
RHAN 1
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Cymwysterau Cymru 2015 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaethau Trosiannol ac Arbed) 2015.
(2) Yn y Gorchymyn hwn—
 mae i “cymhwyster perthnasol” yr un ystyr ag a roddir i “relevant qualification” yn adran 30 o Ddeddf 1997 fel y mae’r adran honno mewn grym yn union cyn 21 Medi 2015;
 ystyr “Deddf 1997” (“the 1997 Act”) yw Deddf Addysg 1997;
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Cymwysterau Cymru 2015;
 ystyr “y Gronfa Ddata” (“the Database”) yw’r gronfa ddata a gyhoeddir ar-lein o’r enw “y Gronfa Ddata Cymwysterau Cymeradwy yng Nghymru” ac a elwir hefyd yn “DAQW”.
RHAN 2
2 
Mae darpariaethau’r Ddeddf, i’r graddau nad ydynt wedi eu cychwyn eto, yn dod i rym ar 21 Medi 2015.
RHAN 3
3 

(1) Mae’r erthygl hon yn gymwys i’r graddau y mae swyddogaeth, sy’n arferadwy gan Gymwysterau Cymru o 21 Medi 2015 ymlaen (“y swyddogaeth newydd”) yn cyfateb i swyddogaeth a oedd yn arferadwy gan Weinidogion Cymru o dan Ran 5 o Ddeddf 1997 cyn y dyddiad hwnnw (“yr hen swyddogaeth”).
(2) Mae unrhyw beth sydd wedi ei wneud, neu sydd heb ei wneud, cyn 21 Medi 2015 gan neu mewn perthynas â Gweinidogion Cymru mewn cysylltiad â’r hen swyddogaeth i gael ei drin, o’r dyddiad hwnnw, fel pe bai wedi ei wneud, neu i gael ei barhau, neu heb ei wneud, gan neu mewn perthynas â Chymwysterau Cymru mewn cysylltiad â’r swyddogaeth newydd.
(3) O 21 Medi 2015 ymlaen, caiff Cymwysterau Cymru gymryd camau mewn cysylltiad â’r swyddogaeth newydd sy’n ymwneud ag amgylchiadau sy’n digwydd cyn y dyddiad hwnnw fel pe bai’r swyddogaeth newydd wedi bod mewn grym pan ddigwyddodd yr amgylchiadau a arweiniodd at ei harfer ac felly, o’r dyddiad hwnnw ymlaen, ni chaiff Gweinidogion Cymru gymryd camau mewn cysylltiad â’r hen swyddogaeth.
(4) Yn unol â hynny, i’r graddau y bo’n angenrheidiol i roi effaith i baragraffau (1) i (3), mae cyfeiriadau at Weinidogion Cymru neu Lywodraeth Cymru (ym mha fodd bynnag y’u disgrifir) a’r hen swyddogaeth mewn dogfen sy’n ymwneud â’r hen swyddogaeth, a chyfeiriadau sy’n cymryd effaith fel cyfeiriadau at Weinidogion Cymru neu Lywodraeth Cymru (ym mha fodd bynnag y’u disgrifir) a’r hen swyddogaeth mewn dogfen o’r fath i gael eu darllen, o 21 Medi 2015 ymlaen, fel cyfeiriadau at Gymwysterau Cymru a’r swyddogaeth newydd.
(5) Mae paragraffau (1) i (4) yn cael effaith yn ddarostyngedig i’r darpariaethau a ganlyn yn y Gorchymyn hwn.
(6) At ddibenion paragraff (1), nid yw gosod cosb ariannol o dan adran 38(1) neu (2) o’r Ddeddf yn swyddogaeth sy’n arferadwy gan Gymwysterau Cymru o 21 Medi 2015 ymlaen.
4 

(1) Mae’r erthygl hon yn gymwys pan fo person, yn union cyn 21 Medi 2015, wedi ei gydnabod o dan adran 30(1)(e) o Ddeddf 1997 mewn cysylltiad â dyfarnu neu ddilysu cymhwyster perthnasol penodedig neu ddisgrifiad o gymhwyster perthnasol.
(2) O 21 Medi 2015 ymlaen, mae’r person i gael ei drin fel un sydd wedi ei gydnabod o dan adran 8 (cydnabod corff dyfarnu yn gyffredinol) o’r Ddeddf.
(3) Ond os yw’r person wedi hysbysu Gweinidogion Cymru yn ysgrifenedig cyn y dyddiad hwnnw nad yw’r person yn dymuno cael ei gydnabod o dan adran 8 mewn cysylltiad â chymhwyster neu ddisgrifiad o gymhwyster nad yw’r corff wedi ei gydnabod mewn cysylltiad ag ef o dan adran 30(1)(e) o Ddeddf 1997, mae’r person i gael ei drin fel pe bai wedi pennu’r cymhwyster hwnnw neu’r disgrifiad hwnnw o gymhwyster o dan adran 8(2) o’r Ddeddf.
5 

(1) O 21 Medi 2015 ymlaen, mae’r meini prawf sydd wedi eu cynnwys yn y ddogfen a ddisgrifir ym mharagraff (2), yn ddarostyngedig i’r diwygiadau iddynt y darperir ar eu cyfer yn y ddogfen a ddisgrifir ym mharagraff (3), i gael eu trin fel y meini prawf cydnabod cyffredinol sydd wedi eu gosod a’u cyhoeddi gan Gymwysterau Cymru o dan adran 5 o’r Ddeddf.
(2) Y ddogfen yw’r un â’r rhif ISBN 978 0 7504 7250 2, o’r enw “Criteria for Recognition March 2012” a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2012 ac a gyhoeddir ar-lein ym mis Medi 2015 a’i enw’n cynnwys y cyfeirnod QWRD0001.
(3) Y ddogfen yw’r un o’r enw “Amendments to Criteria for Recognition” ac a gyhoeddir ar-lein ym mis Medi 2015 a’i enw’n cynnwys y cyfeirnod QWRD0002.
6 

(1) Mae’r erthygl hon yn gymwys pan fo person wedi gwneud cais i Weinidogion Cymru cyn 21 Medi 2015 am gydnabyddiaeth o dan adran 30(1)(e) o Ddeddf 1997 nad yw wedi ei dynnu’n ôl gan y person ac nad yw Gweinidogion Cymru wedi penderfynu yn ei gylch, cyn y dyddiad hwnnw.
(2) O 21 Medi 2015 ymlaen, mae’r cais i gael ei drin fel cais i Gymwysterau Cymru gan y person am gydnabyddiaeth gyffredinol o dan adran 8 o’r Ddeddf.
(3) Caiff y person, ar neu ar ôl 21 Medi 2015 ond cyn i Gymwysterau Cymru benderfynu pa un ai i gydnabod y person ai peidio, bennu’n ysgrifenedig i Gymwysterau Cymru gymhwyster neu ddisgrifiad o gymhwyster nad yw’r person yn dymuno cael ei gydnabod mewn cysylltiad â’i ddyfarnu ac mae’r person i gael ei drin fel pe bai wedi pennu’r cymhwyster neu’r disgrifiad o gymhwyster o dan adran 8(2) o’r Ddeddf.
7 

(1) O 21 Medi 2015 ymlaen, mae’r amodau yn y ddogfen a ddisgrifir ym mharagraff (2), yn ddarostyngedig i’r diwygiadau iddynt y darperir ar eu cyfer yn y ddogfen a ddisgrifir ym mharagraff (3), i gael eu trin fel yr amodau cydnabod safonol a lunnir ac a gyhoeddir gan Gymwysterau Cymru o dan baragraff 2(1) o Atodlen 3 i’r Ddeddf.
(2) Y ddogfen yw’r un o’r enw “General conditions of Recognition March 2015” a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2015 ac a gyhoeddir ar-lein ym mis Medi 2015 a’i enw’n cynnwys y cyfeirnod QWRD0003.
(3) Y ddogfen yw’r un o’r enw “Amendments to General Conditions of Recognition” ac a gyhoeddir ar-lein ym mis Medi 2015 a’i enw’n cynnwys y cyfeirnod QWRD0004.
(4) O 21 Medi 2015 ymlaen, ystyr cyfeiriadau yn y dogfennau a ddisgrifir ym mharagraffau (2) a (3) at “regulatory documents” yw’r dogfennau a restrir yn y ddogfen o’r enw “Qualifications Wales Regulatory Documents List” ac a gyhoeddir ar-lein ym mis Medi 2015 a’i enw’n cynnwys y cyfeirnod QWRD0005.
(5) O 21 Medi 2015 ymlaen, ystyr cyfeiriadau yn y ddogfen a ddisgrifir ym mharagraff (2) at “certificate requirements” yw’r gofynion a nodir yn y ddogfen o’r enw “Additional Certificate Requirements” ac a gyhoeddir ar-lein ym mis Medi 2015 a’i enw’n cynnwys y cyfeirnod QWRD0006.
8 

(1) Mae’r erthygl hon yn gymwys—
(a) pan fo person sydd wedi ei gydnabod o dan adran 30(1)(e) o Ddeddf 1997 wedi rhoi hysbysiad i Weinidogion Cymru o dan adran 32C(1) (ildio cydnabyddiaeth) o’r Ddeddf honno cyn 21 Medi 2015 ac nad yw’r hysbysiad hwnnw wedi ei dynnu’n ôl, a
(b) pan na fo Gweinidogion Cymru wedi rhoi hysbysiad o dan adran 32C(2) cyn 21 Medi 2015 am y dyddiad y mae’r person hwnnw i beidio â chael ei gydnabod yn y cyswllt o dan sylw.
(2) Os yw’r person hwnnw wedi rhoi hysbysiad sydd o fewn paragraff (4), mae’r person i gael ei drin fel pe bai wedi rhoi hysbysiad ildio o dan baragraff 17 o Atodlen 3 i’r Ddeddf—
(a) a geir ar y dyddiad y mae Gweinidogion Cymru neu Gymwysterau Cymru yn cael yr hysbysiad o fewn paragraff (4),
(b) sydd mewn cysylltiad â’r un cymwysterau â’r hysbysiad a roddir o dan adran 32C(1) o Ddeddf 1997, ac
(c) sy’n pennu’r dyddiad a roddir yn yr hysbysiad o fewn paragraff (4) fel y dyddiad at ddibenion paragraff 17(2) o’r Atodlen honno.
(3) Os nad yw’r person, cyn 21 Medi 2015, wedi rhoi hysbysiad sydd o fewn paragraff (4), rhaid i Gymwysterau Cymru, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, hysbysu’r person bod rhaid iddo roi hysbysiad i Gymwysterau Cymru sydd o fewn paragraff (4) cyn y gall Cymwysterau Cymru benderfynu pa bryd y mae’r gydnabyddiaeth yn y cyswllt o dan sylw i beidio â chael effaith.
(4) Mae hysbysiad o fewn y paragraff hwn os yw’n hysbysiad ysgrifenedig oddi wrth y person sy’n datgan y dyddiad y mae’r person yn dymuno peidio â chael ei gydnabod pan ddaw’r dyddiad hwnnw i ben ac os rhoddir yr hysbysiad—
(a) cyn 21 Medi 2015, fe’i rhoddir i Weinidogion Cymru, neu
(b) ar neu ar ôl y dyddiad hwnnw, fe’i rhoddir i Gymwysterau Cymru.
9 

(1) Mae’r erthygl hon yn gymwys mewn perthynas â’r ffurfiau ar gymhwyster a restrir yn yr Atodlen.
(2) O 21 Medi 2015 ymlaen, mae’r ffurfiau ar gymhwyster i gael eu trin fel pe baent wedi eu cymeradwyo o dan adran 19 o’r Ddeddf i’w dyfarnu yng Nghymru gan y corff dyfarnu a nodir yn enw’r ffurf ar gymhwyster o dan sylw.
(3) Mae pob cymeradwyaeth yn rhinwedd paragraff (2) i gael ei thrin fel pe bai Cymwysterau Cymru wedi, o dan adran 22(3) o’r Ddeddf, ddyrannu’r rhif yn y cofnod cyfatebol ar gyfer y ffurf ar gymhwyster yn y golofn “Rhif / Number”.
(4) Ac eithrio mewn perthynas â’r cymhwyster y cyfeirir ato ym mharagraff (5), mae pob cymeradwyaeth yn rhinwedd paragraff (2) i gael ei thrin fel pe bai Cymwysterau Cymru wedi, o dan adran 23(2) o’r Ddeddf, bennu’r cyfnod o 21 Medi 2015 hyd ddiwedd 31 Awst 2020 fel y cyfnod y mae’r gymeradwyaeth yn cael effaith.
(5) Mae’r gymeradwyaeth yn rhinwedd paragraff (2) i’r cymhwyster y dyrennir y rhif 601/7663/5 iddo (TGAU Lefel 1/2 CBAC mewn Daearyddiaeth) i gael ei thrin fel pe bai Cymwysterau Cymru wedi, o dan adran 23(2) o’r Ddeddf, bennu’r cyfnod o 1 Medi 2016 hyd ddiwedd 31 Awst 2021 fel y cyfnod y mae’r gymeradwyaeth yn cael effaith.
(6) Mae unrhyw hysbysiad o fewn paragraff (7) a roddir cyn 21 Medi 2015 i Weinidogion Cymru mewn cysylltiad â ffurf ar gymhwyster gan y corff dyfarnu o dan sylw ac nad yw wedi ei dynnu’n ôl cyn y dyddiad hwnnw, i gael ei drin, o’r dyddiad hwnnw, fel hysbysiad ildio o dan adran 25 o’r Ddeddf.Mae’r hysbysiad yn hysbysiad ynghylch y disgwyliad y bydd y corff dyfarnu yn tynnu’r ffurf ar gymhwyster yn ôl o dan amod D7.3 o’r amodau cydnabod a osodir gan Weinidogion Cymru o dan adran 32(3A) o Ddeddf 1997.
10 

(1) Mae’r erthygl hon yn gymwys mewn cysylltiad â’r ffurfiau ar gymhwyster sydd, ar 21 Medi 2015, wedi eu rhestru yn y Gronfa Ddata fel “live” (yn y maes “Statws”) ac eithrio’r rhai sydd wedi eu rhestru yn yr Atodlen.
(2) O 21 Medi 2015 ymlaen, mae’r ffurfiau ar gymhwyster i gael eu trin fel pe baent wedi eu dynodi gan Gymwysterau Cymru o dan adran 29 o’r Ddeddf.
(3) Mae pob dynodiad adran 29 yn rhinwedd paragraff (2) i gael ei drin fel pe bai Cymwysterau Cymru o dan adran 30(1) wedi pennu—
(a) 21 Medi 2015 fel y dyddiad y mae’r dynodiad i gael effaith ohono, a
(b) y cynharaf o’r dyddiadau a ganlyn fel y dyddiad y mae’r dynodiad yn peidio â chael effaith pan ddaw’r dyddiad i ben—
(i) y dyddiad adolygu a nodir ar gyfer y ffurf ar gymhwyster ar y Gronfa Ddata ar 21 Medi 2015;
(ii) 31 Awst 2018.
11 

(1) Mae’r erthygl hon yn gymwys—
(a) pan fo person, cyn 21 Medi 2015, wedi cyflwyno ffurf ar gymhwyster perthnasol i Weinidogion Cymru, y mae’r person wedi ei gydnabod mewn cysylltiad â hi o dan adran 30(1)(e) o Ddeddf 1997, i gael ei hachredu o dan adran 30(1)(h) o’r Ddeddf honno ac nad yw wedi tynnu’r cyflwyno yn ôl,
(b) pan nododd y person, wrth gyflwyno’r ffurf ar gymhwyster, cyn 21 Medi 2015, i gael ei hachredu, ddymuniad i’r ffurf ar gymhwyster gael ei chyllido yng Nghymru, ac
(c) pan na fo Gweinidogion Cymru, cyn 21 Medi 2015, wedi penderfynu pa un ai i achredu’r ffurf ar gymhwyster ai peidio.
(2) O 21 Medi 2015 ymlaen, mae cyflwyno’r ffurf ar gymhwyster i gael ei drin fel cais gan y person o dan adran 29(2) o’r Ddeddf i Gymwysterau Cymru i’r ffurf ar gymhwyster gael ei dynodi o dan yr adran honno.
12 

(1) Mae’r erthygl hon yn gymwys pan fo cwyn wedi ei gwneud, cyn 21 Medi 2015, i Weinidogion Cymru mewn perthynas â mater a ddisgrifir ym mharagraff (2) ac nad yw Gweinidogion Cymru wedi cwblhau’r gwaith o’i hystyried.
(2) Y materion yw fel a ganlyn—
(a) dyfarnu neu ddilysu ffurf ar gymhwyster gan berson sydd wedi ei gydnabod mewn cysylltiad â hi o dan adran 30(1)(e) o Ddeddf 1997;
(b) unrhyw weithgareddau eraill gan berson sydd wedi ei gydnabod o dan adran 30(1)(e) o Ddeddf 1997 sy’n berthnasol i’r gydnabyddiaeth honno.
(3) O 21 Medi 2015 ymlaen, mae’r gŵyn i gael ei thrin at ddibenion adran 48 o’r Ddeddf fel cwyn a wneir i Gymwysterau Cymru.
RHAN 4
13 
Er gwaethaf diddymu adran 30 o Ddeddf 1997 gan y Ddeddf, mae cymhwyster sydd wedi ei achredu gan Weinidogion Cymru yn unol â’r adran honno i barhau i gael ei drin fel cymhwyster sydd wedi ei achredu at ddibenion y diffiniad o “further education course” yn rheoliad 3 o Reoliadau’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol 2015.
Huw Lewis
Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
16 Medi 2015
YR ATODLEN
erthygl 9

Tabl 1
Enw Title Rhif / Number
TGAU Lefel 1/2 CBAC mewn Cymraeg Iaith WJEC Level 1/2 GCSE in Cymraeg Iaith 601/4944/9
TGAU Lefel 1/2 CBAC mewn Daearyddiaeth WJEC Level 1/2 GCSE in Geography 601/7663/5
TGAU Lefel 1/2 CBAC mewn Llenyddiaeth Gymraeg WJEC Level 1/2 GCSE in Llenyddiaeth Gymraeg 601/4914/0
TGAU Lefel 1/2 CBAC mewn Llenyddiaeth Saesneg WJEC Level 1/2 GCSE in English Literature 601/4942/5
TGAU Lefel 1/2 CBAC mewn Mathemateg WJEC Level 1/2 GCSE in Mathematics 601/4907/3
TGAU Lefel 1/2 CBAC mewn Mathemateg - Rhifedd WJEC Level 1/2 GCSE in Mathematics – Numeracy 601/4908/5
TGAU Lefel 1/2 CBAC mewn Saesneg Iaith WJEC Level 1/2 GCSE in English Language 601/4943/7

Tabl 2
Enw Title Rhif / Number
TAG Uwch Gyfrannol Lefel 3 CBAC mewn Bioleg WJEC Level 3 Advanced Subsidiary GCE in Biology 601/5864/5
TAG Uwch Gyfrannol Lefel 3 CBAC mewn Busnes WJEC Level 3 Advanced Subsidiary GCE in Business 601/5260/6
TAG Uwch Gyfrannol Lefel 3 CBAC mewn Celf a Dylunio WJEC Level 3 Advanced Subsidiary GCE in Art and Design 601/5347/7
TAG Uwch Gyfrannol Lefel 3 CBAC mewn Cemeg WJEC Level 3 Advanced Subsidiary GCE in Chemistry 601/5866/9
TAG Uwch Gyfrannol Lefel 3 CBAC mewn Cyfrifiadureg WJEC Level 3 Advanced Subsidiary GCE in Computer Science 601/5391/X
TAG Uwch Gyfrannol Lefel 3 CBAC mewn Cymdeithaseg WJEC Level 3 Advanced Subsidiary GCE in Sociology 601/5258/8
TAG Uwch Gyfrannol Lefel 3 CBAC mewn Cymraeg Iaith Gyntaf WJEC Level 3 Advanced Subsidiary GCE in Cymraeg Iaith Gyntaf 601/5403/2
TAG Uwch Gyfrannol Lefel 3 CBAC mewn Economeg WJEC Level 3 Advanced Subsidiary GCE in Economics 601/5228/X
TAG Uwch Gyfrannol Lefel 3 CBAC mewn Ffiseg WJEC Level 3 Advanced Subsidiary GCE in Physics 601/5867/0
TAG Uwch Gyfrannol Lefel 3 CBAC mewn Hanes WJEC Level 3 Advanced Subsidiary GCE in History 601/5830/X
TAG Uwch Gyfrannol Lefel 3 CBAC mewn Iaith a Llenyddiaeth Saesneg WJEC Level 3 Advanced Subsidiary GCE in English Language and Literature 601/5404/4
TAG Uwch Gyfrannol Lefel 3 CBAC mewn Llenyddiaeth Saesneg WJEC Level 3 Advanced Subsidiary GCE in English Literature 601/5405/6
TAG Uwch Gyfrannol Lefel 3 CBAC mewn Saesneg Iaith WJEC Level 3 Advanced Subsidiary GCE in English Language 601/5390/8
TAG Uwch Gyfrannol Lefel 3 CBAC mewn Seicoleg WJEC Level 3 Advanced Subsidiary GCE in Psychology 601/5759/8

Tabl 3
Enw Title Rhif / Number
TAG Safon Uwch Lefel 3 CBAC mewn Bioleg WJEC Level 3 Advanced GCE in Biology 601/5846/3
TAG Safon Uwch Lefel 3 CBAC mewn Busnes WJEC Level 3 Advanced GCE in Business 601/5238/2
TAG Safon Uwch Lefel 3 CBAC mewn Celf a Dylunio WJEC Level 3 Advanced GCE in Art and Design 601/5290/4
TAG Safon Uwch Lefel 3 CBAC mewn Cemeg WJEC Level 3 Advanced GCE in Chemistry 601/5847/5
TAG Safon Uwch Lefel 3 CBAC mewn Cyfrifiadureg WJEC Level 3 Advanced GCE in Computer Science 601/5345/3
TAG Safon Uwch Lefel 3 CBAC mewn Cymdeithaseg WJEC Level 3 Advanced GCE in Sociology 601/5237/0
TAG Safon Uwch Lefel 3 CBAC mewn Cymraeg Iaith Gyntaf WJEC Level 3 Advanced GCE in Cymraeg Iaith Gyntaf 601/5392/1
TAG Safon Uwch Lefel 3 CBAC mewn Economeg WJEC Level 3 Advanced GCE in Economics 601/5034/8
TAG Safon Uwch Lefel 3 CBAC mewn Ffiseg WJEC Level 3 Advanced GCE in Physics 601/5848/7
TAG Safon Uwch Lefel 3 CBAC mewn Hanes WJEC Level 3 Advanced GCE in History 601/5817/7
TAG Safon Uwch Lefel 3 CBAC mewn Iaith a Llenyddiaeth Saesneg WJEC Level 3 Advanced GCE in English Language and Literature 601/5388/X
TAG Safon Uwch Lefel 3 CBAC mewn Llenyddiaeth Saesneg WJEC Level 3 Advanced GCE in English Literature 601/5389/1
TAG Safon Uwch Lefel 3 CBAC mewn Saesneg Iaith WJEC Level 3 Advanced GCE in English Language 601/5346/5
TAG Safon Uwch Lefel 3 CBAC mewn Seicoleg WJEC Level 3 Advanced GCE in Psychology 601/5719/7

Tabl 4
Enw Title Rhif / Number
Tystysgrif Her Sgiliau Genedlaethol / Sylfaen CBAC WJEC National / Foundation Skills Challenge Certificate 601/4915/2
Tystysgrif Her Sgiliau Sylfaen (ôl-16) CBAC WJEC Foundation (post-16) Skills Challenge Certificate 601/4941/3
Tystysgrif Her Sgiliau Genedlaethol (ôl-16) CBAC WJEC National (post-16) Skills Challenge Certificate 601/4916/4
Tystysgrif Her Sgiliau Uwch CBAC WJEC Advanced Skills Challenge Certificate 601/4917/6
Bagloriaeth Genedlaethol / Sylfaen Cymru CBAC WJEC National / Foundation Welsh Baccalaureate 601/4918/8
Bagloriaeth Sylfaen (ôl-16) Cymru CBAC WJEC Foundation (post-16) Welsh Baccalaureate 601/4920/6
Bagloriaeth Genedlaethol (ôl-16) Cymru CBAC WJEC National (post-16) Welsh Baccalaureate 601/4919/X
Bagloriaeth Uwch Cymru CBAC WJEC Advanced Welsh Baccalaureate 601/4921/8

Tabl 5
Enw Title Rhif / Number
Sgiliau Cyfathrebu Hanfodol Lefel 1 Agored Cymru Agored Cymru Level 1 Essential Communication Skills 601/6825/0
Sgiliau Cyfathrebu Hanfodol Lefel 2 Agored Cymru Agored Cymru Level 2 Essential Communication Skills 601/6828/6
Sgiliau Cyfathrebu Hanfodol Lefel 3 Agored Cymru Agored Cymru Level 3 Essential Communication Skills 601/6829/8
Sgiliau Cyflogadwyedd Hanfodol Lefel Mynediad Agored Cymru (Mynediad 3) Agored Cymru Entry Level Essential Employability Skills (Entry 3) 601/6866/3
Sgiliau Cyflogadwyedd Hanfodol Lefel 1 Agored Cymru Agored Cymru Level 1 Essential Employability Skills 601/6924/2
Sgiliau Cyflogadwyedd Hanfodol Lefel 2 Agored Cymru Agored Cymru Level 2 Essential Employability Skills 601/6864/X
Sgiliau Cyflogadwyedd Hanfodol Lefel 3 Agored Cymru Agored Cymru Level 3 Essential Employability Skills 601/6865/1
Sgiliau Cymhwyso Rhif Hanfodol Lefel 1 Agored Cymru Agored Cymru Level 1 Essential Application of Number Skills 601/6846/8
Sgiliau Cymhwyso Rhif Hanfodol Lefel 2 Agored Cymru Agored Cymru Level 2 Essential Application of Number Skills 601/6847/X
Sgiliau Cymhwyso Rhif Hanfodol Lefel 3 Agored Cymru Agored Cymru Level 3 Essential Application of Number Skills 601/6863/8
Sgiliau Llythrennedd Digidol Hanfodol Lefel Mynediad Agored Cymru (Mynediad 1) Agored Cymru Entry Level Essential Digital Literacy Skills (Entry 1) 601/6873/0
Sgiliau Llythrennedd Digidol Hanfodol Lefel Mynediad Agored Cymru (Mynediad 2) Agored Cymru Entry Level Essential Digital Literacy Skills (Entry 2) 601/6874/2
Sgiliau Llythrennedd Digidol Hanfodol Lefel Mynediad Agored Cymru (Mynediad 3) Agored Cymru Entry Level Essential Digital Literacy Skills (Entry 3) 601/6876/6
Sgiliau Llythrennedd Digidol Hanfodol Lefel 1 Agored Cymru Agored Cymru Level 1 Essential Digital Literacy Skills 601/6868/7
Sgiliau Llythrennedd Digidol Hanfodol Lefel 2 Agored Cymru Agored Cymru Level 2 Essential Digital Literacy Skills 601/6870/5
Sgiliau Llythrennedd Digidol Hanfodol Lefel 3 Agored Cymru Agored Cymru Level 3 Essential Digital Literacy Skills 601/6872/9
Sgiliau Cyfathrebu Hanfodol Lefel 1 CBAC WJEC Level 1 Essential Communication Skills 601/6859/6
Sgiliau Cyfathrebu Hanfodol Lefel 2 CBAC WJEC Level 2 Essential Communication Skills 601/6860/2
Sgiliau Cyfathrebu Hanfodol Lefel 3 CBAC WJEC Level 3 Essential Communication Skills 601/6861/4
Sgiliau Cyflogadwyedd Hanfodol Lefel Mynediad CBAC (Mynediad 3) WJEC Entry Level Essential Employability Skills (Entry 3) 601/6867/5
Sgiliau Cyflogadwyedd Hanfodol Lefel 1 CBAC WJEC Level 1 Essential Employability Skills 601/6869/9
Sgiliau Cyflogadwyedd Hanfodol Lefel 2 CBAC WJEC Level 2 Essential Employability Skills 601/6871/7
Sgiliau Cyflogadwyedd Hanfodol Lefel 3 CBAC WJEC Level 3 Essential Employability Skills 601/6875/4
Sgiliau Cymhwyso Rhif Hanfodol Lefel 1 CBAC WJEC Level 1 Essential Application of Number Skills 601/6852/3
Sgiliau Cymhwyso Rhif Hanfodol Lefel 2 CBAC WJEC Level 2 Essential Application of Number Skills 601/6857/2
Sgiliau Cymhwyso Rhif Hanfodol Lefel 3 CBAC WJEC Level 3 Essential Application of Number Skills 601/6858/4
Sgiliau Llythrennedd Digidol Hanfodol Lefel Mynediad CBAC (Mynediad 1) WJEC Entry Level Essential Digital Literacy Skills (Entry 1) 601/6797/X
Sgiliau Llythrennedd Digidol Hanfodol Lefel Mynediad CBAC (Mynediad 2) WJEC Entry Level Essential Digital Literacy Skills (Entry 2) 601/6798/1
Sgiliau Llythrennedd Digidol Hanfodol Lefel Mynediad CBAC (Mynediad 3) WJEC Entry Level Essential Digital Literacy Skills (Entry 3) 601/6799/3
Sgiliau Llythrennedd Digidol Hanfodol Lefel 1 CBAC WJEC Level 1 Essential Digital Literacy Skills 601/6850/X
Sgiliau Llythrennedd Digidol Hanfodol Lefel 2 CBAC WJEC Level 2 Essential Digital Literacy Skills 601/6851/1
Sgiliau Llythrennedd Digidol Hanfodol Lefel 3 CBAC WJEC Level 3 Essential Digital Literacy Skills 601/6862/6
Sgiliau Cyfathrebu Hanfodol Lefel 1 City and Guilds City and Guilds Level 1 Essential Communication Skills 601/6805/5
Sgiliau Cyfathrebu Hanfodol Lefel 2 City and Guilds City and Guilds Level 2 Essential Communication Skills 601/6809/2
Sgiliau Cyfathrebu Hanfodol Lefel 3 City and Guilds City and Guilds Level 3 Essential Communication Skills 601/6813/4
Sgiliau Cyflogadwyedd Hanfodol Lefel Mynediad City and Guilds (Mynediad 3) City and Guilds Entry Level Essential Employability Skills (Entry 3) 601/6804/3
Sgiliau Cyflogadwyedd Hanfodol Lefel 1 City and Guilds City and Guilds Level 1 Essential Employability Skills 601/6807/9
Sgiliau Cyflogadwyedd Hanfodol Lefel 2 City and Guilds City and Guilds Level 2 Essential Employability Skills 601/6811/0
Sgiliau Cyflogadwyedd Hanfodol Lefel 3 City and Guilds City and Guilds Level 3 Essential Employability Skills 601/6814/6
Sgiliau Cymhwyso Rhif Hanfodol Lefel 1 City and Guilds City and Guilds Level 1 Essential Application of Number Skills 601/6802/X
Sgiliau Cymhwyso Rhif Hanfodol Lefel 2 City and Guilds City and Guilds Level 2 Essential Application of Number Skills 601/6808/0
Sgiliau Cymhwyso Rhif Hanfodol Lefel 3 City and Guilds City and Guilds Level 3 Essential Application of Number Skills 601/6812/2
Sgiliau Llythrennedd Digidol Hanfodol Lefel Mynediad City and Guilds (Mynediad 1) City and Guilds Entry Level Essential Digital Literacy Skills (Entry 1) 601/6800/6
Sgiliau Llythrennedd Digidol Hanfodol Lefel Mynediad City and Guilds (Mynediad 2) City and Guilds Entry Level Essential Digital Literacy Skills (Entry 2) 601/6803/1
Sgiliau Llythrennedd Digidol Hanfodol Lefel Mynediad City and Guilds (Mynediad 3) City and Guilds Entry Level Essential Digital Literacy Skills (Entry 3) 601/6801/8
Sgiliau Llythrennedd Digidol Hanfodol Lefel 1 City and Guilds City and Guilds Level 1 Essential Digital Literacy Skills 601/6806/7
Sgiliau Llythrennedd Digidol Hanfodol Lefel 2 City and Guilds City and Guilds Level 2 Essential Digital Literacy Skills 601/6810/9
Sgiliau Llythrennedd Digidol Hanfodol Lefel 3 City and Guilds City and Guilds Level 3 Essential Digital Literacy Skills 601/6820/1
Sgiliau Cyfathrebu Hanfodol Lefel 1 BTEC Pearson Pearson BTEC Level 1 Essential Communication Skills 601/6835/3
Sgiliau Cyfathrebu Hanfodol Lefel 2 BTEC Pearson Pearson BTEC Level 2 Essential Communication Skills 601/6839/0
Sgiliau Cyfathrebu Hanfodol Lefel 3 BTEC Pearson Pearson BTEC Level 3 Essential Communication Skills 601/6843/2
Sgiliau Cyflogadwyedd Hanfodol Lefel Mynediad BTEC Pearson (Mynediad 3) Pearson BTEC Entry Level Essential Employability Skills (Entry 3) 601/6833/X
Sgiliau Cyflogadwyedd Hanfodol Lefel 1 BTEC Pearson Pearson BTEC Level 1 Essential Employability Skills 601/6837/7
Sgiliau Cyflogadwyedd Hanfodol Lefel 2 BTEC Pearson Pearson BTEC Level 2 Essential Employability Skills 601/6841/9
Sgiliau Cyflogadwyedd Hanfodol Lefel 3 BTEC Pearson Pearson BTEC Level 3 Essential Employability Skills 601/6845/6
Sgiliau Cymhwyso Rhif Hanfodol Lefel 1 BTEC Pearson Pearson BTEC Level 1 Essential Application of Number Skills 601/6834/1
Sgiliau Cymhwyso Rhif Hanfodol Lefel 2 BTEC Pearson Pearson BTEC Level 2 Essential Application of Number Skills 601/6838/9
Sgiliau Cymhwyso Rhif Hanfodol Lefel 3 BTEC Pearson Pearson BTEC Level 3 Essential Application of Number Skills 601/6842/0
Sgiliau Llythrennedd Digidol Hanfodol Lefel Mynediad BTEC Pearson (Mynediad 1) Pearson BTEC Entry Level Essential Digital Literacy Skills (Entry 1) 601/6830/4
Sgiliau Llythrennedd Digidol Hanfodol Lefel Mynediad BTEC Pearson (Mynediad 2) Pearson BTEC Entry Level Essential Digital Literacy Skills (Entry 2) 601/6831/6
Sgiliau Llythrennedd Digidol Hanfodol Lefel Mynediad BTEC Pearson (Mynediad 3) Pearson BTEC Entry Level Essential Digital Literacy Skills (Entry 3) 601/6832/8
Sgiliau Llythrennedd Digidol Hanfodol Lefel 1 BTEC Pearson Pearson BTEC Level 1 Essential Digital Literacy Skills 601/6836/5
Sgiliau Llythrennedd Digidol Hanfodol Lefel 2 BTEC Pearson Pearson BTEC Level 2 Essential Digital Literacy Skills 601/6840/7
Sgiliau Llythrennedd Digidol Hanfodol Lefel 3 BTEC Pearson Pearson BTEC Level 3 Essential Digital Literacy Skills 601/6844/4