
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Sector Amaethyddol (Cymru) 2014 (Addasu Canlyniadol) 2015 a daw i rym ar 9 Rhagfyr 2015.
(2) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
2 
Mae adran 46(4) o Ddeddf Isafswm Cyflog Cenedlaethol 1998 wedi ei haddasu fel a ganlyn—
(a) ar ddiwedd paragraff (b) hepgorer “and”;
(b) ar ddiwedd paragraff (c) mewnosoder—“; and
(d) the Agricultural Sector (Wales) Act 2014.”
Rebecca Evans
Y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd, o dan awdurdod y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, un o Weinidogion Cymru
8 Rhagfyr 2015