
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a’r Cynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2015.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym drannoeth y diwrnod y’u gwneir.
(3) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â chynllun gostyngiadau’r dreth gyngor a wneir ar gyfer blwyddyn ariannol sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2015.
(4) Yn y Rheoliadau hyn ystyr “cynllun gostyngiadau’r dreth gyngor” (“council tax reduction scheme”) yw cynllun a wnaed gan awdurdod bilio yn unol â Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013 neu’r cynllun sy’n gymwys yn ddiofyn yn rhinwedd paragraff 6(1)(e) o Atodlen 1B i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992.
2 
Mae Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013 wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 3 i 13.
3 
Yn rheoliad 2(1) (dehongli)—
(a) yn lle’r diffiniad o “lwfans cyflogaeth a chymorth cyfrannol” rhodder—“
 ystyr “lwfans cyflogaeth a chymorth cyfrannol” (“contributory employment and support allowance”) yw lwfans o dan Ran 1 o Ddeddf Diwygio Lles 2007fel y’i diwygiwyd gan ddarpariaethau Atodlen 3, a Rhan 1 o Atodlen 14, i Ddeddf Diwygio Lles 2012 sy’n dileu cyfeiriadau at lwfans seiliedig ar incwm, a chymorth cyfrannol o dan Ran 1 o Ddeddf Diwygio Lles 2007 fel y mae’r Rhan honno yn cael effaith ar wahân i’r darpariaethau hynny;”;
(b) mewnosoder yn y man priodol—“
 ystyr “absenoldeb rhiant a rennir” (“shared parental leave”) yw absenoldeb yn rhinwedd rheoliadau a wnaed o dan adran 75E neu 75G o Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 1996;”.
4 
Yn rheoliad 10 (gwaith am dâl), ym mharagraff (7) ar ôl “absenoldeb tadolaeth” mewnosoder “, absenoldeb rhiant a rennir”.
5 
Yn rheoliad 18 (diwygio ac amnewid cynlluniau)—
(a) ym mharagraff (4) yn lle “Mae rheoliad 17” rhodder “Yn ddarostyngedig i baragraff (6), mae rheoliad 17”;
(b) ar ôl paragraff (5) mewnosoder—“
(6) Nid yw paragraff 17(1) yn gymwys pan fo cynllun wedi ei ddiwygio o ganlyniad yn unig i un neu ragor o ddiwygiadau a wneir i’r Rheoliadau hyn.”
6 
Yn rheoliad 28(5) (personau sydd i’w trin fel rhai nad ydynt ym Mhrydain Fawr)—
(a) yn is-baragraff (j) hepgorer “, lwfans ceisio gwaith yn seiliedig ar incwm”;
(b) ar ôl is-baragraff (k)—
(i) hepgorer “.”;
(ii) ychwaneger—“; neu
(l) yn cael lwfans ceisio gwaith yn seiliedig ar incwm ac â’r hawl i breswylio ac eithrio hawl i breswylio o fewn paragraff (4)(a) i (d).”
7 
Yn Atodlen 1 (penderfynu cymhwystra am ostyngiad: pensiynwyr)—
(a) ym mharagraff 3 (didyniadau annibynyddion: pensiynwyr)—
(i) yn is-baragraff (1)(a), yn lle “£11.30” rhodder “£11.75”;
(ii) yn is-baragraff (1)(b) yn lle “£3.75” rhodder “£3.90”;
(iii) yn is-baragraff (2)(a) yn lle “£188.00” rhodder “£189.00”;
(iv) yn is-baragraff (2)(b) yn lle “£188.00”, “£326.00” a “£7.50” rhodder “£189.00”, “£328.00” a “£7.80” yn y drefn honno;
(v) yn is-baragraff (2)(c) yn lle “£326.00”, “£406.00” a “£9.45” rhodder “£328.00”, “£408.00” a “£9.85” yn y drefn honno;
(vi) yn is-baragraff (8)—(aa) hepgorer y “neu” ar ddiwedd paragraff (a);(bb) ar ôl paragraff (b) ychwaneger—“; neu
(c) y mae ganddo hawlogaeth i ddyfarniad o gredyd cynhwysol pan fo’r dyfarniad yn cael ei gyfrifo ar y sail nad oes gan y person unrhyw incwm a enillir.”;
(vii) ar ôl is-baragraff (9) mewnosoder—“
(10) At ddibenion is-baragraff (8), mae i “incwm a enillir” (“earned income”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 52 o Reoliadau Credyd Cynhwysol 2013.”;
(b) ym mharagraff 10(1) (ystyr “incwm”: pensiynwyr)—
(i) y mharagraff (j)(xvi) hepgorer “cyffredin”;
(ii) ar ôl is-baragraff (j)(xvi) mewnosoder—“
(xvia) tâl rhiant statudol a rennir sy’n daladwy o dan Ran 12ZC o DCBNC;”;
(c) ym mharagraff 12 (enillion enillwyr cyflogedig: pensiynwyr), ar ôl is-baragraff (1)(j) mewnosoder—“
(ja) tâl rhiant statudol a rennir sy’n daladwy o dan Ran 12ZC o DCBNC;”;
(d) ym mharagraff 13 (cyfrifo enillion net enillwyr cyflogedig: pensiynwyr), yn is-baragraff (2)(d)—
(i) hepgorer “cyffredin neu ychwanegol”;
(ii) ar ôl “tâl tadolaeth statudol” ychwaneger “, tâl rhiant statudol a rennir”;
(e) ym mharagraff 19 (trin costau gofal plant: pensiynwyr)—
(i) yn is-baragraff (11)(c) ac (e) ar ôl “Rheoliadau Lwfans Cyflogaeth a Chymorth 2008” mewnosoder “neu Reoliadau Lwfans Cyflogaeth a Chymorth 2013”;
(ii) yn is-baragraff (15)—(aa) ar ôl “absenoldeb tadolaeth” yn y ddau fan lle y mae’r geiriau hynny yn digwydd, mewnosoder “, absenoldeb rhiant a rennir”;(bb) hepgorer “cyffredin”;(cc) ar ôl “lwfans mamolaeth o dan adran 35 o’r Ddeddf honno” mewnosoder “, tâl rhiant statudol a rennir yn rhinwedd adran 171ZU neu 171ZV o’r Ddeddf honno”;
(iii) yn is-baragraff (16)—(aa) ar ôl “absenoldeb tadolaeth” mewnosoder “, absenoldeb rhiant a rennir”;(bb) hepgorer “cyffredin neu ychwanegol” yn y ddau fan lle y mae’r geiriau hynny yn digwydd;(cc) ar ôl “tâl tadolaeth statudol” yn y ddau fan lle y mae’r geiriau hynny yn digwydd, mewnosoder “, tâl rhiant statudol a rennir”.
8 
Yn Atodlen 2 (symiau cymwysadwy: pensiynwyr)—
(a) yng ngholofn (2) o’r Tabl ym mharagraff 1 (lwfansau personol)—
(i) yn is-baragraff (1) yn lle “£148.35” a “£165.15” rhodder “£151.20” a “£166.05” yn y drefn honno;
(ii) yn is-baragraff (2) yn lle “£226.50” a “£247.20” rhodder “£230.85” a “£248.30” yn y drefn honno;
(iii) yn is-baragraff (3) yn lle “£226.50” a “£78.15” rhodder “£230.85” a “£79.65” yn y drefn honno;
(iv) yn is-baragraff (4) yn lle “£247.20” a “£82.05” rhodder “£248.30” a “£82.25” yn y drefn honno;
(b) yn ngholofn (2) o’r Tabl ym mharagraff 2 (symiau plentyn neu berson ifanc), yn lle “£66.33” ym mhob man lle y mae’n digwydd, rhodder “£66.90”;
(c) ym mharagraff 3 (premiwm teulu) yn lle “£17.40” rhodder “£17.45”;
(d) yn ail golofn y Tabl yn Rhan 4 (symiau’r premiymau a bennir yn Rhan 3)—
(i) yn is-baragraff (1) yn lle “£61.10” ym mhob man lle y mae’n digwydd, rhodder “£61.85” ac yn lle “£122.20” rhodder “£123.70”;
(ii) yn is-baragraff (2) yn lle “£24.08” rhodder “£24.43”;
(iii) yn is-baragraff (3) yn lle “£59.50” rhodder “£60.06”;
(iv) yn is-baragraff (4) yn lle “£34.20” rhodder “£34.60”.
9 
Yn Atodlen 3 (symiau a ddiystyrir o enillion ceisydd: pensiynwyr)—
(a) ym mharagraff 5(1)(d)(ii) ar ôl “Reoliadau Lwfans Cyflogaeth a Chymorth 2008” mewnosoder “neu reoliad 7 o Reoliadau Lwfans Cyflogaeth a Chymorth 2013”;
(b) ym mharagraff 6(6)(a), ar ôl “Reoliadau Lwfans Cyflogaeth a Chymorth 2008” mewnosoder “neu reoliad 39(1)(a), (b) neu (c) o Reoliadau Lwfans Cyflogaeth a Chymorth 2013”.
10 
Yn Atodlen 6 (penderfynu cymhwystra am ostyngiad)—
(a) ym mharagraff 5 (didyniadau annibynyddion: personau nad ydynt yn bensiynwyr)—
(i) yn is-baragraff (1)(a) yn lle “£11.30” rhodder “£11.75”;
(ii) yn is-baragraff (1)(b) yn lle “£3.75” rhodder “£3.90”;
(iii) yn is-baragraff (2)(a) yn lle “£188.00” rhodder “£189.00”;
(iv) yn is-baragraff (2)(b) yn lle “£188.00”, “£326.00” a “£7.50” rhodder “£189.00”, “£328.00” a “£7.80” yn y drefn honno;
(v) yn is-baragraff (2)(c) yn lle “£326.00”, “£406.00” a “£9.45” rhodder “£328.00”, “£408.00” a “£9.85” yn y drefn honno;
(vi) yn is-baragraff (8)—(aa) hepgorer y “neu” ar ddiwedd paragraff (a);(bb) ar ôl paragraff (b) mewnosoder—“; neu
(c) y mae ganddo hawlogaeth i ddyfarniad o gredyd cynhwysol pan fo’r dyfarniad yn cael ei gyfrifo ar y sail nad oes gan y person unrhyw incwm a enillir.”;
(vii) ar ôl is-baragraff (9) mewnosoder—“
(10) At ddibenion is-baragraff (8), mae i “incwm a enillir” (“earned income”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 52 o Reoliadau Credyd Cynhwysol 2013.”;
(b) ym mharagraff 14 (enillion enillwyr cyflogedig: personau nad ydynt yn bensiynwyr)—
(i) yn is-baragraff (1)(j) ar ôl “tâl tadolaeth statudol” mewnosoder “, tâl rhiant statudol a rennir”;
(ii) yn is-baragraff (1)(k) ar ôl “absenoldeb tadolaeth” mewnosoder “, absenoldeb rhiant a rennir”;
(c) ym mharagraff 15 (cyfrifo enillion net enillwyr cyflogedig: personau nad ydynt yn bensiynwyr), yn is-baragraff (3)(d)—
(i) hepgorer “cyffredin neu ychwanegol”;
(ii) ar ôl “tâl tadolaeth statudol” mewnosoder “, tâl rhiant statudol a rennir”;
(d) ym mharagraff 17 (cyfrifo incwm ac eithrio enillion: personau nad ydynt yn bensiynwyr) yn is-baragraff (4), ar ôl “Rheoliadau Lwfans Cyflogaeth a Chymorth 2008” mewnosoder “neu adran 11J o Ddeddf Diwygio Lles 2007”;
(e) ym mharagraff 21 (trin costau gofal plant)—
(i) yn is-baragraff (11)(c) ac (e) ar ôl “Rheoliadau Lwfans Cyflogaeth a Chymorth 2008” mewnosoder “neu Reoliadau Lwfans Cyflogaeth a Chymorth 2013”;
(ii) yn is-baragraff (15)—(aa) ar ôl “absenoldeb tadolaeth” yn y ddau fan lle y mae’r geiriau hynny yn digwydd, mewnosoder “, absenoldeb rhiant a rennir”;(bb) hepgorer “cyffredin”;(cc) ar ôl “lwfans mamolaeth o dan adran 35 o’r Ddeddf honno” mewnosoder “, tâl rhiant statudol a rennir o dan adran 171ZU neu 171ZV o’r Ddeddf honno”;
(iii) yn is-baragraff (16)—(aa) ar ôl “absenoldeb tadolaeth” mewnosoder “, absenoldeb rhiant a rennir”;(bb) hepgorer “cyffredin neu ychwanegol” yn y ddau fan lle y mae’r geiriau hynny yn digwydd;(cc) ar ôl “tâl tadolaeth statudol” yn y ddau fan lle y mae’r geiriau hynny yn digwydd, mewnosoder “, tâl rhiant statudol a rennir”.
11 
Yn Atodlen 7 (symiau cymwysadwy: personau nad ydynt yn bensiynwyr)—
(a) yng ngholofn (2) o’r Tabl ym mharagraff 1 (lwfansau personol)—
(i) yn is-baragraff (1) yn lle “£72.40” ym mhob man lle y mae’n digwydd rhodder “£73.10” ac yn lle “£57.35” rhodder “£57.90”;
(ii) yn is-baragraff (2) yn lle “£72.40” rhodder “£73.10”;
(iii) yn is-baragraff (3) yn lle “£113.70” rhodder “£114.85”;
(b) yng ngholofn (2) o’r Tabl ym mharagraff 3 (lwfansau personol), yn lle “£66.33” ym mhob man lle y mae’n digwydd rhodder “£66.90”;
(c) ym mharagraff 4(1)(b) (premiwm teulu) yn lle “£17.40” mewnosoder “£17.45”;
(d) yn ail golofn y Tabl yn Rhan 4 (symiau’r premiymau a bennir yn Rhan 3)—
(i) yn is-baragraff (1) yn lle “£31.85” a “£45.40” rhodder “£32.25” a “£45.95” yn y drefn honno;
(ii) yn is-baragraff (2) yn lle “£61.10” ym mhob man lle y mae’n digwydd rhodder “£61.85” ac yn lle “£122.20” rhodder “£123.70”;
(iii) yn is-baragraff (3) yn lle “£59.50” rhodder “£60.06”;
(iv) yn is-baragraff (4) yn lle “£34.20” rhodder “£34.60”;
(v) yn is-baragraff (5) yn lle “£24.08”, “£15.55” a “£22.35” rhodder “£24.43”, “£15.75” a “£22.60” yn y drefn honno;
(e) ym mharagraff 18 (yr elfennau) ar ôl “Reoliadau Lwfans Cyflogaeth a Chymorth 2008” mewnosoder “neu reoliad 7 o Reoliadau Lwfans Cyflogaeth a Chymorth 2013”;
(f) ym mharagraff 23 (swm yr elfen gweithgaredd perthynol i waith), yn lle “£28.75” rhodder “£29.05”;
(g) ym mharagraff 24 (swm yr elfen gymorth), yn lle “£35.75” rhodder “£36.20”;
(h) ym mharagraff 25(1)(b)(i), ar ôl “Reoliadau Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (Darpariaethau Trosiannol, Budd-dal Tai a Budd-dal Treth Gyngor) (Dyfarniadau Presennol) (Rhif 2) 2010” mewnosoder “neu reoliad 26 o Reoliadau Lwfans Cyflogaeth a Chymorth 2013”;
(i) ym mharagraff 27(1)(c), ar ôl “Rheoliadau Lwfans Cyflogaeth a Chymorth 2008” mewnosoder “neu reoliad 86 o Reoliadau Lwfans Cyflogaeth a Chymorth 2013”.
12 
Yn Atodlen 8 (symiau a ddiystyrir wrth gyfrifo enillion: personau nad ydynt yn bensiynwyr) , ym mharagraff 12(6)(a), ar ôl “Reoliadau Lwfans Cyflogaeth a Chymorth 2008” mewnosoder “neu reoliad 39(1)(a), (b) neu (c) o Reoliadau Lwfans Cyflogaeth a Chymorth 2013”.
13 
Yn Atodlen 11 (myfyrwyr), ym mharagraff 3(2)(f), ar ôl “Rheoliadau Lwfans Cyflogaeth a Chymorth 2008” mewnosoder “neu Reoliadau Lwfans Cyflogaeth a Chymorth 2013”.
14 
Mae’r cynllun a nodir yn yr Atodlen i Reoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Cynllun Diofyn) (Cymru) 2013 wedi ei ddiwygio yn unol â rheoliadau 15 i 30.
15 

(1) Ym mharagraff 2(1) (dehongli)—
(a) yn lle’r diffiniad o “lwfans cyflogaeth a chymorth cyfrannol” (“contributory employment and support allowance”), rhodder—“
 ystyr “lwfans cyflogaeth a chymorth cyfrannol” (“contributory employment and support allowance”) yw lwfans o dan Ran 1 o Ddeddf Diwygio Lles 2007 fel y’i diwygiwyd gan ddarpariaethau Atodlen 3 a Rhan 1 o Atodlen 14, i Ddeddf Diwygio Lles 2012 sy’n dileu cyfeiriadau at lwfans yn seiliedig ar incwm, a lwfans cyfrannol o dan Ran 1 o Ddeddf Diwygio Lles 2007 fel y mae’r Rhan honno yn cael effaith ar wahân i’r darpariaethau hynny;”;
(b) yn y ddiffiniad o “absenoldeb tadolaeth” (“paternity leave”) hepgorer “cyffredin”;
(c) mewnosoder yn y man priodol—“
 ystyr “absenoldeb rhiant a rennir” (“shared parental leave”) yw absenoldeb yn rhinwedd adran 75E neu 75G o Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 1996;”.
16 
Ym mharagraff 10 (gwaith am dâl), yn is-baragraff (7), ar ôl “absenoldeb tadolaeth” mewnosoder “, absenoldeb rhiant a rennir”.
17 
Ym mharagraff 19(5) (dosbarth o bersonau a eithrir o’r cynllun hwn: personau sydd i’w trin fel rhai nad ydynt ym Mhrydain Fawr)—
(a) Ym mharagraff (j) hepgorer “, lwfans ceisio gwaith ar sail incwm”;
(b) ar ôl paragraff (k)—
(i) hepgorer “.”;
(ii) ychwaneger—“; neu
(l) yn cael lwfans ceisio gwaith ar sail incwm ac mae ganddo hawl i breswylio ac eithrio hawl i breswylio o fewn is-baragraff (4)(a) i (d).”
18 
Ym mharagraff 28 (didyniadau annibynyddion: pensiynwyr a phersonau nad ydynt yn bensiynwyr)—
(a) yn is-baragraff (1)(a), yn lle “£11.30” rhodder “£11.75”;
(b) yn is-baragraff 1(b), yn lle “£3.75” rhodder “£3.90”;
(c) yn is-baragraff 2(a), yn lle “£188.00” rhodder “£189.00”;
(d) yn is-baragraff (2)(b) yn lle “£188.00”, “£326.00” a “£7.50” rhodder “£189.00”, “£328.00” a “£7.80” yn y drefn honno;
(e) yn is-baragraff (2)(c) yn lle “£326.00”, “£406.00” a “£9.45” rhodder “£328.00”, “£408.00” a “£9.85” yn y drefn honno;
(f) yn is-baragraff (8)—
(i) hepgorer y “neu” ar ddiwedd paragraff (a);
(ii) ar ôl paragraff (b) mewnosoder—“; neu
(c) y mae ganddo hawlogaeth i ddyfarniad o gredyd cynhwysol pan fo’r dyfarniad yn cael ei gyfrifo ar y sail nad oes gan y person unrhyw incwm a enillir.”;
(g) ar ôl paragraff (9) mewnosoder—“
(10) At ddibenion is-baragraff (8), mae i “incwm a enillir” (“earned income”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 52 o Reoliadau Credyd Cynhwysol 2013.”
19 
Ym mharagraff 36 (ystyr “incwm”: pensiynwyr), yn is-baragraff (l)(j)—
(a) yn is-baragraff (xvi) hepgorer “cyffredin”;
(b) ar ôl is-baragraff (xvi) mewnosoder—“
(xvia) tâl rhiant statudol a rennir sy’n daladwy o dan Ran 12ZC o DCBNC;”.
20 
Ym mharagraff 38 (enillion enillwyr cyflogedig: pensiynwyr), ar ôl is-baragraff (1) (j) mewnosoder—“
(ja) tâl rhiant statudol a rennir sy’n daladwy o dan Ran 12ZC o DCBNC;”.
21 
Ym mharagraff 39 (cyfrifo enillion net enillwyr cyflogedig: pensiynwyr), yn is-baragraff (2)(d) ar ôl “tâl tadolaeth statudol” mewnosoder “, tal rhiant statudol a rennir”.
22 
Ym mharagraff 48 (enillion enillwyr cyflogedig: personau nad ydynt yn bensiynwyr)—
(a) yn is-baragraffau (1)(j) ar ôl “tâl tadolaeth statudol”, mewnosoder “, tâl rhiant statudol a rennir”;
(b) yn is-baragraff (1)(k) ar ôl “absenoldeb tadolaeth” mewnosoder “, absenoldeb rhiant a rennir”.
23 
Ym mharagraff 49 (cyfrifo enillion net enillwyr cyflogedig: personau nad ydynt yn bensiynwyr), yn is-baragraff (3)(d)—
(a) hepgorer “cyffredin neu ychwanegol”;
(b) ar ôl “tâl tadolaeth statudol” mewnosoder “, tâl rhiant statudol a rennir”.
24 
Ym mharagraff 51 (cyfrifo incwm ac eithrio enillion: personau nad ydynt yn bensiynwyr) yn is-baragraff (4), ar ôl “Rheoliadau Lwfans Cyflogaeth a Chymorth 2008” rhodder “neu adran 11J o Ddeddf Diwygio Lles 2007”.
25 
Ym mharagraff 55 (trin costau gofal plant)—
(a) yn is-baragraff (11)(e) a (g) ar ôl “Rheoliadau Lwfans Cyflogaeth a Chymorth 2008” mewnosoder “neu Reoliadau Lwfans Cyflogaeth a Chymorth 2013”;
(b) yn is-baragraff (15)—
(i) ar ôl “absenoldeb tadolaeth” yn y ddau fan lle y mae’r geiriau hynny yn digwydd, mewnosoder “, absenoldeb rhiant a rennir”;
(ii) hepgorer “cyffredin”;
(iii) ar ôl “lwfans mamolaeth o dan adran 35 o’r Ddeddf honno” mewnosoder “, tâl rhiant statudol a rennir o dan adran 171ZU neu 171ZV o’r Ddeddf honno”;
(c) yn is-baragraff (16)—
(i) ar ôl “absenoldeb tadolaeth” mewnosoder “, absenoldeb rhiant a rennir”;
(ii) hepgorer “cyffredin neu ychwanegol” yn y ddau fan lle y mae’r geiriau hynny yn digwydd;
(iii) ar ôl “tâl tadolaeth statudol” yn y ddau fan lle y mae’r geiriau hynny yn digwydd, mewnosoder “, tâl rhiant statudol a rennir”.
26 
Ym mharagraff 72(2)(f), ar ôl “Rheoliadau Lwfans Cyflogaeth a Chymorth 2008” mewnosoder “neu Reoliadau Lwfans Cyflogaeth a Chymorth 2013”.
27 
Yn Atodlen 2 (symiau cymwysadwy: pensiynwyr)
(a) yng ngholofn (2) o’r Tabl ym mharagraff 1 (lwfansau personol)—
(i) yn is-baragraff (1) yn lle “£148.35” a “£165.15” rhodder “£151.20” a “£166.05” yn y drefn honno;
(ii) yn is-baragraff (2) yn lle “£226.50” a “£247.20” rhodder “£230.85” a “£248.30” yn y drefn honno;
(iii) yn is-baragraff (3) yn lle “£226.50” a “£78.15” rhodder “£230.85” a “£79.65” yn y drefn honno;
(iv) yn is-baragraff (4) yn lle “£247.20” a “£82.05” rhodder “£248.30” a “£82.25” yn y drefn honno;
(b) yn ngholofn (2) o’r Tabl ym mharagraff 2 (symiau plentyn neu berson ifanc), yn lle “£66.33” ym mhob man lle y mae’n digwydd, rhodder “£66.90”;
(c) yn mharagraff 3 (premiwm teulu), yn lle “£17.40” rhodder “£17.45”;
(d) yn ail golofn y Tabl yn Rhan 4 (symiau’r premiymau a bennir yn Rhan 3)—
(i) yn is-baragraff (1) yn lle “£61.10” ym mhob man lle y mae’n digwydd rhodder “£61.85” ac yn lle “£122.20” rhodder “£123.70”;
(ii) yn is-baragraff (2) yn lle “£24.08” rhodder “£24.43”;
(iii) yn is-baragraff (3) yn lle “£59.50” rhodder “£60.06”;
(iv) yn is-baragraff (4) yn lle “£34.20” rhodder “£34.60”.
28 
Yn Atodlen 3 (symiau cymwysadwy: personau nad ydynt yn bensiynwyr)—
(a) yng ngholofn (2) o’r Tabl ym mharagraff 1 (lwfansau personol)—
(i) yn is-baragraff (1) yn lle “£72.40” ym mhob man lle y mae’n digwydd rhodder “£73.10” ac yn lle “£57.35” rhodder “£57.90”;
(ii) yn is-baragraff (2) yn lle “£72.40” rhodder “£73.10”;
(iii) yn is-baragraff (3) yn lle “£113.70” rhodder “£114.85”;
(b) yng ngholofn (2) o’r Tabl ym mharagraff 3 (lwfansau personol), yn lle “£66.33” ym mhob man lle y mae’n digwydd rhodder “£66.90”;
(c) ym mharagraff 4(1)(b) (premiwm teulu), yn lle “£17.40” rhodder “£17.45”;
(d) yn ail golofn y Tabl yn Rhan 4 (symiau’r premiymau a bennir yn Rhan 3)—
(i) yn is-baragraff (1) yn lle “£31.85” a “£45.40” rhodder “£32.25” a “£45.95” yn y drefn honno;
(ii) yn is-baragraff (2) yn lle “£61.10” ym mhob man lle y mae’n digwydd rhodder “£61.85” ac yn lle “£122.20” rhodder “£123.70”;
(iii) yn is-baragraff (3) yn lle “£59.50” rhodder “£60.06”;
(iv) yn is-baragraff (4) yn lle “£34.20” rhodder “£34.60”;
(v) yn is-baragraff (5) yn lle “£24.08”, “£15.55” a “£22.35” rhodder “£24.43”, “£15.75” a “£22.60” yn y drefn honno;
(e) ym mharagraff 18(c)(ii) (yr elfennau) ar ôl “Reoliadau Lwfans Cyflogaeth a Chymorth 2008” mewnosoder “neu reoliad 7 o Reoliadau Lwfans Cyflogaeth a Chymorth 2013”;
(f) ym mharagraff 23 (swm yr elfen gweithgaredd perthynol i waith), yn lle “£28.75” rhodder “£29.05”;
(g) ym mharagraff 24 (swm yr elfen gymorth), yn lle “£35.75” rhodder “£36.20”;
(h) ym mharagraff 25(1)(b)(i) ar ôl “Reoliadau Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (Darpariaethau Trosiannol, Budd-dal Tai a Budd-dal Treth Gyngor) (Dyfarniadau Presennol) (Rhif 2) 2010” rhodder “neu reoliad 26 o Reoliadau Lwfans Cyflogaeth a Chymorth 2013”.
29 
Yn Atodlen 4 (symiau a ddiystyrir o enillion ceisydd: pensiynwyr)—
(a) ym mharagraff 5(1)(d)(ii) ar ôl “Reoliadau Lwfans Cyflogaeth a Chymorth 2008” mewnosoder “neu reoliad 7 o Reoliadau Lwfans Cyflogaeth a Chymorth 2013”;
(b) ym mharagraff 6(6)(a), ar ôl “Reoliadau Lwfans Cyflogaeth a Chymorth 2008” mewnosoder “neu reoliad 39(1)(a), (b) neu (c) o Reoliadau Lwfans Cyflogaeth a Chymorth 2013”.
30 
Yn Atodlen 6 (symiau a ddiystyrir wrth gyfrifo enillion: personau nad ydynt yn bensiynwyr), ym mharagraff 12(6)(a) ar ôl “Reoliadau Lwfans Cyflogaeth a Chymorth 2008” mewnosoder “neu reoliad 39(1)(a), (b) neu (c) o Reoliadau Lwfans Cyflogaeth a Chymorth 2013”.
31 

(1) Nid yw’r diwygiadau yn rheoliadau 6 ac 17 yn gymwys i berson sydd, ar 31 Mawrth 2015—
(a) yn atebol i dalu’r dreth gyngor ar gyfradd is yn rhinwedd cynllun gostyngiadau’r dreth gyngor; a
(b) â hawlogaeth i lwfans ceisio gwaith yn seiliedig ar incwm,
hyd nes bod y cyntaf o’r digwyddiadau ym mharagraff (2) yn digwydd.
(2) Dyma’r digwyddiadau—
(a) mae’r person yn gwneud cais newydd am ostyngiad o dan gynllun gostyngiadau’r dreth gyngor; neu
(b) mae’r person yn peidio â bod â hawlogaeth i lwfans ceisio gwaith yn seiliedig ar incwm.
Leighton Andrews
Y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus, un o Weinidogion Cymru
20 Ionawr 2015