
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Ffioedd Cofrestru) (Cymru) 2015 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2015.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Mae’r rheoliadau a nodir yn Atodlen 1 wedi eu dirymu.
2 
Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “Cofrestr” (“Register”) yw’r gofrestr a sefydlir ac a gynhelir o dan adran 9 o Ddeddf 2014; ac ystyr “cofrestru” (“registration”) yw cofrestru yn y Gofrestr;
 ystyr “cyflogwr” (“employer”) yw person sy’n cyflogi person cofrestredig i ddarparu gwasanaethau perthnasol neu’n ei gymryd ymlaen i ddarparu gwasanaethau perthnasol;
 ystyr “Deddf 2014” (“the 2014 Act”) yw Deddf Addysg (Cymru) 2014;
 ystyr “dyddiad hysbysu” (“notification date”) yw’r dyddiad yr hysbysir cyflogwr amdano gan y Cyngor fel y dyddiad y daw’r ffi yn daladwy; ac
 ystyr “ffi” (“fee”) yw unrhyw ffi sy’n daladwy yn rhinwedd adran 12 o Ddeddf 2014.
3 

(1) Y ffioedd sy’n daladwy ar gyfer y cyfnod sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2015 ac sy’n dod i ben ar 31 Mawrth 2016 yw—
(a) £45 i athrawon ysgol; a
(b) £45 i athrawon addysg bellach.
(2) Mae swm a bennir gan Weinidogion Cymru o dro i dro i’w dalu tuag at y ffioedd sy’n daladwy yn unol â pharagraff (1).
(3) Rhaid i swm unrhyw gymhorthdal a bennir gan Weinidogion Cymru yn unol â pharagraff (2) gael ei gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru.
(4) Caiff y Cyngor wneud darpariaeth—
(a) i godi ac adennill ffioedd a bennir gan Weinidogion Cymru mewn cysylltiad â—
(i) ceisiadau i gofrestru neu i ailosod cofnodion yn y Gofrestr; a
(ii) cadw cofnodion yn y Gofrestr; a
(b) fel bod eithriadau ac esemptiadau pan na chodir ffioedd.
4 
Os gwneir cais gan y Cyngor, rhaid i gyflogwr roi’r manylion a bennir yn Atodlen 2 iddo am unrhyw berson a gyflogir gan y cyflogwr hwnnw ar ddyddiad a bennir gan y Cyngor ac y mae’n ofynnol iddo gael ei gofrestru yn rhinwedd rheoliadau a wneir o dan adrannau 14 i 16 o Ddeddf 2014.
5 

(1) Rhaid i gyflogwr person y mae’r rheoliad hwn yn gymwys iddo sicrhau bod y ffi yn cael ei didynnu o’r cyflog a delir i’r person hwnnw yn union ar ôl y dyddiad hysbysu.
(2) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i berson y mae’r cyflogwr wedi cael hysbysiad (“hysbysiad talu”) gan y Cyngor mewn cysylltiad ag ef, sy’n ei gwneud yn ofynnol iddo sicrhau bod y ffi yn cael ei didynnu o gyflog y person hwnnw.
(3) Rhaid i hysbysiad talu bennu’r swm sydd i’w ddidynnu o’r cyflog gan ystyried swm y cymhorthdal a bennir yn unol â rheoliad 3(2).
(4) Dim ond os yw’r Cyngor wedi ei fodloni nad yw’r person y dyroddir yr hysbysiad mewn cysylltiad ag ef eisoes wedi talu’r ffi ar y dyddiad hysbysu ac—
(a) bod y person wedi ei gofrestru yn y Gofrestr, neu
(b) ei bod yn ofynnol i’r person gael ei gofrestru felly yn rhinwedd rheoliadau a wneir o dan adrannau 14 i 16 o Ddeddf 2014,
y caniateir i hysbysiad talu gael ei ddyroddi i gyflogwr.
6 
Rhaid i’r cyflogwr, o fewn 14 diwrnod i’r ffi gael ei didynnu yn unol â rheoliad 5 dalu’r ffi honno i’r Cyngor.
7 
Wrth dalu’r ffi, rhaid i’r cyflogwr roi i’r Cyngor y manylion a bennir yn Atodlen 2 am y person y telir y ffi mewn perthynas ag ef.
8 
Os nad yw person yn cyflawni dyletswydd o fewn terfyn amser a bennir yn y Rheoliadau hyn, nid yw hynny’n rhyddhau’r person hwnnw o’r ddyletswydd honno.
Huw Lewis
Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
10 Chwefror 2015
ATODLEN 1
Rheoliad 1


Y rheoliadau a ddirymir Cyfeiriadau Graddau’r dirymu
Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau) 2000 O.S. 2000/1979(Cy. 140) Rheoliad 9
Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Ffioedd) 2002 O.S. 2002/326 (Cy. 39) Yn llawn
ATODLEN 2
Rheoliad 4
1 
Enw llawn y person.
2 
Os yw’n hysbys, unrhyw enw a fu gan y person gynt.
3 
Pa un yw’r person yn wryw neu’n fenyw.
4 
Y rhif cofrestru swyddogol, os oes un, a neilltuwyd i’r person.
5 
Enw’r ysgol neu’r sefydliad y mae’r person yn cael ei gyflogi ynddo.
6 
Rhif yswiriant gwladol y person.
7 
Cyfeiriad cartref neu gyfeiriad cyswllt arall y person.
8 
Dyddiad geni’r person.
9 
Rhif ffôn a chyfeiriad post electronig y person (os ydynt ar gael).