
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Busnesau Bach, Menter a Chyflogaeth 2015 (Cychwyn) (Cymru) 2015.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Busnesau Bach, Menter a Chyflogaeth 2015.
2 
1 Hydref 2015 yw’r diwrnod penodedig ar gyfer dwyn y darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym—
(a) adran 35 (eithrio busnesau cartref rhag Rhan 2 o Ddeddf Landlord a Thenant 1954); a
(b) adran 36 (adran 35: darpariaeth atodol a chanlyniadol).
Lesley Griffiths
Y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi, un o Weinidogion Cymru
21 Medi 2015