
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Tai (Cymru) 2014 (Cychwyn Rhif 2) 2015.
(2) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Tai (Cymru) 2014.
2 
25 Chwefror 2015 yw’r diwrnod penodedig y bydd y darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf yn dod i rym—
(a) adran 101 (asesu anghenion llety);
(b) adran 102 (adroddiad yn dilyn asesiad);
(c) adran 105 (darparu gwybodaeth ar gais);
(d) adran 106 (canllawiau) i’r graddau nad yw eisoes mewn grym;
(e) adran 107 (dyletswyddau mewn perthynas â strategaethau tai);
(f) adran 108 (dehongli);
(g) adran 109 (pŵer i ddiwygio’r diffiniad o Sipsiwn a Theithwyr); a
(h) adran 110 (diwygiadau canlyniadol) a Rhan 2 o Atodlen 3 i’r Ddeddf.
Lesley Griffiths
Y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi, un o Weinidogion Cymru
23 Chwefror 2015