
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Trawsblannu Dynol (Cymru) 2013 (Cychwyn) 2015.
(2) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Trawsblannu Dynol (Cymru) 2013.
2 
Y diwrnod penodedig i’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf ddod i rym yw 12 Medi 2015—
(a) adrannau 7 i 9 at ddiben gwneud rheoliadau;
(b) adran 15, ac eithrio paragraff (e) o is-adran (4); ac
(c) adran 20.
3 
Y diwrnod penodedig i’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf ddod i rym yw 1 Rhagfyr 2015—
(a) adrannau 3 i 6;
(b) adrannau 7 i 9 (i’r graddau nad ydynt eisoes mewn grym);
(c) adrannau 10 i 13;
(d) adran 14, ac eithrio paragraff (b) o is-adran (3); ac
(e) adrannau 16 i 19.
Mark Drakeford
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
9 Medi 2015