
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Trawsblannu Dynol (Personau nad yw’r Galluedd ganddynt i Gydsynio) (Cymru) 2015 a deuant i rym am 00:01 ar 1 Rhagfyr 2015.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2 

(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys mewn unrhyw achos sy’n dod o fewn paragraffau (a) a (b) o adran 9(1) o Ddeddf Trawsblannu Dynol (Cymru) 2013 (storio a defnyddio sy’n ymwneud â deunydd o oedolion nad yw’r galluedd ganddynt i gydsynio).
(2) Ystyrir bod oedolyn (“P”) nad yw’r galluedd ganddo i gydsynio i weithgaredd o fath a grybwyllir yn adran 3(2)(c) neu (d) o’r Ddeddf honno (storio neu ddefnyddio deunydd perthnasol o gorff dynol at ddiben trawsblannu) sy’n ymwneud â deunydd o gorff P, wedi cydsynio i’r gweithgaredd pan fo’r gweithgaredd wedi ei wneud gan berson sy’n gweithredu mewn ffordd y mae’n credu yn rhesymol ei bod er lles pennaf P.
Mark Drakeford
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
7 Hydref 2015