
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ardaloedd Rheoli Mwg (Tanwyddau Awdurdodedig) (Cymru) 2015 a deuant i rym ar 4 Awst 2015.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2 
Datgenir bod glo caled, glo lled-galed, trydan, nwy, gloeau stêm isel eu hanweddolrwydd a’r tanwyddau a ddisgrifir yn yr Atodlen yn danwyddau awdurdodedig at ddibenion Rhan III o Ddeddf Aer Glân 1993.
3 
Mae Rheoliadau Ardaloedd Rheoli Mwg (Tanwyddau Awdurdodedig) (Cymru) 2014 wedi eu dirymu.
Carl Sargeant
Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, un o Weinidogion Cymru
8 Gorffennaf 2015
YR ATODLEN
Rheoliad 2
1 
Brics glo Aimcor Excel, a weithgynhyrchir gan Applied Industrial Materials UK Limited yn Newfield, County Durham, neu a weithgynhyrchir gan Oxbow Carbon & Minerals UK Limited yn Windsor House, Cornwall Road, Harrogate, North Yorkshire—
(a) a gyfansoddir o olosg petrolewm (sef tua 60 i 75% o’r cyfanswm pwysau), glo anweddolrwydd-isel a golosg adweithiol (sef tua 20 i 25% o’r cyfanswm pwysau) a rhwymwr resin sy’n caledu wrth oeri (sef gweddill y pwysau);
(b) a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses sy’n cynnwys rholio-wasgu;
(c) sy’n frics glo heb eu marcio ar siâp gobennydd;
(d) sy’n pwyso 73 gram ar gyfartaledd; ac
(e) nad yw eu cynnwys o sylffwr yn fwy na 2% o’r cyfanswm pwysau.
2 
Brics glo Aimcor Pureheat, a weithgynhyrchir gan Applied Industrial Materials UK Limited yn Immingham, North East Lincolnshire, neu a weithgynhyrchir gan Oxbow Carbon & Minerals UK Limited yn Windsor House, Cornwall Road, Harrogate, North Yorkshire—
(a) a gyfansoddir o lo caled (sef tua 60% o’r cyfanswm pwysau), golosg petrolewm (sef tua 25% o’r cyfanswm pwysau) a rhwymwr (sef gweddill y pwysau);
(b) a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses sy’n cynnwys rholio-wasgu a thrin â gwres o tua 250°C;
(c) sy’n frics glo ar siâp gobennydd gyda hicyn ar ffurf llinell sengl ar un ochr a hicyn ar ffurf llinell ddwbl ar yr ochr arall;
(d) sy’n pwyso 75 gram ar gyfartaledd; ac
(e) nad yw eu cynnwys o sylffwr yn fwy na 2% o’r cyfanswm pwysau.
3 
Brics glo Ancit, a weithgynhyrchir gan Coal Products Limited yn Immingham Briquetting Works, Immingham, North East Lincolnshire—
(a) a gyfansoddir o lo caled (sef tua 60 i 95% o’r cyfanswm pwysau), golosg petrolewm (hyd at tua 30% o’r cyfanswm pwysau), glo meddal (hyd at tua 15% o’r cyfanswm pwysau) a rhwymwr o driagl ac asid ffosfforig neu rwymwr organig (sef gweddill y pwysau);
(b) a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses sy’n cynnwys rholio-wasgu a thrin â gwres o tua 300°C;
(c) sy’n frics glo ar siâp clustog heb farciau arnynt;
(d) sy’n pwyso 48 gram ar gyfartaledd; ac
(e) nad yw eu cynnwys o sylffwr yn fwy na 2% o’r cyfanswm pwysau.
4 
Boncyffion tân Big K Instant Lighting Fire Logs, a weithgynhyrchir gan Allspan BV yn Macroweg 4, 5804 CL Venray, Yr Iseldiroedd—
(a) a gyfansoddir o gwyr hydrin (sef tua 58 i 59% o’r cyfanswm pwysau) a blawd llif pren caled (sef gweddill y pwysau);
(b) a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses o drin â gwres ac allwthio;
(c) sydd tua 235 milimetr eu hyd a 80 milimetr o ddyfnder, gyda rhigolau ar hyd yr wynebau;
(d) sy’n pwyso 1.1 cilogram ar gyfartaledd; ac
(e) nad yw eu cynnwys o sylffwr yn fwy na 0.1% o’r cyfanswm pwysau.
5 
Y siarcol Big K Restaurant Grade Charcoal, a weithgynhyrchir gan Big K Products UK Limited yn Parque Industrial Alvear, 2126 Alvear, Provincia de Santa Fe, Yr Ariannin—
(a) a gyfansoddir o bren quebracho gwyn a byrolyswyd;
(b) a weithgynhyrchwyd gan ddefnyddio proses o byrolysis mewn odyn ar tua 450°C;
(c) sy’n ddarnau o siarcol heb eu marcio, rhwng 30 milimetr a 150 milimetr; ac
(d) nad yw eu cynnwys o sylffwr yn fwy na 2% o’r cyfanswm pwysau.
6 
Brics glo Black Diamond Gem, a weithgynhyrchir gan Coal Products Limited yn Immingham Briquetting Works, Immingham, North East Lincolnshire—
(a) a gyfansoddir o lwch glo caled (sef tuag 20 i 30% o’r cyfanswm pwysau), golosg petrolewm (sef tua 40 i 45% o’r cyfanswm pwysau), glo meddal (sef tua 12 i 22% o’r cyfanswm pwysau) a rhwymwr triagl ac asid ffosfforig (sef gweddill y pwysau);
(b) a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses sy’n cynnwys rholio-wasgu a thrin â gwres ar tua 300°C;
(c) sy’n frics glo ar siâp gobennydd wedi’u marcio â hicyn ar ffurf dwy linell gyfochrog sy’n rhedeg yn lledredol o amgylch y fricsen;
(d) sy’n pwyso 160 gram ar gyfartaledd; ac
(e) nad yw eu cynnwys o sylffwr yn fwy nag 1.5% o’r cyfanswm pwysau.
7 
Boncyffion tân Bord na Móna Firelogs, a weithgynhyrchir gan Bord na Móna Fuels Limited, Newbridge, County Kildare, Iwerddon—
(a) a gyfansoddir o gwyr hydrin (sef tua 55% o’r cyfanswm pwysau) a blawd llif pren caled (sef gweddill y pwysau);
(b) a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses o drin â gwres ac allwthio;
(c) sydd tua 255 milimetr o hyd gyda diamedr o 75 milimetr a rhigolau ar hyd un wyneb hydredol:
(d) sy’n pwyso 1.3 cilogram (net) ar gyfartaledd; ac
(e) nad yw eu cynnwys o sylffwr yn fwy na 0.1% o’r cyfanswm pwysau.
8 
Brics glo Bord na Móna Firepak (sy’n cael eu marchnata hefyd fel brics glo Arigna Special), a weithgynhyrchir gan Bord na Móna Fuels Limited, Newbridge, County Kildare, Iwerddon—
(a) a gyfansoddir o lo caled (sef tua 50% o’r cyfanswm pwysau), golosg petrolewm (sef tua 20 i 40% o’r cyfanswm pwysau), glo meddal (sef tua 10 i 30% o’r cyfanswm pwysau) a rhwymwr seiliedig ar starts (sef gweddill y pwysau);
(b) a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses sy’n cynnwys rholio-wasgu a thrin â gwres;
(c) sy’n frics glo heb eu marcio, ar siâp gobennydd;
(d) sy’n pwyso 50 gram ar gyfartaledd; ac
(e) nad yw eu cynnwys o sylffwr yn fwy nag 1.5% o’r cyfanswm pwysau.
9 
Brics glo Brazier, a weithgynhyrchir gan Coal Products Limited yn Immingham Briquetting Works, Immingham, North East Lincolnshire—
(a) a gyfansoddir o lo caled (sef tua 60 i 80% o’r cyfanswm pwysau), golosg petrolewm (sef tua 10 i 30% o’r cyfanswm pwysau), a rhwymwr triagl ac asid ffosfforig (sef gweddill y pwysau);
(b) a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses sy’n cynnwys rholio-wasgu a thrin â gwres ar tua 300°C;
(c) sydd naill ai’n frics siâp gobennydd heb eu marcio neu’n frics siâp gobennydd wedi eu marcio â hicyn ar ffurf llinell hydredol sengl ar bob wyneb, 10 milimetr i ffwrdd o’r llinell gyfatebol gyferbyn;
(d) sydd â phwysau cyfartalog pob bricsen yn naill ai’n 50 neu’n 80 gram; ac
(e) nad yw eu cynnwys o sylffwr yn fwy nag 2% o’r cyfanswm pwysau mewn cyflwr sych.
10 
Brics glo Briteflame, a weithgynhyrchir gan Maxibrite Limited ar Ystad Ddiwydiannol Mwyndy, Llantrisant, Rhondda Cynon Taf—
(a) a gyfansoddir o lo meddal (sef tua 10 i 15% o’r cyfanswm pwysau), golosg petrolewm (sef tua 10 i 15% o’r cyfanswm pwysau), llwch glo caled (sef tua 70 i 80% o’r cyfanswm pwysau) a rhwymwr starts (sef gweddill y pwysau);
(b) a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses sy’n cynnwys rholio-wasgu a thrin â gwres ar tua 260°C;
(c) sy’n frics glo heb eu marcio ar siâp gobennydd,
(d) sy’n pwyso 140 gram ar gyfartaledd; ac
(e) nad yw eu cynnwys o sylffwr yn fwy nag 1.9% o’r cyfanswm pwysau mewn cyflwr sych.
11 
Brics glo Briteheat, a weithgynhyrchir gan Coal Products Limited yn Immingham Briquetting Works, Immingham, North East Lincolnshire—
(a) a gyfansoddir o lo caled (sef tua 60 i 85% o’r cyfanswm pwysau), golosg petrolewm (hyd at tua 30% o’r cyfanswm pwysau), glo meddal (hyd at tua 15% o’r cyfanswm pwysau), a rhwymwr triagl ac asid ffosfforig (sef gweddill y pwysau);
(b) a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses sy’n cynnwys rholio-wasgu a thrin â gwres ar tua 300°C;
(c) sy’n frics glo ar siâp clustog gyda hicyn ar ffurf llinell yn rhedeg yn hydredol o gwmpas y fricsen;
(d) sy’n pwyso 30 gram ar gyfartaledd; ac
(e) nad yw eu cynnwys o sylffwr yn fwy na 2% o’r cyfanswm pwysau.
12 
Brics glo Briteheat Plus, a weithgynhyrchir gan Coal Products Limited yn Immingham Briquetting Works, Immingham, North East Lincolnshire—
(a) a gyfansoddir o lwch glo caled (sef tua 75 i 95% o’r cyfanswm pwysau), golosg petrolewm (hyd at tua 20% o’r cyfanswm pwysau) a rhwymwr organig (sef gweddill y pwysau);
(b) a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses sy’n cynnwys rholio-wasgu;
(c) sy’n frics glo heb eu marcio ar siâp gobennydd;
(d) sy’n pwyso 80 gram ar gyfartaledd; ac
(e) nad yw eu cynnwys o sylffwr yn fwy na 2% o’r cyfanswm pwysau.
13 
Bryant and May Firelogs, a weithgynhyrchir gan Swedish Match yn Kostenetz, Bwlgaria—
(a) a gyfansoddir o gwyr paraffin (sef tua 50% o’r cyfanswm pwysau), pren poplys mâl (sef tua 25% o’r cyfanswm pwysau), blawd gwenith (sef tua 15% o’r cyfanswm pwysau), solidau cyneuadwy ar wasgar mewn cwyr paraffin ar ffurf jel (sef tua 1 % o’r cyfanswm pwysau) a dŵr, cyfryngau chwyddo a chadwolyn (sef gweddill y pwysau);
(b) a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses sy’n cynnwys allwthio;
(c) sydd â’u trawstoriad yn gwadrant gyda radiws o tuag 80 milimetr a’u hyd tua 265 milimetr gyda stribyn cynnau ar hyd un ymyl;
(d) sy’n pwyso tuag 1.15 cilogram; ac
(e) nad yw eu cynnwys o sylffwr yn fwy na 0.1% o’r cyfanswm pwysau.
14 
Brics glo Charglow, a weithgynhyrchir gan Polchar Spolka z organiczona odpowiedzialnoscia, Police, Zachodniopomorskie, Gwlad Pwyl—
(a) a gyfansoddir o gols glo meddal (sef tua 45 i 95% o’r cyfanswm pwysau), glo caled (sef tua 0 i 20% o’r cyfanswm pwysau), golosg petrolewm (sef tua 0 i 20% o’r cyfanswm pwysau), glo meddal (sef tua 0 i 10% o’r cyfanswm pwysau) a rhwymwr organig (sef gweddill y pwysau);
(b) a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses sy’n cynnwys rholio-wasgu a thrin â gwres r tuag 110°C;
(c) sy’n frics glo heb eu marcio ar siâp gobennydd;
(d) sy’n pwyso 100 gram ar gyfartaledd; ac
(e) nad yw eu cynnwys o sylffwr yn fwy nag 1.5% o’r cyfanswm pwysau.
15 
Coalite, a weithgynhyrchir gan Coalite Products Limited yn Bolsover, ger Chesterfield, Derbyshire ac yn Grimethorpe, South Yorkshire drwy ddefnyddio proses o garboneiddio ar dymheredd isel.
16 
Brics glo Coalite Ovals, a weithgynhyrchir gan Maxibrite Limited yn Ystad Ddiwydiannol Mwyndy, Llantrisant, Rhondda Cynon Taf—
(a) a gyfansoddir o lo meddal (sef tua 10 i 15% o’r cyfanswm pwysau), golosg petrolewm (sef tua 10 i 15% o’r cyfanswm pwysau), llwch glo caled (sef tua 70 i 80% o’r cyfanswm pwysau) a rhwymwr starts (sef gweddill y pwysau);
(b) a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses sy’n cynnwys rholio-wasgu a thrin â gwres ar tua 260ºC;
(c) sy’n frics glo heb eu marcio ar siâp gobennydd a thuag 84.2 milimetr o hyd x 61.5 milimetr x 37.8 milimetr;
(d) sy’n pwyso 118 gram ar gyfartaledd; ac
(e) nad yw eu cynnwys o sylffwr yn fwy nag 1.9% o’r cyfanswm pwysau mewn cyflwr sych.
17 
Golosg a weithgynhyrchir gan—
(a) Coal Products Limited yn Cwm Coking Works, Llanilltud Faerdref, Pontypridd, Rhondda Cynon Taf, ac a werthir fel “Sunbrite”;
(b) Monckton Coke & Chemical Company Limited yn Royston, ger Barnsley, South Yorkshire ac a werthir fel “Sunbrite” neu “Monckton Boiler Beans”;
(c) Corus UK Limited yn Teesside Works, Redcar & Cleveland ac a werthir fel “Redcar Coke Nuts (Doubles)”; ac
(d) Coal Products Limited yn Cwm Coking Works, Llanilltud Faerdref, Pontypridd, Rhondda Cynon Taf ac a werthir “Cwm Coke Doubles”.
18 
Cosycoke (a farchnetir hefyd fel Lionheart Crusader neu Sunbrite Plus), a weithgynhyrchir gan Monckton Coke & Chemical Company Limited yn Royston, ger Barnsley, South Yorkshire ac Aimcor Supercoke (sydd hefyd yn cael ei farchnata fel Supercoke), a weithgynhyrchir gan M & G Fuels Limited yn Hartlepool Docks, Hartlepool, ac ym mhob achos—
(a) a gyfansoddir o olosg caled o faint penodol (sef tua 45 i 65% o’r cyfanswm pwysau) a golosg petrolewm o faint penodol (sef gweddill y pwysau);
(b) a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy eu blendio;
(c) sy’n hapsiapiau heb eu marcio; ac
(d) nad yw eu cynnwys o sylffwr yn fwy na 2% o’r cyfanswm pwysau.
19 
Y siarcol Direct Charcoal Blue Bag Premium Grade Restaurant Charcoal, a weithgynhyrchir gan Direct Charcoal yn Ekamanzi Road, Dalton, KwaZulu Natal, Gweriniaeth De Affrica—
(a) a gyfansoddir o bren Acacia mercii a byrolyswyd;
(b) a weithgynhyrchwyd gan ddefnyddio proses o byrolysis mewn odyn ar tua 420 i 480°C;
(c) sy’n ddarnau o siarcol heb eu marcio, rhwng 30 milimetr a 150 milimetr; a
(d) nad yw eu cynnwys o sylffwr yn fwy na 2% o’r cyfanswm pwysau.
20 
Y siarcol Direct Charcoal Blue Bag Restaurant Charcoal, a weithgynhyrchir gan Direct Charcoal Limited yn Ruta 25, km. 9,5 –Pilar (cp.1629) Buenos Aires, Yr Ariannyn—
(a) a gyfansoddir o bren Quebracho gwyn a phren Guayacan wedi eu pyrolysu;
(b) a weithgynhyrchwyd gan ddefnyddio proses o byrolysis mewn odyn ar tua 420 i 480°C;
(c) sy’n ddarnau o siarcol heb eu marcio, rhwng 30 milimetr a 150 milimetr; a
(d) nad yw eu cynnwys o sylffwr yn fwy na 2% o’r cyfanswm pwysau.
21 
Brics glo Dragonbrite, a weithgynhyrchir gan Tower Colliery Limited yn Aberdâr, Rhondda Cynon Taf—
(a) a gyfansoddir o lwch y tŵr (sef tua 95% o gyfanswm y pwysau) a rhwymwr seiliedig ar resin (sef gweddill y pwysau);
(b) a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses sy’n cynnwys rholio-wasgu a chaledu oer;
(c) sy’n frics glo ar siâp gobennydd, wedi eu marcio â’r llythyren “T” ar un ochr;
(d) sy’n pwyso 50 gram ar gyfartaledd; ac
(e) nad yw eu cynnwys o sylffwr yn fwy nag 1% o’r cyfanswm pwysau.
22 
Brics glo Dragonglow, a weithgynhyrchir gan Tower Colliery Limited yn Aberdâr, Rhondda Cynon Taf—
(a) a gyfansoddir o lwch y twr (sef tua 95% o gyfanswm y pwysau) a rhwymwr seiliedig ar resin (sef gweddill y pwysau);
(b) a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses sy’n cynnwys rholio-wasgu a chaledu oer;
(c) sy’n frics glo heb eu marcio ar siâp gobennydd;
(d) sy’n pwyso 100 gram ar gyfartaledd; ac
(e) nad yw eu cynnwys o sylffwr yn fwy nag 1% o’r cyfanswm pwysau.
23 
Boncyffion tân Duraflame Firelogs, a weithgynhyrchir gan Paramelt BV, Costerstraat 18, PO Box 86, 1700 AB Heerhugowaard, Yr Iseldiroedd—
(a) a gyfansoddir o gwyr petrolewm mwynol (sef tua 55% o’r cyfanswm pwysau) a ffibr pren caled mâl (sef gweddill y pwysau);
(b) a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses o drin â gwres ac allwthio;
(c) sydd tua 320 milimetr o hyd, 90 milimetr o uchder ac 85 milimetr o led;
(d) sy’n pwyso 1.45 cilogram ar gyfartaledd; ac
(e) nad yw eu cynnwys o sylffwr yn fwy na 0.1% o’r cyfanswm pwysau.
24 
Brics glo Ecoal, a weithgynhyrchir gan Coal Products Limited yn Immingham Briquetting Works, Immingham, North East Lincolnshire—
(a) a gyfansoddir o ronynnau glo caled (sef tua 40 i 65% o’r cyfanswm pwysau), golosg petrolewm (sef tua 20 i 40% o’r cyfanswm pwysau), cols (sef tua 0 i 10% o’r cyfanswm pwysau), glo meddal (sef tua 0 i 20% o’r cyfanswm pwysau), biomas (sef tua 5 i 20% o’r cyfanswm pwysau) a rhwymwr o driagl ac asid ffosfforig (sef gweddill y pwysau);
(b) a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses sy’n cynnwys rholio-wasgu;
(c) sy’n frics glo chweonglog heb eu marcio;
(d) sy’n pwyso 125 gram ar gyfartaledd; ac
(e) nad yw eu cynnwys o sylffwr yn fwy na 2% o’r cyfanswm pwysau.
25 
Brics glo Ecoal 50, a weithgynhyrchir gan Coal Products Limited yn Immingham Briquetting Works, Immingham, North East Lincolnshire—
(a) a gyfansoddir o ronynnau glo caled (sef tua 30 i 55% o’r cyfanswm pwysau), biomas (sef tua 25 i 35% o’r cyfanswm pwysau), golosg petrolewm (sef tua 10 i 40% o’r cyfanswm pwysau), glo meddal (sef tua 0 i 5% o’r cyfanswm pwysau) a rhwymwr organig naturiol (sef gweddill y pwysau);
(b) a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses sy’n cynnwys rholio-wasgu a’u trin wedyn â gwres ar tua 300ºC mewn amgylchedd rheoledig gydag ocsigen gostyngedig;
(c) sy’n frics glo chweonglog gyda un streipen sengl ar un ochr ar draws y wynebau gwastad;
(d) sy’n pwyso 135 gram ar gyfartaledd; ac
(e) nad yw eu cynnwys o sylffwr yn fwy na 2% o’r cyfanswm pwysau.
26 
Brics glo Ecobrite, a weithgynhyrchir gan Arigna Fuels Limited yn Arigna, Carrick-on-Shannon, County Roscommon, Iwerddon—
(a) a gyfansoddir o ronynnau glo caled (sef tua 96% o’r cyfanswm pwysau) a starts yn rhwymwr (sef gweddill y pwysau);
(b) a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses sy’n cynnwys rholio-wasgu a thrin â gwres ar tua 250°C;
(c) sy’n frics glo heb eu marcio ar siâp gobennydd mewn dau faint;
(d) sydd, ar gyfartaledd, yn pwyso 37 gram yn achos y maint lleiaf a 48 gram yn achos y maint mwyaf; ac
(e) nad yw eu cynnwys o sylffwr yn fwy nag 1.5% o’r cyfanswm pwysau.
27 
Brics glo EDF Fuel, a weithgynhyrchir gan The Green Factory yn y Laboratoire de Chimie Agro-industrielle UMR 1010 INRA/INP-ENSIACET AGROMAT, Site de l’ENIT 47, Avenue D’Azereiz, -BP 1629 65016 Tarbes Cedex, Ffrainc—
(a) a gyfansoddir o tua 100 gram o Miscanthus heb ei brosesu (sef tua 45% o’r cyfanswm pwysau), tua 95 gram o ester Copra (sef tua 43% o’r cyfanswm pwysau), a thua 25 gram o rwymwr a gynhyrchwyd o Miscanthus (brosesedig gyda chalsiwm ocsid, sy’n ffurfio tua 0.5% o’r cyfanswm pwysau), sef gweddill y pwysau;
(b) a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses sy’n cynnwys prosesu Miscanthus, cymysgu, poethwasgu, a throchi mewn baddon ester;
(c) sy’n frics glo o siâp silindr heb eu marcio, 120 milimetr o uchder gyda diamedr o 60 milimetr, a thwll canolog ar siâp seren yn treiddio drwy hyd hiraf y fricsen;
(d) sy’n pwyso 220 gram ar gyfartaledd; ac
(e) nad yw eu cynnwys o sylffwr yn fwy na 2% o’r cyfanswm pwysau.
28 
Brics glo Excel+, a weithgynhyrchir gan Oxbow Coal BV yn Newfield Works, Bishop Auckland, County Durham—
(a) a gyfansoddir o olosg petrolewm (sef 65 i 70% o’r cyfanswm pwysau), glo caled (sef 25% o’r cyfanswm pwysau) a rhwymwr resin sy’n caledu wrth oeri, caledwr a sefydlogydd tymheredd isel (sef gweddill y pwysau);
(b) a gynhyrchir ar y tymheredd amgylchynol drwy broses sy’n cynnwys rholio-wasgu a chaledu oer;
(c) sy’n frics glo ar siâp gobennydd sgwâr, heb farciau;
(d) sy’n pwyso 100 gram ar gyfartaledd; ac
(e) nad yw eu cynnwys o sylffwr yn fwy na 1.9% o’r cyfanswm pwysau.
29 
Brics glo Extracite, a weithgynhyrchir gan Sophia-Jacoba Handelsgesellschaft GmbH yn Hückelhoven, Yr Almaen—
(a) a gyfansoddir o lwch glo caled (sef tua 95.5% o’r cyfanswm pwysau) a lleisw amoniwm lignosylffonad yn rhwymwr (sef gweddill y pwysau);
(b) a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses sy’n cynnwys rholio-wasgu a thrin â gwres ar tua 260°C;
(c) sy’n frics glo ag arlliw ariannaidd ar siâp clustog, wedi eu marcio â’r llythrennau “S” a “J”;
(d) sy’n pwyso 40 gram ar gyfartaledd; ac
(e) sydd â’u cynnwys o sylffwr tuag 1.2% o’r cyfanswm pwysau.
30 
Brics glo Fireglo, a weithgynhyrchir gan Les Combustibles de Normandie yn Caen, Ffrainc, a chan La Société Rouennaise de Défumage yn Rouen, Ffrainc—
(a) a gyfansoddir o lychau Cymreig wedi’u golchi (sef tua 92% o’r cyfanswm pwysau) a rhwymwr o byg glo (sef gweddill y pwysau);
(b) a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses sy’n cynnwys rholio-wasgu a thrin â gwres ar tua 330°C;
(c) sy’n ofoidau gyda thair llinell ar un ochr a’r ochr arall yn llyfn;
(d) sy’n pwyso 30 gram ar gyfartaledd; ac
(e) nad yw eu cynnwys o sylffwr yn fwy na 0.8% o’r cyfanswm pwysau.
31 
Y siarcol G N Grosvenor (Fuel Express) Restaurant Charcoal, a weithgynhyrchir gan Pabensa S.A. Aviadores del Chaco, Asuncion, Paraguay—
(a) a gyfansoddir o’r coedydd caled Prosopsis nigra, Cordia alliodora, Centrolobium, Prosopsis kuntzei, Caesalpinia, Goncalo alves a Tabebuia wedi eu pyrolysu;
(b) a weithgynhyrchwyd gan ddefnyddio proses o byrolysis mewn odyn ar tuag 800°C;
(c) sy’n ddarnau o siarcol rhwng 20 a 120 milimetr, heb eu marcio; ac
(d) nad yw eu cynnwys o sylffwr yn fwy na 2% o’r cyfanswm pwysau mewn cyflwr sych.
32 
Brics glo Homefire, a weithgynhyrchir gan Coal Products Limited yn Immingham Briquetting Works, Immingham, North East Lincolnshire—
(a) a gyfansoddir o ronynnau glo caled (sef tua 40 i 70% o’r cyfanswm pwysau), golosg petrolewm (sef tua 20 i 45% o’r cyfanswm pwysau), cols (sef tua 0 i 10% o’r cyfanswm pwysau), glo meddal (sef tua 5 i 30% o’r cyfanswm pwysau) a rhwymwr organig neu rwymwr triagl ac asid ffosfforig (sef gweddill y pwysau);
(b) a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses sy’n cynnwys rholio-wasgu;
(c) nad yw eu cynnwys o ddeunydd anweddol, fel brics glo gorffenedig, yn llai na 9% nac yn fwy na 15% o’r cyfanswm pwysau mewn cyflwr sych;
(d) sy’n frics glo chweonglog heb eu marcio;
(e) sy’n pwyso 140 gram ar gyfartaledd; ac
(f) nad yw eu cynnwys o sylffwr yn fwy na 2% o’r cyfanswm pwysau.
33 
Boncyffion tân Homefire Fire Logs, a weithgynhyrchir gan De Lange BV, Rustenbugerweg 3, 1646 WJ Ursem, Yr Iseldiroedd—
(a) a gyfansoddir o gwyr hydrin (sef tua 50% o’r cyfanswm pwysau) a blawd llif (sef tua 50% o’r cyfanswm pwysau);
(b) a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses o drin â gwres ac allwthio;
(c) sydd tua 280 milimetr o hyd x 75 milimetr x 75 milimetr, gydag un rhigol ar hyd pob un o’u pedwar wyneb sydd â’u hyd yn 280 milimetr;
(d) sy’n pwyso 1.1 cilogram ar gyfartaledd; ac
(e) nad yw eu cynnwys o sylffwr yn fwy na 0.2% o’r cyfanswm pwysau.
34 
Homefire Ovals, a weithgynhyrchir gan Coal Products Limited yn Immingham Briquetting Works, Immingham, North East Lincolnshire—
(a) a gyfansoddir o lwch glo caled (sef tua 57% o’r cyfanswm pwysau), golosg petrolewm (sef tua 17% o’r cyfanswm pwysau), glo meddal (sef tua 13% o’r cyfanswm pwysau) a rhwymwr triagl ac asid ffosfforig (sef gweddill y pwysau);
(b) a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses sy’n cynnwys rholio-wasgu a thrin â gwres ar tua 300°C;
(c) sy’n frics glo ar siâp gobennydd wedi’u marcio â hicyn ar ffurf dwy linell gyfochrog sy’n ymestyn yn lledredol o amgylch y fricsen;
(d) sy’n pwyso 135 gram ar gyfartaledd; ac
(e) nad yw eu cynnwys o sylffwr yn fwy na 2% o’r cyfanswm pwysau.
35 
Homefire Ovals (R), a weithgynhyrchir gan Coal Products Limited yn Immingham Briquetting Works, Immingham, North East Lincolnshire—
(a) a gyfansoddir o ronynnau glo caled (sef tua 50 i 75% o’r cyfanswm pwysau), golosg petrolewm (sef tua 20 i 45% o’r cyfanswm pwysau), glo meddal (sef tua 5 i 17% o’r cyfanswm pwysau) a rhwymwr organig (sef gweddill y pwysau);
(b) a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses sy’n cynnwys rholio-wasgu;
(c) sy’n frics glo ar siâp gobennydd wedi’u marcio â hicyn ar ffurf dwy linell gyfochrog sy’n ymestyn yn lledredol o amgylch y fricsen;
(d) sy’n pwyso 130 gram ar gyfartaledd; ac
(e) nad yw eu cynnwys o sylffwr yn fwy na 2% o’r cyfanswm pwysau.
36 
Hot Drops, a weithgynhyrchir gan EU Zeme Limited yn Riga, Eksporta Street 15, LV-1045, Latfia—
(a) a gyfansoddir o falurion glo caled (sef tua 73% o’r cyfanswm pwysau), glo meddal (sef tua 18% o’r cyfanswm pwysau) a rhwymwr triagl ac asid orthoffosfforig (sef gweddill y pwysau);
(b) a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses sy’n cynnwys rholio-wasgu, ac wedyn triniaeth â gwres ar tua 250 i 280ºC;
(c) sy’n frics glo, ar siâp gobennydd sydd bron yn grwn, gyda diamedr o 40 milimetr a thrwch o tua 21 milimetr yng nghanol y fricsen;
(d) sy’n pwyso 23 gram ar gyfartaledd; ac
(e) nad yw eu cynnwys o sylffwr yn fwy na 0.5% o’r cyfanswm pwysau.
37 
HouseFuel Smokeless Ovals, a weithgynhyrchir gan Maxibrite Limited yn Llantrisant, Rhondda Cynon Taf—
(a) a gyfansoddir o ronynnau glo caled (sef tuag 84% o’r cyfanswm pwysau), golosg petrolewm (sef tua 12% o’r cyfanswm pwysau) a starts fel rhwymwr (sef gweddill y pwysau);
(b) a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses sy’n cynnwys rholio-wasgu a thrin â gwres ar tua 260°C;
(c) sy’n frics glo ar siâp gobennydd heb farciau;
(d) sy’n pwyso 78 gram ar gyfartaledd; ac
(e) nad yw eu cynnwys o sylffwr yn fwy na 2% o’r cyfanswm pwysau.
38 
HouseFuel Smokeless Ovals, a weithgynhyrchir gan Maxibrite Limited yn Ystad Ddiwydiannol Mwyndy, Llantrisant, Canolbarth Morgannwg—
(a) a gyfansoddir o lo meddal a golosg petrolewm (y ddau hyd at 10 i 15% o’r cyfanswm pwysau) a llwch glo caled gyda rhwymwr o starts (sef gweddill pwysau);
(b) a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses sy’n cynnwys rholio-wasgu a thrin â gwres ar tua 260°C;
(c) sy’n frics glo ar siâp gobennydd heb farciau gyda’u dimensiynau mwyaf tua 68 milimetr, 63 milimetr a 38 milimetr;
(d) sy’n pwyso 110 gram ar gyfartaledd; ac
(e) nad yw eu cynnwys o sylffwr yn fwy nag 1.9% o’r cyfanswm pwysau mewn cyflwr sych.
39 
Island Lump ac Island Nuts, a weithgynhyrchir gan Unocal Refinery, California, Unol Daleithiau America—
(a) a gyfansoddir o olosg petrolewm;
(b) a weithgynhyrchwyd o’r golosg petrolewm drwy broses sy’n cynnwys trin â gwres a chwistrellu stêm;
(c) sy’n hapsiapiau heb eu marcio;
(d) sy’n pwyso 80 gram ar gyfartaledd (Island Lump) neu 30 gram ar gyfartaledd (Island Nuts); ac
(e) nad yw eu cynnwys o sylffwr yn fwy na 2% o’r cyfanswm pwysau.
40 
Brics glo Jewel, a weithgynhyrchir gan Eldon Colliery Limited yn Newfield Works, Bishop Auckland, County Durham—
(a) a gyfansoddir o lo caled (sef tua 30 i 50% o’r cyfanswm pwysau), golosg petrolewm Long Beach (sef tua 50 i 70% o’r cyfanswm pwysau) a rhwymwr o garbohydrad (sef gweddill y pwysau);
(b) a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses sy’n cynnwys rholio-wasgu a thrin â gwres ar tua 150°C;
(c) sy’n frics glo heb eu marcio ar siâp gobennydd;
(d) sy’n pwyso 33 gram ar gyfartaledd; ac
(e) nad yw eu cynnwys o sylffwr yn fwy nag 1.5% o’r cyfanswm pwysau.
41 
Boncyffion La Hacienda Easy Logs, a weithgynhyrchir gan Allspan BV yn Macroweg 4, 5804 CL Venray, Yr Iseldiroedd—
(a) a gyfansoddir o gwyr hydrin (sef tua 58 i 59% o’r cyfanswm pwysau), a blawd llif pren caled (sef gweddill y pwysau);
(b) a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses o drin â gwres ac allwthio;
(c) sydd tua 235 milimetr o hyd a 80 milimetr o ddyfnder, gyda rhigolau ar hyd yr wynebau;
(d) sy’n pwyso 1.1 cilogram ar gyfartaledd; ac
(e) nad yw eu cynnwys o sylffwr yn fwy na 0.1% o’r cyfanswm pwysau.
42 
Long Beach Lump nuts (a elwir hefyd yn LBL nuts), a weithgynhyrchir gan Aimcor Carbon Corporation yn Long Beach, California, Unol Daleithiau America neu a weithgynhyrchir gan Oxbow Carbon & Minerals LLC, 330 Golden Shore, Suite 210, Long Beach, California 90802, Unol Daleithiau America—
(a) a gyfansoddir o olosg petrolewm (sef tua 85 i 100% o’r cyfanswm pwysau), calchfaen (sef tua 0 i 10% o’r cyfanswm pwysau) a phyg tar glo (sef gweddill y pwysau);
(b) a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses sy’n cynnwys trin â gwres a chwistrellu stêm;
(c) sy’n hapsiapiau heb eu marcio; ac
(d) nad yw eu cynnwys o sylffwr yn fwy na 2% o’r cyfanswm pwysau.
43 
Brics glo Maxibrite, a weithgynhyrchir gan Maxibrite Limited yn Llantrisant, Rhondda Cynon Taf—
(a) a gyfansoddir o ronynnau glo caled (sef tua 84% o’r cyfanswm pwysau), golosg petrolewm (sef tua 12% o’r cyfanswm pwysau) a starts yn rhwymwr (sef gweddill y pwysau);
(b) a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses sy’n cynnwys rholio-wasgu a thrin â gwres ar tua 250°C;
(c) sy’n frics ar siâp clustog wedi’u marcio â’r llythyren “M”;
(d) sy’n pwyso 35 gram ar gyfartaledd; ac
(e) nad yw eu cynnwys o sylffwr yn fwy na 2% o’r cyfanswm pwysau.
44 
Brics glo Multiheat, a weithgynhyrchir gan Coal Products Limited yn Immingham Briquetting Works, Immingham, North East Lincolnshire—
(a) a gyfansoddir o lo caled (sef tua 60 i 80% o’r cyfanswm pwysau), golosg petrolewm (sef tua 10 i 30% o’r cyfanswm pwysau) a rhwymwr triagl ac asid ffosfforig (sef gweddill y pwysau);
(b) a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses sy’n cynnwys rholio-wasgu a thrin â gwres ar tua 300°C;
(c) sy’n frics glo heb eu marcio ar siâp gobennydd;
(d) sy’n pwyso naill ai 55 neu 80 gram y fricsen ar gyfartaledd; ac
(e) nad yw eu cynnwys o sylffwr yn fwy na 2% o’r cyfanswm pwysau.
45 
Brics glo Newburn, a weithgynhyrchir gan ECL Mineral Processing Limited yn Newfield Works, Newfield, Bishop Auckland, County Durham—
(a) a gyfansoddir o olosg petrolewm (sef tua 56 i 57% o’r cyfanswm pwysau), glo caled (sef tua 37 i 38% o’r cyfanswm pwysau) a rhwymwr powdr sych (sef gweddill y pwysau);
(b) a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses o galedu oer gan ddefnyddio gwasg rholer;
(c) sy’n frics glo heb eu marcio ar siâp gobennydd ac yn mesur 70 milimetr x 62 milimetr x 42 milimetr;
(d) sy’n pwyso 110 gram ar gyfartaledd; ac
(e) nad yw eu cynnwys o sylffwr yn fwy na 2% o’r cyfanswm pwysau.
46 
Brics glo Newburn, a weithgynhyrchir gan M&G Solid Fuels LLP, Wilton International, Wilton, Middlesbrough, TS90 8WS—
(a) a gyfansoddir o olosg petrolewm (sef tua 56 i 57% o’r cyfanswm pwysau), glo caled (sef tua 37 to 38% o’r cyfanswm pwysau), a rhwymwr powdr sych (sef gweddill y pwysau);
(b) a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses o galedu oer gan ddefnyddio gwasg rholer;
(c) sy’n frics glo heb eu marcio ar siâp gobennydd ac yn mesur 70 milimetr x 62 milimetr x 42 milimetr;
(d) sy’n pwyso 110 gram ar gyfartaledd; ac
(e) nad yw eu cynnwys o sylffwr yn fwy na 2% o’r cyfanswm pwysau.
47 
Brics glo Newflame, a weithgynhyrchir gan Maxibrite Limited yn Llantrisant, Rhondda Cynon Taf—
(a) a gyfansoddir o ronynnau glo caled (sef tua 84% o’r cyfanswm pwysau), golosg petrolewm (sef tua 12% o’r cyfanswm pwysau) a starts yn rhwymwr (sef gweddill y pwysau);
(b) a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses sy’n cynnwys rholio-wasgu a thrin â gwres ar tua 260°C;
(c) sy’n frics glo ar siâp gobennydd heb eu marcio;
(d) sy’n pwyso 78 gram ar gyfartaledd; ac
(e) nad yw eu cynnwys o sylffwr yn fwy na 2% o’r cyfanswm pwysau.
48 
Brics glo Newflame Plus, a weithgynhyrchir gan Maxibrite Limited, Ystad Ddiwydiannol Mwyndy, Llantrisant, Rhondda Cynon Taf—
(a) a gyfansoddir o lo meddal (sef tua 10 i 15% o’r cyfanswm pwysau), golosg petrolewm (sef tua 10 i 15% o’r cyfanswm pwysau), llwch glo caled (sef tua 70 i 80% o’r cyfanswm pwysau) a rhwymwr starts (sef gweddill y pwysau);
(b) a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses sy’n cynnwys rholio-wasgu a thriniaeth â gwres ar tua 260°C;
(c) sy’n frics glo ar siâp gobennydd heb eu marcio, gyda’u dimensiynau mwyaf tua 68 milimetr x 63 milimetr x 38 milimetr;
(d) sy’n pwyso 110 gram ar gyfartaledd; ac
(e) nad yw eu cynnwys o sylffwr yn fwy na 1.9% o’r cyfanswm pwysau pan fyddant yn sych.
49 
Brics glo Newheat, a weithgynhyrchir gan Oxbow Coal BV yn Newfield Works, Bishop Auckland, County Durham—
(a) a gyfansoddir o olosg petrolewm (sef tua 60 i 65% o’r cyfanswm pwysau), glo caled (sef tua 30 i 35% o’r cyfanswm pwysau) a rhwymwr resin sy’n caledu wrth oeri, caledwr a sefydlogydd tymheredd isel (sef gweddill y pwysau);
(b) a gynhyrchwyd ar y tymheredd amgylchynol drwy broses sy’n cynnwys rholio-wasgu a chaledu oer;
(c) sy’n frics glo hirgrwn, ar siâp gobennydd heb eu marcio;
(d) sy’n pwyso tua 100 gram ar gyfartaledd; ac
(e) nad yw eu cynnwys o sylffwr yn fwy na 1.9% o’r cyfanswm pwysau.
50 
Boncyffion tân Optima Fire Logs, a weithgynhyrchir gan Allspan BV yn Macroweg 4, 5804 CL Venray, Yr Iseldiroedd—
(a) a gyfansoddir o gwyr hydrin (sef tua 58 i 59% o’r cyfanswm pwysau), a blawd llif pren caled (sef gweddill y pwysau);
(b) a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses trin â gwres ac allwthio;
(c) sydd tua 235 milimetr eu hyd a 80 milimetr o ddyfnder, gyda rhigolau ar hyd yr wynebau;
(d) sy’n pwyso 1.1 cilogram ar gyfartaledd; ac
(e) nad yw eu cynnwys o sylffwr yn fwy na 0.1% o’r cyfanswm pwysau.
51 
Y siarcol Pagan Fuel’s Restaurant Charcoal, a weithgynhyrchir gan Pabensa S.A. Aviadores del Chaco, Asuncion, Paraguay—
(a) a gyfansoddir o’r coedydd caled Prosopsis nigra, Cordia alliodora, Centrolobeum, Prosopsis kuntzei, Caesalpinia, Goncalo alves and Tabebuia a byrolyswyd;
(b) a weithgynhyrchwyd gan ddefnyddio proses o byrolysis mewn odyn ar tuag 800°C;
(c) sy’n ddarnau o siarcol rhwng 20 a 120 milimetr heb eu marcio; ac
(d) nad yw eu cynnwys o sylffwr yn fwy na 2% o’r cyfanswm pwysau mewn cyflwr sych.
52 
Brics glo Phurnacite, a weithgynhyrchir gan Coal Products Limited yn Immingham Briquetting Works, Immingham, North East Lincolnshire—
(a) a gyfansoddir o lwch glo caled (sef tua 65 i 85% o’r cyfanswm pwysau), golosg petrolewm (sef tua 20% o’r cyfanswm pwysau) a rhwymwr triagl ac asid ffosfforig (sef gweddill y pwysau);
(b) a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses sy’n cynnwys rholio-wasgu a thrin â gwres ar tua 300°C;
(c) sy’n frics glo ar siâp ofoidau â dwy linell gyfochrog yn rhedeg yn hydredol o amgylch y fricsen;
(d) sy’n pwyso 40 gram ar gyfartaledd; ac
(e) nad yw eu cynnwys o sylffwr yn fwy na 2% o’r cyfanswm pwysau.
53 
Boncyffion tân Pyrobloc Fire Logs, a weithgynhyrchir gan Allspan BV yn Macroweg 4, 5804 CL Venray, Yr Iseldiroedd—
(a) a gyfansoddir o gwyr hydrin (sef tua 58 i 59% o’r cyfanswm pwysau), a blawd llif pren caled (sef gweddill y pwysau);
(b) a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses o drin â gwres ac allwthio;
(c) sydd tua 265 milimetr o hyd ac 80 milimetr o ddyfnder, gyda rhigolau ar hyd yr wynebau;
(d) sy’n pwyso 1.3 cilogram ar gyfartaledd; ac
(e) nad yw eu cynnwys o sylffwr yn fwy na 0.1% o’r cyfanswm pwysau.
54 
Boncyffion tân Safelight Firelogs, a weithgynhyrchir gan Advanced Natural Fuels Limited, yn Pocklington, East Riding of Yorkshire—
(a) a gyfansoddir o sglodion pren (sef tua 40 i 55% o’r cyfanswm pwysau) a rhwymwr o gwyr palmwydd (sef gweddill y pwysau);
(b) a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses sy’n cynnwys gwasgu’r cynhwysion, ar ôl eu cymysgu, ar dymheredd o tua 40°C i 50°C;
(c) sy’n foncyffion tân petryal caled â dwy agen ddofn sy’n gorgyffwrdd ar yr wyneb uchaf, un agen ddi-dor ar yr wyneb isaf;
(d) sy’n pwyso 1.8 cilogram ar gyfartaledd; ac
(e) nad yw eu cynnwys o sylffwr yn fwy na 2% o’r cyfanswm pwysau.
55 
Brics glo Sovereign, a weithgynhyrchir gan Monckton Coke & Chemical Company Limited yn Royston, ger Barnsley, South Yorkshire—
(a) a gyfansoddir o lo caled (sef tua 75% o’r cyfanswm pwysau), glo a golosg adweithiol (sef tua 21% o’r cyfanswm pwysau) a rhwymwr resin sy’n caledu wrth oeri (sef gweddill y pwysau);
(b) a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses sy’n cynnwys allwthio;
(c) sy’n frics glo chweonglog heb eu marcio;
(d) sy’n pwyso 130 gram ar gyfartaledd; ac
(e) nad yw eu cynnwys o sylffwr yn fwy na 2% o’r cyfanswm pwysau.
56 
Brics glo Stoveheat Premium, a weithgynhyrchir gan Coal Products Limited yn Immingham Briquetting Works, Immingham, North East Lincolnshire—
(a) a gyfansoddir o lwch glo caled (sef tua 65 i 85% o gyfanswm eu pwysau), golosg petrolewm (sef tua 20% o’r cyfanswm pwysau) a rhwymwr triagl ac asid ffosfforig (sef gweddill y pwysau);
(b) a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses sy’n cynnwys rholio-wasgu a thrin â gwres ar tua 300°C;
(c) sy’n frics glo ar siâp clustogau, gyda hicyn ar ffurf llinell sy’n ymestyn o amgylch y fricsen;
(d) sy’n pwyso 30 gram ar gyfartaledd; ac
(e) nad yw eu cynnwys o sylffwr yn fwy na 2% o’r cyfanswm pwysau.
57 
Supabrite Coke Doubles, a weithgynhyrchir gan H. J. Banks and Company Limited yn Inkerman Road Depot, Tow Law, County Durham—
(a) a gyfansoddir o olosg metelegol (sef tua 40 i 60% o’r cyfanswm pwysau) a golosg petrolewm (sef gweddill y pwysau);
(b) a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses sy’n cynnwys eu blendio a’u sgrinio;
(c) sy’n hapsiapiau heb eu marcio; ac
(d) nad yw eu cynnwys o sylffwr yn fwy nag 1.95% o’r cyfanswm pwysau.
58 
Brics glo Supacite, a weithgynhyrchir gan Maxibrite Limited yn Llantrisant, Rhondda Cynon Taf—
(a) a gyfansoddir o ronynnau glo caled (sef tuag 84% o’r cyfanswm pwysau), golosg petrolewm (sef tua 12% o’r cyfanswm pwysau) a starts yn rhwymwr (sef gweddill y pwysau);
(b) a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses sy’n cynnwys rholio-wasgu a thrin â gwres ar tua 240°C;
(c) sy’n ofoidau heb eu marcio;
(d) sy’n pwyso 45 gram ar gyfartaledd; ac
(e) nad yw eu cynnwys o sylffwr yn fwy na 2% o’r cyfanswm pwysau.
59 
Brics glo Supertherm, a weithgynhyrchir gan Coal Products Limited yn Immingham Briquetting Works, Immingham, North East Lincolnshire—
(a) a gyfansoddir o gymysgedd (mewn cyfrannedd o 19:1) o lo caled a glo canolig ei anweddolrwydd (sef tua 93% o’r cyfanswm pwysau) a rhwymwr organig sy’n caledu wrth oeri neu rwymwr triagl ac asid ffosfforig (sef gweddill y pwysau);
(b) a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses sy’n cynnwys rholio-wasgu;
(c) sy’n ofoidau heb eu marcio;
(d) sy’n pwyso 160 gram ar gyfartaledd; ac
(e) nad yw eu cynnwys o sylffwr yn fwy nag 1.5% o’r cyfanswm pwysau.
60 
Brics glo Supertherm II, a weithgynhyrchir gan Coal Products Limited yn Immingham Briquetting Works, Immingham, North East Lincolnshire—
(a) a gyfansoddir o lo caled (sef tua 36 i 51% o’r cyfanswm pwysau), golosg petrolewm (sef tua 40 i 55% o’r cyfanswm pwysau) a rhwymwr organig neu rwymwr triagl ac asid ffosfforig (sef gweddill y pwysau);
(b) a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses sy’n cynnwys rholio-wasgu;
(c) sy’n ofoidau wedi eu marcio ag un llinell ledredol ar draws un wyneb i bob bricsen;
(d) sy’n pwyso 140 gram ar gyfartaledd; ac
(e) nad yw eu cynnwys o sylffwr yn fwy na 2% o’r cyfanswm pwysau mewn cyflwr sych.
61 
Brics glo Taybrite (a elwir fel arall yn frics glo Surefire), a weithgynhyrchir gan Coal Products Limited yn Immingham Briquetting Works, Immingham, North East Lincolnshire—
(a) a gyfansoddir o lo caled (sef tua 60 i 80% o’r cyfanswm pwysau), golosg petrolewm (sef tua 10 i 30% o’r cyfanswm pwysau) a rhwymwr triagl ac asid ffosfforig (sef gweddill y pwysau);
(b) a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses sy’n cynnwys rholio-wasgu a thrin â gwres ar tua 300°C;
(c) sy’n frics glo ar siâp gobennydd sydd naill ai wedi’u marcio â hicyn ar ffurf un llinell hydredol ar bob wyneb, 10 milimetr i ffwrdd o’r llinell gyfatebol gyferbyn, neu sydd heb eu marcio;
(d) sydd, yn y naill achos a’r llall, yn pwyso 80 gram ar gyfartaledd; ac
(e) nad yw eu cynnwys o sylffwr yn fwy na 2% o’r cyfanswm pwysau.
62 
Brics glo Therma, a weithgynhyrchir gan Maxibrite Limited yn Llantrisant, Rhondda Cynon Taf—
(a) a gyfansoddir o ronynnau glo caled (sef tua 84% o’r cyfanswm pwysau), golosg petrolewm (sef tua 12% o’r cyfanswm pwysau) a rhwymwr starts (sef gweddill y pwysau);
(b) a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses o rolio-wasgu a thrin â gwres ar tua 250°C;
(c) sy’n frics glo hirgrwn/ar siâp deigryn gyda linell drwy’r canol;
(d) sy’n pwyso 26 gram ar gyfartaledd; ac
(e) nad yw eu cynnwys o sylffwr yn fwy na 2% o’r cyfanswm pwysau.
63 
Brics glo Thermac, a weithgynhyrchir gan Coal Products Limited yn Immingham Briquetting Works, Immingham, North East Lincolnshire—
(a) a gyfansoddir o lo caled (sef tua 90% o’r cyfanswm pwysau) a rhwymwr organig sy’n caledu wrth oeri (sef gweddill y pwysau);
(b) a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses sy’n cynnwys rholio-wasgu;
(c) sy’n frics glo heb eu marcio ar siâp gobennydd;
(d) sy’n pwyso 48 gram ar gyfartaledd; ac
(e) nad yw eu cynnwys o sylffwr yn fwy nag 1.5% o’r cyfanswm pwysau.
64 
Boncyffion tân Tiger Tim, a weithgynhyrchir gan De Lange BV, Rustenburgerweg 3, 1646 WJ Ursem, Yr Iseldiroedd—
(a) a gyfansoddir o gwyr hydrin (sef tua 50% o’r cyfanswm pwysau) a blawd llif (sef gweddill y pwysau);
(b) a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses trin â gwres ac allwthio;
(c) sydd tua 280 milimetr o hyd x 75 milimetr x 75 milimetr a chanddynt un rhigol yn rhedeg ar hyd pob un o’r pedwar wyneb sy’n 280 milimetr o hyd;
(d) sy’n pwyso 1.1 cilogram ar gyfartaledd; ac
(e) nad yw eu cynnwys o sylffwr yn fwy na 0.2% o’r cyfanswm pwysau.
65 
Unicite, a weithgynhyrchir gan DJ Davies Fuels Limited yn Blaenau Fuel Depot, Rhydaman, Sir Gaerfyrddin, neu a weithgynhyrchir gan AI Simson yn Cabby Latch, Logie ger Kirriemuir, Angus—
(a) sy’n gymysgedd o’r gwahanol danwyddau canlynol—
(i) nytiau mawr o lo caled, a
(ii) briciau tân Union o’r disgrifiad yn isbaragraff (d) a weithgynhyrchir gan RWE Power AG yn Cologne, Yr Almaen (sef dim mwy na thua 40 i 42% o’r cyfanswm pwysau Unicite);
(b) nad yw eu cynnwys o sylffwr yn fwy na 0.5% o’r cyfanswm pwysau;
(c) y datgenir nad yw’n danwydd awdurdodedig ac eithrio i’r graddau nad yw cyfran y briciau tân Union a losgir drwy ddefnyddio Unicite yn uwch na’r ystod ganrannau a bennir yn is-baragraff (a) (ii); ac
(d) i’r graddau y’i cyfansoddir o’r briciau tân Union y cyfeirir atynt yn is-baragraff (a) (ii), cyfansoddir ef o lignit cywasgedig, gyda phob bricsen dân yn mesur tua 75 milimetr o led, 60 milimetr o uchder a 55 milimetr o drwch.
66 
Boncyffion tân Zip 100% Natural Firelogs, a weithgynhyrchir gan Standard Brands (Trading) Ireland Limited yn Castlebellingham, County Louth, Iwerddon—
(a) a gyfansoddir o gwyrau triglyserid hydrogenaidd o darddiad naturiol (sef tua 53 i 57% o’r cyfanswm pwysau), ffibr helyg (sef tua 23 i 27% o’r cyfanswm pwysau) a rhwymwr naturiol seiliedig ar driagl (sef gweddill y pwysau);
(b) a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses o drin â gwres ac allwthio;
(c) sydd tua 210 milimetr o hyd, 80 milimetr o led a 75 milimetr o uchder;
(d) sy’n pwyso rhwng 1.085 ac 1.115 cilogram ar gyfartaledd; ac
(e) nad yw eu cynnwys o sylffwr yn fwy na 0.2% o’r cyfanswm pwysau.
67 
Boncyffion tân Zip 100% Natural Firelogs, a weithgynhyrchir gan Standard Brands (Trading) Ireland Limited yn Castlebellingham, County Louth, Iwerddon—
(a) a gyfansoddir o gwyrau triglyserid hydrogenaidd o darddiad naturiol (sef tua 53 i 57% o’r cyfanswm pwysau), ffibr helyg (sef tua 23 i 27% o’r cyfanswm pwysau) a rhwymwr naturiol seiliedig ar driagl (sef gweddill y pwysau);
(b) a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses trin â gwres ac allwthio;
(c) sydd tua 245 milimetr o hyd, 75 milimetr o led a 68 milimetr o uchder;
(d) sy’n pwyso rhwng 0.985 ac 1.015 cilogram y boncyff ar gyfartaledd; ac
(e) nad yw eu cynnwys o sylffwr yn fwy na 0.2% o’r cyfanswm pwysau.
68 
Boncyffion ZIP 100% Natural Stove Logs, a weithgynhyrchir gan Standard Brands (Trading) Ireland Limited yn Castlebellingham, County Louth, Iwerddon—
(a) a gyfansoddir o gwyrau triglyserid hydrogenaidd o darddiad naturiol (sef tua 53 i 57% o’r cyfanswm pwysau), ffibr helyg (sef tua 23 i 27% o’r cyfanswm pwysau) a rhwymwr naturiol seiliedig ar driagl (sef gweddill y pwysau);
(b) a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses o drin â gwres ac allwthio;
(c) sydd tua 165 milimetr o hyd, 80 milimetr o led a 75 milimetr o uchder;
(d) sy’n pwyso rhwng 0.835 a 0.865 cilogram ar gyfartaledd; ac
(e) nad yw eu cynnwys o sylffwr yn fwy na 0.2% o’r cyfanswm pwysau.
69 
Boncyffion tân ZIP Cracklelog, boncyffion tân ZIP Crackle-log a boncyffion tân ZIP Crackling Log, a weithgynhyrchir gan Allspan BV, Macroweg 4, 5804 CL Venray, Yr Iseldiroedd—
(a) a gyfansoddir o gwyr hydrin (sef tua 55% o’r cyfanswm pwysau), blawd llif pren caled (sef tua 42% o’r cyfanswm pwysau) a hadau clecian (sef tua 3.2% o’r cyfanswm pwysau);
(b) a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses o drin â gwres ac allwthio;
(c) sydd tua 235 milimetr o hyd gyda diamedr o 80 milimetr a rhigolau ar hyd yr wynebau;
(d) sy’n pwyso 1.1 cilogram ar gyfartaledd; ac
(e) nad yw eu cynnwys o sylffwr yn fwy na 0.1% o’r cyfanswm pwysau.
70 
Boncyffion tân ZIP Firelogs, a weithgynhyrchir gan Allspan BV, Macroweg 4, 5804 CL Venray, Yr Iseldiroedd—
(a) a gyfansoddir o gwyr hydrin (sef tua 58 i 59% o’r cyfanswm pwysau) a blawd llif pren caled (sef gweddill y pwysau);
(b) a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses o drin â gwres ac allwthio;
(c) sydd tua 265 milimetr o hyd ac 80 milimetr o ddyfnder, gyda rhigolau ar hyd yr wynebau;
(d) sy’n pwyso 1.3 cilogram ar gyfartaledd; ac
(e) nad yw eu cynnwys o sylffwr yn fwy na 0.1% o’r cyfanswm pwysau.
71 
Boncyffion tân ZIP Firelogs, a weithgynhyrchir gan Allspan BV, Macroweg 4, 5804 CL Venray, Yr Iseldiroedd—
(a) a gyfansoddir o gwyr hydrin (sef tua 58 i 59% o’r cyfanswm pwysau) a blawd llif pren caled (sef gweddill y pwysau);
(b) a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses o drin â gwres ac allwthio;
(c) sydd tua 235 milimetr o hyd a 80 milimetr o ddyfnder, gyda rhigolau ar hyd yr wynebau;
(d) sy’n pwyso 1.1 cilogram ar gyfartaledd; ac
(e) nad yw eu cynnwys o sylffwr yn fwy na 0.1% o’r cyfanswm pwysau.
72 
Boncyffion tân ZIP Firelogs, a weithgynhyrchir gan Woodflame Moerdijk BV, Apolloweg 4, Harbour No: M189A, 4782 SB Moerdijk, Yr Iseldiroedd—
(a) a gyfansoddir o gwyr hydrin (sef tua 55 i 60% o’r cyfanswm pwysau) a blawd llif pren caled (sef gweddill y pwysau);
(b) a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses o drin â gwres ac allwthio;
(c) sydd tua 255 milimetr o hyd gyda diamedr o 75 milimetr a rhigolau ar hyd un wyneb hydredol;
(d) sy’n pwyso 1.3 cilogram ar gyfartaledd; ac
(e) nad yw eu cynnwys o sylffwr yn fwy na 0.1% o’r cyfanswm pwysau.