at Anghenion Personol) (Asesu Adnoddau) a Ffioedd Gofal Cymdeithasol (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2014 wedi ei ddirymu.
5 

(1) Mae Rheoliadau Ffioedd Gofal Cymdeithasol (Taliadau Uniongyrchol) (Asesu Modd a Phenderfynu ar Ad-daliad neu Gyfraniad) (Cymru) 2011 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 5 (yr uchafswm rhesymol o ad-daliad neu gyfraniad sy’n daladwy)—
(a) ym mharagraff (1) yn lle’r ffigur “£55.00” rhodder y ffigur “£60.00”, a
(b) ym mharagraff (2) yn lle’r ffigur “£55.00” rhodder y ffigur “£60.00”.
(3) Mae paragraff (2) o reoliad 6 o Reoliadau Cymorth Gwladol (Symiau at Anghenion Personol) (Asesu Adnoddau) a Ffioedd Gofal Cymdeithasol (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2014 wedi ei ddirymu.
Mark Drakeford
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
13 Mawrth 2015