
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cynghorau Iechyd Cymuned (Sefydlu, Trosglwyddo Swyddogaethau a Diddymu) (Cymru) (Diwygio) 2015 a daw i rym ar 1 Ebrill 2015.
(2) Yn y Gorchymyn hwn ystyr “prif Orchymyn” (“principal Order”) yw Gorchymyn Cynghorau Iechyd Cymuned (Sefydlu, Trosglwyddo Swyddogaethau a Diddymu) (Cymru) 2010.
2 
Yn erthygl 2 (dehongli) o’r prif Orchymyn—
(a) yn lle’r diffiniad o “ardal CyngorIechyd Cymuned” (“CommunityHealthCouncilarea”) rhodder—“
 ystyr “ardal Cyngor Iechyd Cymuned” (“Community Health Council area”) yw’r ardal o Gymru y sefydlir Cyngor Iechyd Cymuned ar ei chyfer o dan erthyglau 3 a 3A o’r Gorchymyn hwn;”; a
(b) hepgorer diffiniad “y Cynghorau sy’n parhau” (“the continued Councils”).
3 
Ar ôl erthygl 3 (sefydlu cynghorau iechyd cymuned) o’r prif Orchymyn mewnosoder—“
3A. 
Sefydlir Cyngor Iechyd Cymuned Powys yn effeithiol o 1 Ebrill 2015.”
4 
Yn erthygl 4(1) (ardaloedd cynghorau iechyd cymuned) o’r prif Orchymyn, ar ôl “ngholofn 2 o Atodlen 1” mewnosoder “a cholofn 2 o Atodlen 1A”.
5 
Ar ôl erthygl 5 (swyddogaethau’r cynghorau newydd) o’r prif Orchymyn mewnosoder—“
5A. 
Dyma swyddogaethau Cyngor Iechyd Cymuned Powys—
(i) yr hyn a osodir ym mharagraff 1(a) o Atodlen 10 i’r Ddeddf;
(ii) yr hyn a osodir o bryd i’w gilydd gan Weinidogion Cymru mewn rheoliadau a wneir yn unol â pharagraff 2 o Atodlen 10 i’r Ddeddf; a
(iii) byddant yn cynnwys swyddogaethau cyn Gyngor Iechyd Cymuned Brycheiniog a Maesyfed a chyn Gyngor Iechyd Cymuned Maldwyn a drosglwyddir iddo gan erthygl 6A.”
6 
Ar ôl erthygl 6 (trosglwyddo swyddogaethau, hawliau a rhwymedigaethau i’r cynghorau newydd) o’r prif Orchymyn mewnosoder—“
6A. 

(1) Mae’r erthygl hon yn gymwys i unrhyw swyddogaethau neu hawliau oedd yn arferadwy gan gyn Gyngor Iechyd Cymuned Brycheiniog a Maesyfed a chyn Gyngor Iechyd Cymuned Maldwyn neu i rwymedigaethau oedd yn orfodadwy yn eu herbyn ar 1 Ebrill 2015 neu cyn hynny.
(2) Mae gan Gyngor Iechyd Cymuned Powys y buddiant o unrhyw swyddogaeth oedd yn arferadwy neu unrhyw hawl oedd yn orfodadwy gan gyn Gyngor Iechyd Cymuned Brycheiniog a Maesyfed a chyn Gyngor Iechyd Cymuned Maldwyn ar 1 Ebrill 2015 neu cyn hynny.
(3) Rhaid i Gyngor Cymuned Iechyd Powys gymryd cyfrifoldeb dros unrhyw rwymedigaeth oedd yn orfodadwy yn erbyn cyn Gyngor Iechyd Cymuned Brycheiniog a Maesyfed a chyn Gyngor Iechyd Cymuned Maldwyn ar 1 Ebrill 2015 neu cyn hynny.”
7 
Ar ôl erthygl 7 (darparu adroddiadau a chyfrifon cyn gynghorau) o’r prif Orchymyn mewnosoder—“
7A. 

(1) Mae’r erthygl hon yn gymwys i ddarparu adroddiadau a chyfrifon ar ran cyn Gyngor Iechyd Cymuned Brycheiniog a Maesyfed a chyn Gyngor Iechyd Cymuned Maldwyn am y cyfnod o 1 Ebrill 2014 i 31 Mawrth 2015.
(2) Rhaid i Gyngor Iechyd Cymuned Powys gymryd y camau hynny sy’n angenrheidiol i sicrhau bod adroddiadau a chyfrifon cyn Gyngor Iechyd Cymuned Brycheiniog a Maesyfed a chyn Gyngor Iechyd Cymuned Maldwyn am y cyfnod 1 Ebrill 2014 i 31 Mawrth 2015 yn cael eu darparu yn unol â rheoliadau 25 a 41 o’r Rheoliadau.”
8 
Ar ôl erthygl 8 (darparu ar gyfer parhad wrth arfer swyddogaethau) o’r prif Orchymyn mewnosoder—“
8A. 
Bydd unrhyw beth a wnaed gan gyn Gyngor Iechyd Cymuned Brycheiniog a Maesyfed a chyn Gyngor Iechyd Cymuned Maldwyn neu mewn perthynas â hwynt wrth arfer swyddogaeth neu mewn cysylltiad â’r swyddogaeth honno sydd yn rhinwedd erthygl 6A o’r Gorchymyn hwn yn dod yn swyddogaeth i Gyngor Iechyd Cymuned Powys yn cael effaith, i’r graddau y mae hynny’n angenrheidiol i barhau ei effaith ar 1 Ebrill 2015 ac wedi hynny, megis petai wedi ei wneud gan Gyngor Iechyd Cymuned Powys neu mewn perthynas ag ef.”
9 
Ar ôl erthygl 9 (diddymiadau) o’r prif Orchymyn mewnosoder—“
9A. 
Diddymir Cyngor Iechyd Cymuned Brycheiniog a Maesyfed a Chyngor Iechyd Cymuned Maldwyn gydag effaith o 1 Ebrill 2015.”
10 
Hepgorer erthygl 10 (Cyngor Iechyd Cymuned Brycheiniog a Maesyfed a Chyngor Iechyd Cymuned Maldwyn i barhau mewn bodolaeth) o’r prif Orchymyn.
11 
Hepgorer erthygl 11 (swyddogaethau’r cynghorau sy’n parhau) o’r prif Orchymyn.
12 
Ar ôl Atodlen 1 i’r prif Orchymyn mewnosoder—“
ATODLEN 1A
Erthyglau 3A a 4


Colofn 1 Colofn 2
Enw’r Cyngor Iechyd Cymuned a sefydlir o dan erthygl 3A Ardal Bwrdd Iechyd Lleol y sefydlir y Cyngor Iechyd Cymuned ar ei chyfer
1 Cyngor Iechyd Cymuned Powys Bwrdd Iechyd Lleol Addysgu Powys”
13 
Hepgorer Atodlen 3 (ardaloedd o fewn prif ardal llywodraeth leol Powys (yr ardal y sefydlir Bwrdd Iechyd Lleol Addysgu Powys ar ei chyfer) y sefydlir y Cynghorau sy’n parhau ar eu cyfer ac y maent yn arfer eu swyddogaethau drostynt) i’r prif Orchymyn.
Mark Drakeford
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
3 Mawrth 2015