
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gofal a Chymorth (Cymhwystra) (Cymru) 2015.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 6 Ebrill 2016 ac maent yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “canlyniadau personol” (“personal outcomes”) yw’r canlyniadau sydd wedi eu nodi mewn perthynas â pherson drwy asesiad o dan adran 19, 21 neu 24 o’r Ddeddf;
 ystyr “dyfarniad cymhwystra” (“eligibility determination”) yw dyfarniad o dan adran 32(1)(a) o’r Ddeddf;
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014;
 mae i “gofalwr” (“carer”) yr ystyr a roddir yn adran 3 o’r Ddeddf;
 ystyr “hunanofal” (“self-care”) yw tasgau y mae person yn eu cyflawni fel rhan o fywyd beunyddiol gan gynnwys—
(i) bwyta ac yfed;
(ii) cynnal hylendid personol;
(iii) codi a gwisgo amdano;
(iv) symud o gwmpas y cartref;
(v) paratoi prydau bwyd;
(vi) cadw’r cartref yn lân, yn ddiogel ac yn hylan.
2 

(1) Pan fo’r awdurdod lleol yn gwneud dyfarniad cymhwystra mewn perthynas ag oedolyn sydd wedi ei asesu o dan adran 19 o’r Ddeddf fel un y mae arno un neu fwy o anghenion am ofal a chymorth, mae unrhyw un o’r anghenion hynny’n bodloni’r meini prawf cymhwystra os yw o ddisgrifiad a bennir yn rheoliad 3.
(2) Pan fo awdurdod lleol yn gwneud dyfarniad cymhwystra mewn perthynas â phlentyn sydd wedi ei asesu o dan adran 21 o’r Ddeddf fel un y mae arno un neu fwy o anghenion am ofal a chymorth, mae unrhyw un o’r anghenion hynny’n bodloni’r meini prawf cymhwystra os yw o ddisgrifiad a bennir yn rheoliad 4.
(3) Pan fo awdurdod lleol yn gwneud dyfarniad cymhwystra mewn perthynas â gofalwr sydd wedi ei asesu o dan adran 24 o’r Ddeddf fel un y mae arno un neu fwy o anghenion am gymorth, mae unrhyw un o’r anghenion hynny’n bodloni’r meini prawf cymhwystra os yw o ddisgrifiad a bennir yn rheoliad 5.
3 
Mae angen oedolyn y cyfeiriwyd ato yn rheoliad 2(1) yn bodloni’r meini prawf cymhwystra os yw—
(a) yr angen yn codi o afiechyd corfforol neu feddyliol yr oedolyn, ei oedran, ei anabledd, ei ddibyniaeth ar alcohol neu gyffuriau, neu amgylchiadau tebyg eraill;
(b) yr angen yn ymwneud ag un neu fwy o’r canlynol—
(i) gallu i gyflawni arferion hunanofal neu arferion domestig;
(ii) gallu i gyfathrebu;
(iii) amddiffyn rhag camdriniaeth neu esgeulustod;
(iv) ymglymiad mewn gwaith, addysg, dysgu neu mewn gweithgareddau hamdden;
(v) cynnal neu ddatblygu perthnasoedd teuluol neu rai personol eraill o bwys;
(vi) datblygu a chynnal perthnasoedd cymdeithasol ac ymglymiad yn y gymuned; neu
(vii) cyflawni cyfrifoldebau gofalu am blentyn;
(c) yr angen yn un nad yw’r oedolyn yn gallu ei ddiwallu, naill ai—
(i) ar ei ben ei hun;
(ii) gyda gofal a chymorth eraill sy’n fodlon darparu’r gofal a’r cymorth hwnnw; neu
(iii) gyda chymorth gwasanaethau yn y gymuned y mae gan yr oedolyn fynediad iddynt; a
(d) yr oedolyn yn annhebyg o sicrhau un neu fwy o’i ganlyniadau personol oni bai—
(i) bod yr awdurdod lleol yn darparu neu yn trefnu gofal a chymorth i ddiwallu’r angen; neu
(ii) bod yr awdurdod lleol yn galluogi’r angen i gael ei ddiwallu drwy wneud taliadau uniongyrchol.
4 

(1) Mae angen plentyn y cyfeiriwyd ato yn rheoliad 2(2) yn bodloni’r meini prawf cymhwystra os yw—
(a) naill ai—
(i) yr angen yn codi o afiechyd corfforol neu feddyliol y plentyn, ei oedran, ei anabledd, ei ddibyniaeth ar alcohol neu gyffuriau, neu amgylchiadau tebyg eraill; neu fod
(ii) yr angen yn un sy’n debyg, os na chaiff ei ddiwallu, o gael effaith andwyol ar ddatblygiad y plentyn;
(b) yr angen yn ymwneud ag un neu fwy o’r canlynol—
(i) gallu i gyflawni arferion hunanofal neu arferion domestig;
(ii) gallu i gyfathrebu;
(iii) amddiffyn rhag camdriniaeth neu esgeulustod;
(iv) ymglymiad mewn gwaith, addysg, dysgu neu mewn gweithgareddau hamdden;
(v) cynnal neu ddatblygu perthnasoedd teuluol neu rai personol eraill o bwys;
(vi) datblygu a chynnal perthnasoedd cymdeithasol ac ymglymiad yn y gymuned; neu
(vii) cyflawni nodau datblygu;
(c) yr angen yn un nad yw’r plentyn, rhieni’r plentyn na phersonau eraill mewn rôl rhiant yn gallu ei ddiwallu, naill ai—
(i) ar eu pennau eu hunain neu gyda’i gilydd,
(ii) gyda gofal a chymorth eraill sy’n fodlon darparu’r gofal a’r cymorth hwnnw; neu
(iii) gyda chymorth gwasanaethau yn y gymuned y mae gan y plentyn, y rhieni neu bersonau eraill mewn rôl rhiant fynediad iddynt; a
(d) y plentyn yn annhebyg o sicrhau un neu fwy o’i ganlyniadau personol oni bai—
(i) bod yr awdurdod lleol yn darparu neu yn trefnu gofal a chymorth i ddiwallu’r angen; neu
(ii) bod yr awdurdod lleol yn galluogi’r angen i gael ei ddiwallu drwy wneud taliadau uniongyrchol.
(2) Yn y rheoliad hwn—
(i) mae cyfeiriadau at ddatblygiad plentyn yn cynnwys datblygiad corfforol, deallusol, emosiynol, cymdeithasol ac ymddygiadol y plentyn hwnnw;
(ii) mae “personau eraill mewn rôl rhiant” (“other persons in a parental role”) yn cynnwys personau sydd â chyfrifoldeb rhiant neu berthnasau sy’n chwarae rôl o ran gofalu am y plentyn;
(iii) mae i “perthynas” (“relative”) yr ystyr a roddir yn adran 197 o’r Ddeddf.
5 
Mae angen gofalwr y cyfeiriwyd ato yn rheoliad 2(3) yn bodloni’r meini prawf cymhwystra —
(a) os yw’r angen yn codi o ganlyniad i ddarparu gofal naill ai—
(i) i oedolyn y mae arno anghenion sy’n dod o fewn Rheoliad 3(a) a (b), neu
(ii) i blentyn anabl;
(b) os yw’r angen yn ymwneud ag un neu fwy o’r canlynol—
(i) gallu i gyflawni arferion hunanofal neu arferion domestig;
(ii) gallu i gyfathrebu;
(iii) amddiffyn rhag camdriniaeth neu esgeulustod;
(iv) ymglymiad mewn gwaith, addysg, dysgu neu mewn gweithgareddau hamdden;
(v) cynnal neu ddatblygu perthnasoedd teuluol neu rai personol eraill o bwys;
(vi) datblygu a chynnal perthnasoedd cymdeithasol ac ymglymiad yn y gymuned; neu
(vii) yn achos gofalwr sy’n oedolyn, cyflawni cyfrifoldebau gofalu am blentyn;
(viii) yn achos gofalwr sy’n blentyn, cyflawni nodau datblygu;
(c) os nad yw’r gofalwr yn gallu diwallu’r angen p’un ai—
(i) ar ei ben ei hun;
(ii) gyda chymorth eraill sy’n fodlon darparu’r cymorth hwnnw; neu
(iii) gyda chymorth gwasanaethau yn y gymuned y mae gan y gofalwr fynediad iddynt; a
(d) os yw’r gofalwr yn annhebyg o sicrhau un neu fwy o’i ganlyniadau personol oni bai—
(i) bod yr awdurdod lleol yn darparu neu yn trefnu cymorth i’r gofalwr i ddiwallu angen y gofalwr;
(ii) bod yr awdurdod lleol yn darparu neu yn trefnu gofal a chymorth i’r person y mae’r gofalwr yn darparu gofal iddo, er mwyn diwallu angen y gofalwr; neu
(iii) bod yr awdurdod lleol yn galluogi’r angen i gael ei ddiwallu drwy wneud taliadau uniongyrchol.
6 
At ddibenion rheoliadau 3(c), 4(1)(c) a 5(c), mae person sy’n gallu diwallu’r angen, ar ei ben ei hun neu gyda chymorth eraill i’w ystyried yn un nad yw’n gallu diwallu’r angen os byddai gwneud hynny—
(a) yn achosi poen, gorbryder neu drallod sylweddol i’r person hwnnw;
(b) yn peryglu neu’n debyg o beryglu iechyd neu ddiogelwch y person hwnnw neu berson arall;
(c) yn cymryd amser sylweddol hwy i’r person hwnnw na’r hyn y byddid yn ei ddisgwyl fel rheol.
Mark Drakeford
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
24 Gorffennaf 2015