
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) (Diwygio) 2015.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ebrill 2015.
2 

(1) Mae Atodlen 2 i Reoliadau Ardrethu Annomestig (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) 1993 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Ym mharagraff 1 o Ran 1 i’r Atodlen, ar ôl yr adran “Small Business Rate Relief”, yn lle “Non-Domestic Rating (Small Business Relief) (Wales) Order 2008” rhodder “Non-Domestic Rating (Small Business Relief) (Wales) Order 2015”
(3) Ym mharagraff 1 o Ran 2 i’r Atodlen ar ôl yr adran “Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach”, yn lle “Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) 2008” rhodder “Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) 2015”.
Leighton Andrews
Y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus, un o Weinidogion Cymru
9 Mawrth 2015