
1 
Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cod Ymarfer Landlordiaid ac Asiantau sydd wedi’u trwyddedu o dan Ran 1 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 (Dyddiad Penodedig) 2015.
2 
Y dyddiad penodedig ar gyfer dwyn i rym God Ymarfer Landlordiaid ac Asiantau sydd wedi’u trwyddedu o dan Ran 1 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 (y cymeradwywyd drafft ohono drwy benderfyniad Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar 3 Tachwedd 2015) yw 23 Tachwedd 2015.
Lesley Griffiths
Y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi, un o Weinidogion Cymru
18 Tachwedd 2015