
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Dŵr 2014 (Cychwyn Rhif 1 a Darpariaeth Drosiannol) (Cymru) 2015.
(2) Yn y Gorchymyn hwn ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Dŵr 2014.
2 
1 Tachwedd 2015 yw’r diwrnod penodedig i adran 41 (anghydfodau ynghylch darparu carthffosydd cyhoeddus: mangreoedd yng Nghymru) o’r Ddeddf ddod i rym.
3 
Er gwaethaf erthygl 2, bydd adran 101A o Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991 fel y mae mewn grym yn union cyn i’r Gorchymyn hwn ddod i rym yn parhau’n effeithiol o ran unrhyw anghydfod a gyfeiriwyd at yr asiantaeth briodol o dan y ddarpariaeth honno cyn i’r Gorchymyn hwn gael ei wneud.
Carl Sargeant
Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, un o Weinidogion Cymru
7 Hydref 2015