
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Cynllunio (Cymru) 2015 (Cychwyn Rhif 1) 2015.
(2) Yn y Gorchymyn hwn ystyr “y Ddeddf” yw Deddf Cynllunio (Cymru) 2015.
2 
Y diwrnod penodedig ar gyfer dwyn y darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym, i’r graddau nad yw’r darpariaethau hynny eisoes mewn grym, yw 5 Hydref 2015—
(a) adran 4 (dynodi ardaloedd cynllunio strategol a sefydlu paneli cynllunio strategol); a
(b) Rhan 1 o Atodlen 1 (cyfansoddiad a threfniadau ariannol paneli).
Carl Sargeant
Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, un o Weinidogion Cymru
29 Medi 2015