
1 
Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Addysg (Cymru) 2014 (Cychwyn Rhif 4) 2015.
2 
Y diwrnod penodedig i’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf Addysg (Cymru) 2014 ddod i rym yw 1 Ionawr 2016—
(a) adran 14 (athrawon ysgol a gweithwyr cymorth dysgu mewn ysgolion) i’r graddau nad yw eisoes mewn grym;
(b) adran 16 (gweithwyr cymorth dysgu mewn addysg bellach); ac
(c) ail res a phedwaredd res Tabl 1 ym mharagraff 1 o Atodlen 2 (categorïau cofrestru).
Huw Lewis
Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
15 Medi 2015