
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Daliadau Amaethyddol (Unedau Cynhyrchu) (Cymru) (Rhif 3) 2015, mae’n gymwys o ran Cymru, a daw i rym ar 30 Rhagfyr 2015.
(2) Yn y Gorchymyn hwn—
 ystyr “ardal lai ffafriol” (“less favoured area”) yw tir dan anfantais neu dir dan anfantais ddifrifol;
 mae i “hectar cymwys” yr un ystyr ag a roddir i “eligible hectare” yn Erthygl 32(2) o Reoliad 1307/2013;
 ystyr “mapiau dynodedig” (“designated maps”) yw’r ddwy gyfrol o fapiau dyddiedig 20 Mai 1991, sydd wedi eu rhifo 1 a 2, y naill gyfrol a’r llall wedi eu marcio â “Volume of maps of less favoured farming areas in Wales” ac â rhif y gyfrol, ac sydd wedi eu llofnodi gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru a’u hadneuo yn swyddfeydd Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ;
 ystyr “Rheoliad 1307/2013” (“Regulation 1307/2013”) yw Rheoliad (EU) Rhif 1307/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n sefydlu rheolau ar gyfer taliadau uniongyrchol i ffermwyr o dan gynlluniau cymorth o fewn fframwaith y polisi amaethyddol cyffredin;
 ystyr “tir dan anfantais” (“disadvantaged land”) (ac eithrio yn yr ymadrodd “tir dan anfantais ddifrifol”) yw unrhyw ardal o dir sydd wedi ei lliwio’n las ar y mapiau dynodedig;
 ystyr “tir dan anfantais ddifrifol” (“severely disadvantaged land”) yw’r ardal o dir sydd wedi ei lliwio’n binc ar y mapiau dynodedig.
2 

(1) Mae paragraffau (2) a (3) yn cael effaith at y diben o asesu gallu cynhyrchiol uned o dir amaethyddol a leolir yng Nghymru, er mwyn penderfynu a yw’r uned honno’n uned fasnachol o dir amaethyddol o fewn ystyr “commercial unit of agricultural land” ym mharagraff 3(1) o Atodlen 6 i Ddeddf Daliadau Amaethyddol 1986.
(2) Os gellir defnyddio’r tir dan sylw, pan ffermir ef dan reolaeth gymwys, i gynhyrchu unrhyw dda byw, cnwd âr fferm, cnwd garddwriaethol yn yr awyr agored, neu ffrwythau fel y crybwyllir yn unrhyw un o’r cofnodion 1 i 3 yng ngholofn 1 yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn, yna—
(a) yr uned gynhyrchu a ragnodir o ran y defnydd hwnnw o’r tir fydd yr uned yn y cofnod yng ngholofn 2 yn yr Atodlen honno gyferbyn â’r cofnod hwnnw, a
(b) y swm a bennir, ar gyfer y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau ar 12 Medi 2015, yn incwm blynyddol net o’r uned gynhyrchu honno yn y cyfnod hwnnw fydd y swm yn y cofnod yng ngholofn 3 o’r Atodlen honno gyferbyn â’r cofnod hwnnw fel y’i darllenir ynghyd ag unrhyw nodyn perthnasol i’r Atodlen honno.
(3) Os oedd tir sy’n gallu cynhyrchu incwm blynyddol net, pan ffermir ef dan reolaeth gymwys, yn hectar cymwys yn 2014 (gweler cofnod 4 yng ngholofn 1), yna—
(a) yr uned gynhyrchu a ragnodir o ran y defnydd hwnnw o’r tir fydd yr uned yn y cofnod yng ngholofn 2 o’r Atodlen honno gyferbyn â’r cofnod hwnnw, a
(b) y swm a bennir, ar gyfer y cyfnod o 12 mis yn dechrau ar 12 Medi 2015, yn incwm blynyddol net o’r uned gynhyrchu honno yn y cyfnod hwnnw fydd y swm yn y cofnod yng ngholofn 3 yn yr Atodlen honno gyferbyn â’r cofnod hwnnw.
3 

(1) Mae Gorchymyn Daliadau Amaethyddol (Unedau Cynhyrchu) (Cymru) (Rhif 2) 2015 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn y diffiniad o “mapiau dynodedig” yn lle “1999” rhodder “1991”.
Rebecca Evans
Y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd, o dan awdurdod y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, un o Weinidogion Cymru
2 Rhagfyr 2015
YR ATODLEN
Erthygl 2


Colofn 1Defnydd ffermio Colofn 2Uned gynhyrchu Colofn 3Incwm blynyddol net o’r uned gynhyrchu (£)
1. Da byw
Buchod godro buwch 450
Buchod bridio cig eidion: ar dir mewn ardal lai ffafriol buwch –172
ar dir arall buwch –189
Gwartheg pesgi cig eidion (lled-arddwys) y pen -116
Buchod llaeth i lenwi bylchau y pen 109
Mamogiaid: ar dir mewn ardal lai ffafriol mamog –32
ar dir arall mamog –16
Ŵyn stôr (gan gynnwys ŵyn benyw a werthir fel hesbinod) y pen 5
Moch: hychod a banwesod torrog hwch neu fanwes 250
moch porc y pen 13.40
moch torri y pen 17
moch bacwn y pen 20.40
Dofednod: ieir dodwy aderyn 4.40
brwyliaid aderyn 0.80
cywennod ar ddodwy aderyn 0.40
Tyrcwn Nadolig aderyn 6.20
2. Cnydau âr fferm
Haidd hectar -69
Ffa hectar 28
Rêp had olew hectar -58
Pys sych hectar 70
Tatws: cynnar cyntaf hectar 2,540
prif gnwd (gan gynnwys hadyd) hectar 1,550
Betys siwgr hectar 540
Gwenith hectar 90
3. Cnydau garddwriaethol awyr agored a ffrwythau
Ffrwythau’r berllan hectar 2,870
Ffrwythau meddal hectar 9,040
4. Hectarau cymwys
Tir a oedd, yn 2014, yn hectar cymwys at ddibenion Rheoliad 1307/2013 tir dan anfantais ddifrifol hectar 65.38
tir dan anfantais hectar 90.61
pob tir arall hectar 36.93

