
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gofal a Chymorth (Darparu Gwasanaethau Iechyd) (Cymru) 2015 a deuant i rym ar 6 Ebrill 2015.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2 
Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “A” (“A”) yw person y mae arno angen gofal a chymorth o dan adrannau 35 i 45 o Ddeddf 2014;
 mae i “corff iechyd” (“health body”) yr un ystyr ag yn adran 47(10) o Ddeddf 2014;
 ystyr “Deddf 2014” (“the 2014 Act”) yw Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014;
 ystyr “Gofal Iechyd Parhaus y GIG” (“Continuing NHS Healthcare”) yw pecyn gofal a drefnir ac a ariennir yn gyfan gwbl gan y gwasanaeth iechyd ar gyfer person 18 oed neu drosodd pan aseswyd mai angen iechyd yw prif angen y person;
 ystyr “gwasanaeth iechyd” (“health service”) yw’r gwasanaeth iechyd a barheir o dan adran 1(1) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006.
3 

(1) Pan fo awdurdod lleol, gan ddibynnu ar adran 47(6) o Ddeddf 2014, yn gwneud trefniadau i lety ynghyd â gofal nyrsio gan nyrs gofrestredig gael eu darparu, y corff iechyd y mae rhaid i’r awdurdod lleol gael cydsyniad ganddo yw—
(a) pan fo’r awdurdod lleol yn bwriadu lletya A yng Nghymru, y Bwrdd Iechyd Lleol ar gyfer yr ardal lle y darperir y llety;
(b) pan fo’r awdurdod lleol yn bwriadu lletya A yn yr Alban neu yng Ngogledd Iwerddon, y Bwrdd Iechyd Lleol ar gyfer yr ardal lle y lleolir yr awdurdod lleol hwnnw;
(c) pan fo’r awdurdod lleol yn bwriadu lletya A yn Lloegr, y grŵp comisiynu clinigol cyfrifol.
(2) At ddibenion y rheoliad hwn, y grŵp comisiynu clinigol cyfrifol mewn cysylltiad ag unrhyw berson yw’r grŵp comisiynu clinigol sydd â chyfrifoldeb am drefnu i ddarparu gofal nyrsio gan nyrs gofrestredig mewn cysylltiad â’r person hwnnw, yn unol â darpariaethau adran 3(1), (1A) ac (1E) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006 ac unrhyw reoliadau a wneir o dan adran 3(1B) neu (1D) o’r Ddeddf honno.
4 

(1) Rhaid i awdurdod lleol wneud trefniadau mewn cysylltiad â datrys anghydfodau rhwng yr awdurdod a chorff iechyd ynghylch pa un a yw’n ofynnol darparu gwasanaeth neu gyfleuster o dan ddeddfiad iechyd ai peidio.
(2) Rhaid i drefniadau o’r fath gynnwys trefniadau mewn cysylltiad â datrys anghydfodau ynghylch—
(a) penderfyniadau o ran cymhwystra person am Ofal Iechyd Parhaus y GIG;
(b) cyfraniad corff iechyd neu awdurdod lleol at becyn gofal ar y cyd i berson nad yw’n gymwys am Ofal Iechyd Parhaus y GIG.
(3) Rhaid i’r trefniadau gynnwys—
(a) gweithdrefn ar gyfer datrys anghydfodau o’r fath y cytunwyd arni â’r corff iechyd;
(b) darpariaeth ar gyfer diwallu anghenion y person y mae’r anghydfod yn ymwneud ag ef wrth aros i’r anghydfod gael ei ddatrys;
(c) gofyniad nad yw unrhyw anghydfod yn atal diwallu, yn achosi oedi cyn diwallu, yn ymyrryd â diwallu neu fel arall yn effeithio’n andwyol ar ddiwallu, anghenion y person y mae’r anghydfod yn ymwneud ag ef.
Mark Drakeford
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
18 Tachwedd 2015