
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Hawliau Defnyddwyr 2015 (Cychwyn Rhif 3) (Cymru) 2015.
(2) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Hawliau Defnyddwyr 2015.
2 
Mae Pennod 3 o Ran 3 (amrywiol a chyffredinol) o’r Ddeddf yn dod i rym ar 23 Tachwedd 2015 i’r graddau nad yw eisoes mewn grym.
3 
Mae Atodlen 9 i’r Ddeddf yn dod i rym ar 23 Tachwedd 2015 i’r graddau nad yw eisoes mewn grym.
4 
Mae Gorchymyn Deddf Hawliau Defnyddwyr 2015 (Cychwyn Rhif 2) (Cymru) 2015 wedi ei ddirymu.
Lesley Griffiths
Y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi, un o Weinidogion Cymru
11 Tachwedd 2015