
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Cychwyn Rhif 2) 2015.
(2) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.
2 
Y diwrnod penodedig i’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf ddod i rym yw 21 Hydref 2015—
(a) adran 132 (Y Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol); a
(b) adran 133 (Rheoliadau am y Bwrdd Cenedlaethol).
Mark Drakeford
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
25 Medi 2015