
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Iechyd Planhigion (Coedwigaeth) (Diwygio) (Cymru) 2015.
(2) Daw erthyglau 1 i 3 o’r Gorchymyn hwn i rym ar 20 Hydref 2015.
(3) Daw erthygl 4 o’r Gorchymyn hwn i rym yn union ar ôl i erthyglau 1 i 3 ddod i rym.
(4) Yn y Gorchymyn hwn—
(a) ystyr “Gorchymyn 2005” (“the 2005 Order”) yw Gorchymyn Iechyd Planhigion (Coedwigaeth) 2005;
(b) ystyr “Gorchymyn 2013” (“the 2013 Order”) yw Gorchymyn Iechyd Planhigion (Coedwigaeth) (Diwygio) (Lloegr a’r Alban) 2013; ac
(c) ystyr “Gorchymyn 2014” (“the 2014 Order”) yw Gorchymyn Iechyd Planhigion (Coedwigaeth) (Diwygio) (Lloegr a’r Alban) 2014.
2 
Mae’r darpariaethau a ganlyn yng Ngorchymyn 2005 yn gymwys o ran Cymru fel y maent yn gymwys o ran Lloegr a’r Alban—
(a) yn erthygl 2, y diffiniadau o—
(i) “associated controlled dunnage” (a fewnosodwyd gan erthygl 3(a) o Orchymyn 2014);
(ii) “Decision 2012/138/EU” (a roddwyd yn lle’r diffiniad o “Decision 2008/840/EU” gan erthygl 3(a) o Orchymyn 2013);
(iii) “dunnage” (a amnewidiwyd gan erthygl 3(b) o Orchymyn 2014);
(iv) “ISPM No. 15” (a amnewidiwyd gan erthygl 3(c) o Orchymyn 2014);
(v) “official documentation” (a fewnosodwyd gan erthygl 3(b) o Orchymyn 2013);
(vi) “protected zone” (a amnewidiwyd gan erthygl 3(d) o Orchymyn 2014);
(vii) “Regulation (EC) No 690/2008” (a fewnosodwyd gan erthygl 3(e) o Orchymyn 2014);
(viii) “wood” (a ddiwygiwyd gan erthygl 3(f) o Orchymyn 2014); a
(ix) “wood packaging material” (a amnewidiwyd gan erthygl 3(g) o Orchymyn 2014);
(b) erthygl 5(1)(c) (a ddiwygiwyd gan erthygl 4(1) o Orchymyn 2014);
(c) erthygl 5(1A) (a fewnosodwyd gan erthygl 4(2) o Orchymyn 2014);
(d) erthygl 6(2)(b)(ii) a (iii) (a amnewidiwyd gan erthygl 5 o Orchymyn 2014);
(e) erthygl 8(2)(c) a (d) (a fewnosodwyd gan erthygl 4 o Orchymyn 2013 ac a ddiwygiwyd gan erthygl 6 o Orchymyn 2014);
(f) erthygl 12(2)(aa) (a fewnosodwyd gan erthygl 7(a) o Orchymyn 2014);
(g) erthygl 12(2)(c) ac (e) (a amnewidiwyd gan erthygl 7(b) o Orchymyn 2014);
(h) erthygl 18(1)(c) (a ddiwygiwyd gan erthygl 8(1) o Orchymyn 2014);
(i) erthygl 18(1A) (a fewnosodwyd gan erthygl 8(2) o Orchymyn 2014);
(j) erthygl 19(1)(aa) (a fewnosodwyd gan erthygl 9(a) o Orchymyn 2014);
(k) erthygl 19(1)(c) (a ddiwygiwyd gan erthygl 9(b) o Orchymyn 2014);
(l) erthygl 20(8) (a fewnosodwyd gan erthygl 5 o Orchymyn 2013 ac a amnewidiwyd gan erthygl 10 o Orchymyn 2014);
(m) erthygl 21 (a amnewidiwyd gan erthygl 6 o Orchymyn 2013 ac a ddiwygiwyd gan erthygl 11 o Orchymyn 2014);
(n) erthygl 31(5)(a) (a ddiwygiwyd gan erthygl 12 o Orchymyn 2014);
(o) erthygl 32(2)(a) (a ddiwygiwyd gan erthygl 13 o Orchymyn 2014);
(p) erthygl 40(2) (a ddiwygiwyd gan erthygl 14 o Orchymyn 2014);
(q) erthygl 41(2) (a ddiwygiwyd gan erthygl 15 o Orchymyn 2014);
(r) erthygl 42(2)(b) (a ddiwygiwyd gan erthygl 16 o Orchymyn 2014);
(s) Atodlen 1 (a ddiwygiwyd gan erthygl 17 o Orchymyn 2014);
(t) Atodlen 1A (a fewnosodwyd gan erthygl 18 o Orchymyn 2014);
(u) Rhan A o Atodlen 2 (a ddiwygiwyd gan erthygl 7 o Orchymyn 2013 ac erthygl 19 o Orchymyn 2014);
(v) Atodlen 4 (a ddiwygiwyd gan erthygl 20 o Orchymyn 2014);
(w) Atodlen 5 (a ddiwygiwyd gan erthygl 21 o Orchymyn 2014);
(x) Atodlen 6 (a ddiwygiwyd gan erthygl 10 o Orchymyn 2013 ac erthygl 22 o Orchymyn 2014); ac
(y) Atodlen 7 (a ddiwygiwyd gan erthygl 11 o Orchymyn 2013 ac erthygl 23 o Orchymyn 2014).
3 
O ganlyniad i erthygl 2 o’r Gorchymyn hwn, mae’r darpariaethau a ganlyn yng Ngorchymyn 2005 wedi eu dirymu fel yr oeddent yn gymwys o ran Cymru yn union cyn 12 Hydref 2015—
(a) yn erthygl 2—
(i) y diffiniad o “Decision 2008/840/EC”;
(ii) y diffiniad o “dunnage”;
(iii) y diffiniad o “ISPM No. 15”;
(iv) y diffiniad o “protected zone”;
(v) yn y diffiniad o “wood”, paragraff (c); a
(vi) y diffiniad o “wood packaging material”;
(b) erthygl 6(2)(b)(ii) a (iii);
(c) erthygl 8(2)(c), (d) ac (e);
(d) erthygl 12(2)(c) ac (e);
(e) erthygl 21;
(f) yn Atodlen 1, o dan y pennawd “insects, mites and nematodes”, eitemau 1a ac 8a yn y tabl;
(g) yn Atodlen 2, yn Rhan A, yn y tabl—
(i) eitemau 2 a 2a;
(ii) y testun yn nhrydedd golofn eitem 10; a
(iii) eitem 11;
(h) yn Atodlen 2, yn Rhan B, eitem 3 yn y tabl;
(i) yn Atodlen 4, yn Rhan A, yn y tabl—
(i) eitemau 1 i 6;
(ii) y testun ym mharagraff (d) yn nhrydedd golofn eitem 7;
(iii) eitemau 8 i 14A;
(iv) y testun ym mharagraff (b) yn nhrydedd golofn eitem 15;
(v) eitemau 16 ac 16A;
(vi) eitem 17;
(vii) eitem 19A;
(viii) yn nhrydedd golofn eitem 19B, y geiriau “Without prejudice to the requirements in item 19A, the”;
(ix) yn eitemau 22 a 23, yn nhrydedd golofn pob eitem, y cyfeiriadau at “24A”;
(x) eitemau 24 a 24A; ac
(xi) eitem 25;
(j) yn Atodlen 4, yn rhan B, yn y tabl—
(i) yn nhrydedd golofn eitem 1, y geiriau “Ceratocystis fimbriata f. sp. Platani Walter”;
(ii) eitemau 5 a 5A;
(iii) eitemau 5C a 5D; a
(iv) eitem 6;
(k) yn Atodlen 5, yn Rhan A—
(i) paragraff 2(b) ac (c);
(ii) paragraff 2A;
(iii) paragraff 3(b) ac (c); a
(iv) paragraff 4(a)(ii) i (vi);
(l) yn Atodlen 6, yn rhan A, paragraffau 4A a 5;
(m) yn Atodlen 6, yn rhan B, paragraffau 2 a 3(a)(ii);
(n) yn Atodlen 7, yn Rhan A, paragraffau 4A a 5; ac
(o) yn Atodlen 7, yn Rhan B, paragraffau 2 a 4(a)(ii).
4 

(1) Yn erthygl 20(8) o Orchymyn 2005, yn lle “England or Scotland” rhodder “Great Britain”.
(2) Yn Atodlen 1A i Orchymyn 2005, yn ail golofn y tabl (disgrifiad o barth gwarchod) yn lle “and Scotland” rhodder “Scotland and Wales”.
(3) Yn Rhan B o Atodlen 2 i Orchymyn 2005, yn y tabl—
(a) yn ail golofn eitem 3, yn lle “England and Scotland” rhodder “Great Britain”; a
(b) yn ail golofn eitem 4, yn lle “England and Scotland” rhodder “Great Britain”.
Carl Sargeant
Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, un o Weinidogion Cymru
24 Medi 2015