
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwybodaeth Mabwysiadu a Gwasanaethau Cyfryngol (Mabwysiadau Cyn-gychwyn) (Cymru) (Diwygio) 2015.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 10 Tachwedd 2015.
(3) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2 
Mae Rheoliadau Gwybodaeth Mabwysiadu a Gwasanaethau Cyfryngol (Mabwysiadau Cyn-gychwyn) (Cymru) 2005 wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 3 i 16.
3 
Yn rheoliad 2 (dehongli)—
(a) yn y man priodol yn nhrefn yr wyddor mewnosoder—“
 ystyr “darpariaeth Seisnig gyfatebol” (“corresponding Englishprovision”) o ran Rhan neu reoliad yn y Rheoliadau hyn, yw darpariaeth mewn rheoliadau a wneir gan yr Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 9 o Ddeddf 2002 sy’n cyfateb i’r Rhan honno neu’r rheoliad hwnnw;”;“
 ystyr “person mabwysiedig” (“adopted person”) yw person a fabwysiadwyd cyn 30 Rhagfyr 2005 ac sydd wedi cyrraedd 18 oed;”;“
 mae i “perthynas ragnodedig” (“prescribed relationship”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 2A;”;
(b) yn lle’r diffiniad o “y ceisydd” (“the applicant”) rhodder—“
 ystyr “y ceisydd” (“the applicant”) yw person sy’n gwneud cais o dan reoliad 5 ac sydd—
(a) yn berson mabwysiedig;
(b) yn berson sydd â pherthynas ragnodedig; neu
(c) yn berthynas i berson mabwysiedig;”.
4 
Ar ôl rheoliad 2 (dehongli) mewnosoder—“
2A. 
At ddibenion adran 98(1A) o Ddeddf 2002, mae perthynas ragnodedig yn berthynas lle mae person (nad yw’n berthynas i’r person mabwysiedig o fewn ystyr “perthynas” yn rheoliad 2) yn perthyn i berson mabwysiedig—
(a) drwy waed, priodas neu bartneriaeth sifil; neu
(b) yn rhinwedd mabwysiad y person mabwysiedig.”
5 
Yn rheoliad 4 (ystyr “gwasanaeth cyfryngol” ac “asiantaeth gyfryngol”) yn lle paragraff (1) rhodder—“
(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (3) mae gwasanaeth cyfryngol yn wasanaeth a ddarperir at ddibenion—
(a) cynorthwyo personau mabwysiedig i gael gwybodaeth mewn perthynas â’u mabwysiad;
(b) hwyluso cyswllt rhwng personau mabwysiedig a’u perthnasau; ac
(c) hwyluso cyswllt rhwng personau sydd â pherthynas ragnodedig â pherson mabwysiedig a pherthnasau i’r person mabwysiedig.”
6 
Yn rheoliad 5—
(a) yn y pennawd yn lle “Blaenoriaeth i fabwysiadau cyn 1976” rhodder “Ceisiadau y caniateir eu derbyn”;
(b) yn lle paragraff (1) rhodder—“
(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (3) caiff asiantaeth gyfryngol dderbyn cais—
(a) oddi wrth berson mabwysiedig am gynhorthwy i gael gwybodaeth am fabwysiad y person hwnnw ac i gysylltu â pherthynas i’r person hwnnw;
(b) oddi wrth berthynas i berson mabwysiedig am gynhorthwy i gysylltu—
(i) â’r person mabwysiedig; neu
(ii) â pherson sydd â pherthynas ragnodedig â’r person mabwysiedig; neu
(c) oddi wrth berson sydd â pherthynas ragnodedig â’r person mabwysiedig am gynhorthwy i gysylltu â pherthynas i berson mabwysiedig.”;
(c) hepgorer paragraff (2);
(d) ym mharagraff (3) ar ôl “paragraff (1)” hepgorer “a (2)”.
7 
Ar ôl rheoliad 5 mewnosoder—“
5A. 

(1) Pan fo asiantaeth gyfryngol yn derbyn cais oddi wrth berthynas i berson mabwysiedig am gynhorthwy i gysylltu â’r person mabwysiedig, rhaid iddi beidio â bwrw ymlaen â’r cais os oes feto’n gymwys o dan reoliad 8(1), ac eithrio o dan amgylchiadau y cyfeirir atynt yn rheoliad 8(1)(b)(ii).
(2) Pan fo asiantaeth gyfryngol yn derbyn cais oddi wrth berthynas i berson mabwysiedig am gynhorthwy i gysylltu â pherson sydd â pherthynas ragnodedig â’r person mabwysiedig, rhaid iddi beidio â bwrw ymlaen â’r cais—
(a) os oes feto’n gymwys o dan reoliad 8(1), ac eithrio o dan yr amgylchiadau y cyfeirir atynt yn rheoliad 8(1)(b)(ii); neu
(b) os nad yw’r person mabwysiedig yn cydsynio i’r cais fynd yn ei flaen.
(3) Yn ddarostyngedig i baragraffau (4) i (6), pan fo asiantaeth gyfryngol yn derbyn cais oddi wrth berson sydd â pherthynas ragnodedig â pherson mabwysiedig am gynhorthwy i gysylltu â pherthynas i’r person mabwysiedig, rhaid iddi beidio â bwrw ymlaen â’r cais os nad yw’r person mabwysiedig yn cydsynio i’r cais fynd yn ei flaen.
(4) Caiff asiantaeth gyfryngol fwrw ymlaen â chais o dan baragraff (3)—
(a) os yw’r asiantaeth gyfryngol wedi cymryd pob cam rhesymol i ddod o hyd i’r person mabwysiedig ond ei bod wedi methu gwneud hynny; neu
(b) pan fo—
(i) y ceisydd naill ai yn briod, plentyn, ŵyr, wyres, gorwyr neu orwyres i’r person mabwysiedig; a
(ii) y ceisydd yn ceisio cysylltu â’r perthynas i’r person mabwysiedig dim ond i gael gwybodaeth am hanes meddygol perthnasau’r person mabwysiedig.
(5) Pan fo paragraff (4)(b) yn gymwys, rhaid i’r asiantaeth gyfryngol beidio â datgelu unrhyw wybodaeth a fyddai, o’i chymryd ar ei phen ei hun neu ynghyd â gwybodaeth arall sydd ym meddiant y person y’i datgelir iddo, yn galluogi’r person mabwysiedig, unrhyw berthynas i’r person mabwysiedig neu unrhyw berson sydd â pherthynas ragnodedig â’r person mabwysiedig i gael ei adnabod neu ei olrhain.
(6) Nid yw unrhyw ofyniad o dan y rheoliad hwn i’r person mabwysiedig gydsynio i gais fynd yn ei flaen yn gymwys—
(a) os yw’r person mabwysiedig wedi marw; neu
(b) os yw’r asiantaeth gyfryngol yn penderfynu na all y person mabwysiedig roi cydsyniad deallus.
(7) Pan fo’n ofynnol cael cydsyniad y person mabwysiedig o dan y rheoliad hwn, rhaid i’r asiantaeth gyfryngol gymryd pob cam rhesymol i sicrhau bod gan y person mabwysiedig ddigon o wybodaeth i wneud penderfyniad deallus.”
8 
Yn rheoliad 8 (feto gan berson mabwysiedig)—
(a) yn lle paragraff (1) rhodder—“
(1) Mae feto yn gymwys mewn perthynas â chais o dan y Rheoliadau hyn neu o dan ddarpariaeth Seisnig gyfatebol—
(a) os naill ai’r person mabwysiedig neu berson sydd â pherthynas ragnodedig â’r person mabwysiedig yw’r gwrthrych; a
(b) os yw’r person mabwysiedig wedi hysbysu’r asiantaeth fabwysiadu briodol yn ysgrifenedig—
(i) nad yw’n dymuno i asiantaeth gyfryngol gysylltu ag ef mewn perthynas â chais o dan y Rheoliadau hyn; neu
(ii) nad yw’n dymuno i gyswllt gael ei wneud ag ef ond o dan amgylchiadau penodedig neu gan bersonau penodedig.”;
(b) hepgorer paragraff (3); ac
(c) ar y diwedd mewnosoder—“
(4) Bernir bod feto sy’n gymwys yn rhinwedd hysbysiad a roddwyd cyn 10 Tachwedd 2015 yn gymwys i unrhyw gais a wnaed gan berthynas i’r person mabwysiedig o dan y Rheoliadau hyn.”
9 
Yn lle rheoliad 9 (darparu gwybodaeth gefndir pan fo cydsyniad yn cael ei wrthod etc.) rhodder—“
9. 
Nid oes dim yn y Rheoliadau hyn yn atal yr asiantaeth gyfryngol rhag datgelu i’r ceisydd unrhyw wybodaeth am y gwrthrych nad yw’n wybodaeth adnabod ac y mae’r asiantaeth o’r farn ei bod yn briodol ei datgelu.”
10 
Yn rheoliad 10 (cwnsela)—
(a) yn lle paragraff (1) rhodder—“
(1) Rhaid i asiantaeth gyfryngol ddarparu gwybodaeth ysgrifenedig am argaeledd cwnsela i unrhyw berson—
(a) sy’n gwneud cais iddi o dan y Rheoliadau hyn;
(b) sy’n wrthrych cais o’r fath ac sy’n ystyried a ddylai gydsynio i wybodaeth gael ei datgelu amdano’i hun i’r ceisydd; neu
(c) sy’n berson mabwysiedig sy’n ystyried a ddylai gydsynio i gais fynd yn ei flaen.”;
(b) yn lle paragraff (4)(c) rhodder—“
(c) os yw’r person yng Ngogledd Iwerddon, sefydliad gwirfoddol priodol o fewn ystyr “appropriate voluntary organisation” yn Erthygl 2(2) o Orchymyn Mabwysiadu (Gogledd Iwerddon) 1987 neu’r Bwrdd Rhanbarthol neu unrhyw Ymddiriedolaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol; neu”; ac
(c) yn lle paragraff (5) rhodder—“
(5) Yn y rheoliad hwn ystyr “Bwrdd Rhanbarthol” (“Regional Board”) yw’r Bwrdd Rhanbarthol Iechyd a Gofal Cymdeithasol a sefydlwyd o dan adran 7 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Diwygio) (Gogledd Iwerddon) 2009 ac ystyr “Ymddiriedolaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol” (“Health and Social Care Trust”) yw Ymddiriedolaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol a sefydlwyd o dan Erthygl 10 o Orchymyn Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Personol (Gogledd Iwerddon) 1991.”
11 
Yn rheoliad 11 (y weithdrefn pan geir cais)—
(a) hepgorer “ac” ar ddiwedd paragraff (b);
(b) ar ddiwedd paragraff (c) yn lle “.” rhodder “; ac”;
(c) ar ôl paragraff (c) mewnosoder—“
(ch) yn achos cais gan berson sydd â pherthynas ragnodedig â’r person mabwysiedig, bod gan y ceisydd berthynas ragnodedig â’r person hwnnw.”
12 
Yn rheoliad 12 (cysylltu â’r asiantaeth fabwysiadu briodol)—
(a) yn lle paragraff (2) rhodder—“
(2) Mae’r camau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) yn cynnwys—
(a) gofyn yn ysgrifenedig i’r Cofrestrydd Cyffredinol am unrhyw wybodaeth o dan reoliad 13 a all fod yn berthnasol at y diben hwn;
(b) gofyn yn ysgrifenedig i’r llys a wnaeth y gorchymyn mabwysiadu am wybodaeth am hunaniaeth yr asiantaeth fabwysiadu briodol;
(c) holi’r awdurdod lleol ar gyfer yr ardal lle y digwyddodd y mabwysiad.”;
(b) ym mharagraff (3) ar ôl “rhaid i’r asiantaeth gyfryngol” mewnosoder “gymryd pob cam rhesymol i”;
(c) yn lle paragraff (4)(a) rhodder—“
(a) cael gwybod a yw’r person mabwysiedig, ar unrhyw adeg, wedi mynegi barn i’r asiantaeth ynghylch—
(i) unrhyw gyswllt yn y dyfodol ag unrhyw berthynas;
(ii) unrhyw gyswllt yn y dyfodol rhwng pobl sydd â pherthynas ragnodedig â’r person mabwysiedig a pherthnasau i’r person mabwysiedig;
(iii) codi pwnc cyswllt o’r fath gydag ef; a”;
(d) yn lle paragraff (4)(c) rhodder—“
(c) ceisio unrhyw wybodaeth arall sy’n angenrheidiol at ddibenion—
(i) olrhain y person mabwysiedig ac, os nad y person mabwysiedig yw’r gwrthrych, unrhyw wrthrych arall;
(ii) galluogi’r person mabwysiedig i wneud penderfyniad deallus ynghylch a ddylai gydsynio—(aa) i wybodaeth adnabod amdano’i hun gael ei datgelu;(bb) i gais fynd yn ei flaen i hwyluso cyswllt rhwng perthynas i’r person mabwysiedig a pherson sydd â pherthynas ragnodedig â’r person mabwysiedig; neu(cc) i gyswllt â’r ceisydd;
(iii) galluogi unrhyw wrthrych arall i wneud penderfyniad deallus ynghylch a ddylai gydsynio—(aa) i wybodaeth adnabod amdano’i hun gael ei datgelu; neu(bb) i gyswllt â’r ceisydd;
(iv) cwnsela’r gwrthrych ac, os nad ef yw’r gwrthrych, y person mabwysiedig mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw; a
(v) cwnsela’r ceisydd.”;
(e) ym mharagraff (5) ar ôl “chais oddi wrth asiantaeth gyfryngol o dan baragraff (4)” mewnosoder “neu o dan ddarpariaeth Seisnig gyfatebol”;
(f) ar ôl paragraff (5) mewnosoder—“
(6) Mae “asiantaeth gyfryngol” at ddibenion paragraff (5) yn cynnwys asiantaeth gyfryngol fel y diffinnir “intermediary agency” o dan ddarpariaeth Seisnig gyfatebol.”
13 
Yn rheoliad 13 (cael gwybodaeth oddi wrth y Cofrestrydd Cyffredinol)—
(a) yn lle paragraff (1) rhodder—“
(1) Caiff asiantaeth gyfryngol wneud cais yn ysgrifenedig i’r Cofrestrydd Cyffredinol am ba wybodaeth bynnag o blith y canlynol a all ei chynorthwyo at ddibenion bwrw ymlaen â chais o dan y Rheoliadau hyn—
(a) hunaniaeth yr asiantaeth fabwysiadu briodol;
(b) manylion y llys a wnaeth y gorchymyn mabwysiadu;
(c) gwybodaeth a all fod gan y Cofrestrydd Cyffredinol a fyddai’n galluogi cais i gael ei wneud am dystysgrif o’r Gofrestr Plant Mabwysiedig;
(d) gwybodaeth o’r Gofrestr Cyswllt Mabwysiadu.”;
(b) yn lle paragraff (2) rhodder—“
(2) Os oes asiantaeth gyfryngol yn bwrw ymlaen â chais o dan reoliad 5(1)(c), caiff hefyd wneud cais yn ysgrifenedig i’r Cofrestrydd Cyffredinol am unrhyw wybodaeth y gallai fod gan y Cofrestrydd Cyffredinol a fyddai’n galluogi’r person mabwysiedig y mae gan y ceisydd berthynas ragnodedig ag ef i gael copi ardystiedig o’r cofnod o’i enedigaeth.”
14 
Yn rheoliad 14 (y Cofrestrydd Cyffredinol i gydymffurfio â’r cais)—
(a) ym mharagraff (1) hepgorer “12 neu”;
(b) hepgorer paragraff (2).
15 
Yn rheoliad 16 (datgeliadau awdurdodedig)—
(a) ym mharagraff (a) hepgorer “12 neu”;
(b) hepgorer “ac” ar ddiwedd paragraff (c);
(c) ym mharagraff (ch) yn lle “.” rhodder “; a”;
(d) ar ôl paragraff (ch) mewnosoder—“
(d) i’r person mabwysiedig i’w alluogi i wneud penderfyniad deallus ynghylch a ddylai gydsynio i gais o dan y Rheoliadau hyn fynd yn ei flaen.”
16 
Yn rheoliad 18 (ffioedd) yn lle paragraff (3) rhodder—“
(3) Caiff y Cofrestrydd Cyffredinol godi’r ffioedd a ganlyn ar asiantaeth gyfryngol mewn cysylltiad â cheisiadau am wybodaeth o dan reoliad 13 neu 14—
(a) £36 am brosesu cais cychwynnol am wybodaeth (p’un a ddarperir gwybodaeth ai peidio);
(b) £14 am ddarparu gwybodaeth mewn ymateb i unrhyw gais dilynol a wneir mewn perthynas â’r un ceisydd.”
Mark Drakeford
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
16 Hydref 2015