
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (Buddiannau Cofrestradwy) 2015.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 23 Tachwedd 2015.
2 
Mae’r Atodlen i’r Rheoliadau hyn yn pennu buddiannau cofrestradwy Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru a Dirprwy Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru at ddibenion paragraffau 13, 14 a 15 o Atodlen 2 i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.
Carl Sargeant
Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, un o Weinidogion Cymru
29 Hydref 2015
YR ATODLEN
Rheoliad 2
RHAN 1
1 
Yn yr Atodlen hon—
 ystyr “aelod o deulu” (“family member”) mewn perthynas â’r Comisiynydd yw partner y Comisiynydd ac unrhyw blentyn;
 ystyr “y Comisiynydd” (“the Commissioner”) yw Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru a Dirprwy Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru (p’un ai’n unigol neu gyda’i gilydd);
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015;
 ystyr “eiddo perthnasol” (“relevant property”) yw tir neu eiddo deallusol y mae’r Comisiynydd yn dal mewn cysylltiad ag ef fuddiant sydd wedi ei gaffael drwy arian a ddarparwyd gan Weinidogion Cymru o dan baragraff 16 o Atodlen 2 i’r Ddeddf;
 ystyr “partner” (“partner”) yw priod, partner sifil neu un o gwpl p’un ai o’r un rhyw neu o’r rhyw arall sy’n byw gyda’i gilydd, er nad ydynt yn briod â’i gilydd, ac sy’n trin ei gilydd fel dau briod;
 ystyr “plentyn” (“child”) yw unrhyw berson sydd, adeg cofrestru’r buddiant, naill ai yn—
(a) plentyn i’r Comisiynydd;
(b) llysblentyn i’r Comisiynydd drwy briodas neu bartneriaeth sifil;
(c) person sydd wedi ei fabwysiadu’n gyfreithiol gan y Comisiynydd;
(d) person sydd wedi ei leoli ar gyfer ei fabwysiadu gyda’r Comisiynydd; neu
(e) person sydd o dan un mlwydd ar bymtheg oed, neu o dan bedair blwydd ar bymtheg oed ac yn cael addysg lawnamser, ac sydd am y chwe mis calendr blaenorol wedi cael cefnogaeth ariannol gan y Comisiynydd.
RHAN 2
2 
Y buddiannau y cyfeirir atynt yn rheoliad 2 yw—
(a) manylion unrhyw swydd neu gyflogaeth [am dâl neu heb dâl] a ddelir gan y Comisiynydd neu aelod o’i deulu;
(b) manylion unrhyw fuddiant a ddelir gan y Comisiynydd neu aelod o’i deulu mewn eiddo perthnasol;
(c) enwau unrhyw gwmnïau neu gyrff eraill y mae gan y Comisiynydd, naill ai ar ei ben ei hun neu gydag aelod o’i deulu, neu ar ran aelod o’i deulu, fuddiant llesiannol mewn cyfranddaliadau;
(d) swyddi cyfarwyddwyr am dâl a ddelir gan y Comisiynydd mewn unrhyw gwmni, gan gynnwys swyddi cyfarwyddwyr na thelir tâl iddynt yn unigol ond lle y telir tâl drwy gwmni arall yn yr un grŵp;
(e) enwau unrhyw gwmnïau neu gyrff eraill y mae’r Comisiynydd yn ymddiriedolwr ynddynt;
(f) manylion unrhyw dâl, cyllid, rhodd, neu fudd ar ffurf nwyddau neu wasanaethau a geir gan y Comisiynydd, mewn cysylltiad ag arfer swyddogaethau’r Comisiynydd, oddi wrth unrhyw gwmni neu gorff; ac
(g) manylion unrhyw swydd a ddelir gan y Comisiynydd mewn plaid wleidyddol.