
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gofal a Chymorth (Trefniadau Partneriaeth ar gyfer Asesiadau Poblogaeth) (Cymru) 2015.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 6 Ebrill 2016 ac maent yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “asesiad poblogaeth” (“population assessment”) yw’r asesiad y mae’n ofynnol ei gynnal o dan adran 14(1) o’r Ddeddf;
 “y cyrff partneriaeth” (“the partnership bodies”) yw’r cyrff hynny y mae rheoliad 2 yn ei gwneud yn ofynnol iddynt ymrwymo i drefniadau partneriaeth;
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014;
 ystyr “swyddogaethau penodedig” (“specified functions”) yw’r swyddogaethau a bennir yn rheoliad 3;
 ystyr “trefniant partneriaeth” (“partnership arrangement”) yw’r trefniant partneriaeth y mae’n ofynnol ei wneud gan reoliad 2.
2 
Rhaid i drefniant partneriaeth ar gyfer cyflawni’r swyddogaethau penodedig gael ei wneud gan y Byrddau Iechyd Lleol a restrir yng ngholofn gyntaf y tabl yn yr Atodlen a’r awdurdod lleol neu’r awdurdodau lleol cyfatebol a restrir yn ail golofn y tabl hwnnw.
3 
Y swyddogaethau sydd i’w cyflawni’n unol â’r trefniadau partneriaeth yw swyddogaethau’r cyrff partneriaeth a roddir iddynt gan neu o dan adran 14(1) o’r Ddeddf.
4 
Rhaid i’r cyrff partneriaeth sefydlu cydbwyllgor i ysgwyddo’r cyfrifoldeb dros reoli’r trefniant partneriaeth.
5 

(1) Rhaid i’r cyrff partneriaeth ar gyfer pob trefniant partneriaeth benodi un o’r cyrff i fod yn gorff cydgysylltu arweiniol.
(2) Mae’r corff cydgysylltu arweiniol i fod yn gyfrifol am gydgysylltu’r broses o gyflawni’r asesiadau poblogaeth ar gyfer yr ardaloedd awdurdod lleol y mae’r trefniant partneriaeth yn eu cwmpasu.
6 
Caiff y cyrff partneriaeth rannu gwybodaeth â’i gilydd at ddibenion cyflawni swyddogaethau yn unol â’r trefniant partneriaeth.
7 
Caiff y corff cydgysylltu arweiniol gyflawni’r swyddogaethau sydd wedi eu rhoi i bob un o’r awdurdodau lleol yn y trefniant partneriaeth gan reoliad 6(4) o Reoliadau Gofal a Chymorth (Asesiadau Poblogaeth) (Cymru) 2015.
Mark Drakeford
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
8 Gorffennaf 2015
ATODLEN
Rheoliad 2

Tabl
Bwrdd Iechyd Lleol Awdurdod Lleol
 
 
 
 
 
 
 