
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Trawsblannu Dynol (Deunydd Perthnasol a Eithrir) (Cymru) 2015 a deuant i rym am 00:01 ar 1 Rhagfyr 2015.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Trawsblannu Dynol (Cymru) 2013.
2 

(1) Mae’r rheoliad hwn yn ddarostyngedig i’r eithriadau ym mharagraff (4).
(2) At ddibenion adran 7(2) o’r Ddeddf, pennir y cyfan neu ran o’r meinweoedd cyfansawdd a ganlyn (“meinweoedd cyfansawdd a eithrir”) yn ddeunydd perthnasol a eithrir—
(a) ymennydd;
(b) madruddyn y cefn;
(c) wyneb;
(d) trwyn;
(e) ceg;
(f) braich;
(g) rhan uchaf y fraich;
(h) elin;
(i) llaw;
(j) bys;
(k) coes;
(l) morddwyd;
(m) rhan isaf y goes;
(n) troed; neu
(o) bys troed.
(3) At ddibenion adran 7(2) o’r Ddeddf, pennir y cyfan neu ran o unrhyw un neu ragor o’r canlynol yn ddeunydd perthnasol a eithrir—
(a) ofari;
(b) croth;
(c) pidyn;
(d) caill;
(e) ffetws;
(f) brych;
(g) llinyn bogail; neu
(h) embryo (y tu mewn i’r corff).
(4) Nid yw’r cyfan neu ran o unrhyw un neu ragor o’r canlynol sy’n rhan o unrhyw feinweoedd cyfansawdd a eithrir yn ddeunydd perthnasol a eithrir—
(a) llygad;
(b) meinweoedd nerfol;
(c) rhydweli;
(d) asgwrn;
(e) cyhyr;
(f) tendon; neu
(g) croen,
i’r graddau nad ydynt yn cael eu defnyddio ar gyfer trawsblannu unrhyw feinweoedd cyfansawdd a eithrir.
Mark Drakeford
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
7 Hydref 2015