
1 
Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Merthyr Tydfil College Limited (Sefydliad Dynodedig mewn Addysg Bellach) 2015 a daw i rym ar 31 Gorffennaf 2015.
2 
Mae Merthyr Tydfil College Limited (a gorfforwyd ar 13 Awst 2008 fel cwmni cyfyngedig drwy warant ac a gofrestrwyd gyda’r rhif cwmni 06671721), sef sefydliad addysgol o’r math a ddisgrifir yn is-adrannau (1) a (2)(d) o adran 28 o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992, wedi ei ddynodi fel sefydliad at ddibenion yr adran honno.
Julie James
Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg, un o Weinidogion Cymru
1 Gorffennaf 2015