
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Taliadau Colli Cartref (Symiau Rhagnodedig) (Cymru) 2015 a deuant i rym ar 10 Rhagfyr 2015.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Rheoliadau hyn ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Digollediad Tir 1973.
2 
Pan fo’r dyddiad dadleoli ar y dyddiad y daw’r Rheoliadau hyn i rym neu ar ei ôl—
(a) £53,000 yw uchafswm rhagnodedig y taliad colli cartref at ddibenion adran 30(1) o’r Ddeddf;
(b) £5,300 yw isafswm rhagnodedig y taliad colli cartref at ddibenion adran 30(1) o’r Ddeddf; ac
(c) £5,300 yw swm rhagnodedig y taliad colli cartref at ddibenion adran 30(2) o’r Ddeddf.
3 

(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae Rheoliadau Taliadau Colli Cartref (Symiau Rhagnodedig) (Cymru) 2008 wedi eu dirymu.
(2) Bydd y Rheoliadau a grybwyllwyd ym mharagraff (1) yn parhau i gael effaith mewn perthynas â dadleoli sy’n digwydd cyn y dyddiad y daw’r Rheoliadau hyn i rym.
Lesley Griffiths
Y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi, un o Weinidogion Cymru
9 Tachwedd 2015