
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Tai (Cymru) 2014 (Cychwyn Rhif 4) 2015.
(2) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Tai (Cymru) 2014.
2 
Y diwrnod penodedig i’r darpariaethau a ganlyn yn y Ddeddf ddod i rym i’r graddau nad ydyw’r darpariaethau hynny eisoes mewn grym yw 23 Tachwedd 2015—
(a) adran 1 (trosolwg o’r Rhan hon);
(b) adran 2 (ystyr y prif dermau);
(c) adran 3 (awdurdod trwyddedu);
(d) adran 14 (dyletswydd i gynnal cofrestr mewn perthynas ag eiddo ar rent) ac Atodlen 1 (cofrestr o dai rhent preifat);
(e) adran 15 (cofrestru gan awdurdod trwyddedu);
(f) adran 16 (dyletswydd i ddiweddaru gwybodaeth);
(g) adran 17 (dirymu cofrestriad);
(h) adran 18 (trwyddedau y caniateir eu rhoi);
(i) adran 19 (gofynion cais am drwydded);
(j) adran 20 (gofyniad person addas a phriodol);
(k) adran 21 (penderfynu ar gais);
(l) adran 22 (amodau trwydded);
(m) adran 23 (dyletswydd i ddiweddaru gwybodaeth);
(n) adran 24 (diwygio trwydded);
(o) adran 25 (dirymu trwydded);
(p) adran 26 (trwydded yn dod i ben neu yn cael ei hadnewyddu);
(q) adran 27 (apelau trwyddedu);
(r) adran 36 (ceisiadau am wybodaeth gan awdurdodau a defnyddio gwybodaeth gan awdurdodau);
(s) adran 37 (pŵer i’w gwneud yn ofynnol cyflwyno dogfennau neu ddarparu gwybodaeth);
(t) adran 38 (gorfodi pwerau cael gafael ar wybodaeth);
(u) adran 39 (gwybodaeth anwir neu gamarweiniol);
(v) adran 45 (landlordiaid sy’n ymddiriedolwyr);
(w) adran 47 (gwybodaeth am geisiadau);
(x) adran 48 (rhoi hysbysiad etc. o dan y Rhan hon); ac
(y) adran 49 (dehongli’r Rhan hon a mynegai o dermau wedi eu diffinio).
Lesley Griffiths
Y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi, un o Weinidogion Cymru
21 Hydref 2015