
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gorchmynion Amddiffyn a Chynorthwyo Oedolion (Swyddog Awdurdodedig) (Cymru) 2015.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 6 Ebrill 2016.
(3) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2 
Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “awdurdod awdurdodi” (“authorising authority”) yw’r awdurdod lleol sy’n awdurdodi’r swyddog awdurdodedig;
 ystyr “hyfforddiant priodol” (“appropriate training”) yw hyfforddiant a ddarperir neu a drefnir gan Weinidogion Cymru neu awdurdod awdurdodi a fydd yn galluogi person i ymgymryd â swyddogaethau swyddog awdurdodedig o dan adran 127 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014;
 ystyr “profiad perthnasol” (“relevant experience”) yw bod yr awdurdod penodi wedi ei fodloni bod gan y person y profiad sy’n ofynnol o weithio o fewn maes gofal cymdeithasol gydag oedolion sy’n wynebu risg, neu y gallent fod yn wynebu risg;
 ystyr “swyddog” (“officer”) yw swyddog a benodir o dan adran 112 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.
3 

(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3), ni chaiff awdurdod lleol awdurdodi neb ond person sydd wedi cwblhau hyfforddiant priodol ac sy’n swyddog i’r awdurdod awdurdodi i wneud cais am orchymyn amddiffyn a chynorthwyo oedolyn.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), mewn achos penodol pan na fo’n ymarferol i swyddog sy’n bodloni paragraff (1) weithredu, ni chaiff awdurdod lleol awdurdodi neb ond person a chanddo brofiad perthnasol, sydd wedi cwblhau hyfforddiant priodol ac sydd—
(a) yn swyddog i awdurdod lleol o fewn yr un ardal Bwrdd Diogelu â’r awdurdod awdurdodi, neu
(b) pan na fo’n ymarferol i swyddog a ddisgrifiwyd yn is-baragraff (a) weithredu, yn swyddog i unrhyw awdurdod lleol yng Nghymru.
(3) Mewn achos penodol pan na fo’n ymarferol i swyddog sy’n bodloni paragraff (1) neu (2) weithredu, ni chaiff awdurdod lleol awdurdodi neb ond person sy’n swyddog i’r awdurdod awdurdodi.
Mark Drakeford
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
1 Gorffennaf 2015