
1 
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Deintyddol) (Cymru) (Diwygio) 2015 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2015.
2 
Yn rheoliad 4 o Reoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Deintyddol) (Cymru) 2006 (cyfrifo ffioedd)—
(a) ym mharagraff (1), yn lle “£13.00” rhodder “£13.50”;
(b) ym mharagraff (2), yn lle “£42.00” rhodder “£43.00”;
(c) ym mharagraff (3), yn lle “£180.90” rhodder “£185.00”;
(d) ym mharagraff (4), yn lle “£180.90” rhodder “£185.00”; ac
(e) ym mharagraff (5), yn lle “£13.00” rhodder “£13.50”.
3 
Mae Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Deintyddol) (Cymru) (Diwygio) 2014 wedi eu dirymu.
Mark Drakeford
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
3 Mawrth 2015