
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Arolygu Addysg Feithrin) (Cymru) 2015 a deuant i rym ar 1 Medi 2015.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas ag addysg feithrin a ddarperir yng Nghymru.
(3) Mae’r rheoliadau a ganlyn wedi eu dirymu—
(a) Rheoliadau Addysg (Arolygu Addysg Feithrin) (Cymru) 1999;
(b) rheoliad 23 o Reoliadau Deddf Addysg 2002 (Darpariaethau Trosiannol a Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2005;
(c) rheoliad 2 o Reoliadau Addysg (Diwygiadau ynglŷn â’r Ysbeidiau rhwng Arolygiadau Addysg a Hyfforddiant) (Cymru) 2010; a
(d) rheoliad 2 o Reoliadau Addysg (Diwygiadau sy’n Ymwneud ag Arolygu Addysg a Hyfforddiant) (Cymru) 2014.
2 
Yn y Rheoliadau hyn—
 mae i “Brif Arolygydd Cymru” yr ystyr a roddir iddo yn adran 6 o Ddeddf Addysg 1996;
 ystyr “y cofrestrydd ysgolion annibynnol” (“the registrar of independent schools”) yw Gweinidogion Cymru;
 ystyr “diwrnod gwaith” (“working day”) yw diwrnod nad yw’n ddydd Sadwrn, yn ddydd Sul, yn ŵyl banc nac yn rhan o wyliau sy’n hwy nag wythnos a gymerir gan yr ysgol o dan sylw;
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998;
 ystyr “gŵyl banc” (“bank holiday”) yw diwrnod sy’n ŵyl banc yng Nghymru o dan Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971;
 mae i “ysgol feithrin” yr ystyr a roddir i “nursery school” yn adran 6 o Ddeddf Addysg 1996.
3 

(1) At ddibenion paragraff 13B(1) o Atodlen 26 i’r Ddeddf, y cyfnod y mae adroddiad ar arolygiad o dan baragraff 6B o’r Atodlen honno i gael ei wneud ynddo yw 45 o ddiwrnodau gwaith o’r diwrnod y dechreuodd yr arolygiad.
(2) At ddibenion paragraff 13B(2) o Atodlen 26 i’r Ddeddf, yr awdurdodau a’r personau y mae rhaid anfon copi o’r adroddiad ar arolygiad o dan baragraff 6B o’r Atodlen honno atynt yw—
(a) yn achos addysg feithrin a ddarperir mewn ysgol a gynhelir gan awdurdod lleol—
(i) pennaeth yr ysgol;
(ii) corff llywodraethu’r ysgol; a
(iii) yr awdurdod lleol;
(b) yn achos addysg feithrin a ddarperir mewn ysgol ag iddi lywodraethwyr sefydledig, y person sy’n penodi’r llywodraethwyr hynny;
(c) yn achos addysg feithrin a ddarperir mewn ysgol annibynnol—
(i) pennaeth yr ysgol;
(ii) perchenogion yr ysgol;
(iii) y cofrestrydd ysgolion annibynnol; a
(iv) pan fo’r ysgol wedi ei chymeradwyo o dan adran 347 o Ddeddf Addysg 1996 (cymeradwyo ysgolion annibynnol sy’n darparu addysg arbennig), awdurdod lleol sy’n talu’r ffioedd mewn cysylltiad â phresenoldeb disgybl cofrestredig yn yr ysgol;
(d) yn achos addysg feithrin a ddarperir mewn ysgol arbennig nas cynhelir gan awdurdod lleol—
(i) pennaeth yr ysgol;
(ii) perchenogion yr ysgol; a
(iii) awdurdod lleol sy’n talu ffioedd mewn cysylltiad â phresenoldeb disgybl cofrestredig yn yr ysgol;
(e) yn achos addysg feithrin a ddarperir gan awdurdod lleol o dan adran 18 o Ddeddf Plant 1989, yr awdurdod lleol hwnnw a’r person sydd â gofal am y man lle y darperir yr addysg;
(f) yn achos addysg feithrin a ddarperir gan berson sydd wedi ei gofrestru gan awdurdod lleol o dan adrannau 20 a 22 o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010, y person hwnnw a’r awdurdod lleol a’i cofrestrodd;
(g) yn achos addysg feithrin a ddarperir gan berson y byddai’n ofynnol iddo fod wedi ei gofrestru felly pe bai’r Ddeddf yn gymwys i’r Goron, y person hwnnw a Gweinidogion Cymru; ac
(h) yn achos addysg feithrin a ddarperir gan awdurdod lleol mewn cartref i blant sydd ag anghenion addysgol arbennig, yr awdurdod lleol hwnnw.
4 

(1) Rhaid i Brif Arolygydd Cymru sicrhau bod addysg feithrin berthnasol yn cael ei harolygu o dan baragraff 6B(1)(a) o Atodlen 26 i’r Ddeddf—
(a) pan nad oes arolygiad blaenorol wedi bod o dan y paragraff hwnnw, o fewn 6 blynedd i’r dyddiad y cafodd addysg feithrin berthnasol ei darparu am y tro cyntaf yn y fangre o dan sylw; a
(b) ym mhob achos arall, o leiaf unwaith o fewn cyfnod o 6 mlynedd sy’n dechrau ar 1 Medi 2015 ac sy’n dod i ben ar 31 Awst 2021 ac o leiaf unwaith o fewn pob cyfnod dilynol o 6 mlynedd sy’n dechrau pan ddaw’r cyfnod blaenorol i ben.
(2) At ddibenion y rheoliad hwn, y dyddiad y cwblhawyd yr arolygiad diwethaf yw dyddiad yr adroddiad ar yr arolygiad diwethaf o dan baragraff 6B o Atodlen 26 i’r Ddeddf.
Huw Lewis
Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
5 Awst 2015