
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwastraff Peryglus (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2015.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 20 Gorffennaf 2015.
(3) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2 

(1) Mae Rheoliadau’r Cynllun Lwfansau Tirlenwi (Cymru) 2004 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2(1) (dehongli) yn y man priodol, mewnosoder—“
 ystyr “y Rhestr Wastraffoedd” (“the List of Wastes”) yw’r rhestr o wastraffoedd a sefydlir gan Benderfyniad y Comisiwn 2000/532/EC sy’n disodli Penderfyniad 94/3/EC sy’n sefydlu rhestr wastraffoedd yn unol ag Erthygl 1(a) o Gyfarwyddeb y Cyngor 75/442/EEC ar wastraff a Phenderfyniad y Cyngor 94/904/EC sy’n sefydlu rhestr o wastraffoedd peryglus yn unol ag Erthygl 1(4) o Gyfarwyddeb y Cyngor 91/689/EEC ar wastraff peryglus, fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd;”.
(3) Yn rheoliad 6(2)(b) (rhwymedigaeth ar awdurdodau gwaredu gwastraff i gadw cofnodion ac anfon dychweliadau), yn lle “Rheoliadau’r Rhestr Gwastraffoedd (Cymru) 2005” rhodder “y Rhestr Wastraffoedd”.
(4) Yn rheoliad 7(1)(b) (rhwymedigaeth ar weithredwyr safleoedd tirlenwi i gadw cofnodion ac anfon dychweliadau), yn lle “Rheoliadau’r Rhestr Gwastraffoedd (Cymru) 2005” rhodder “y Rhestr Wastraffoaedd”.
3 

(1) Mae Rheoliadau Gwastraff Peryglus (Cymru) 2005 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn lle rheoliad 2(1)(a) (y Gyfarwyddeb Wastraff ac ystyr gwastraff), rhodder—“
(a) ystyr “y Gyfarwyddeb Wastraff (“the Waste Directive”) yw Cyfarwyddeb 2008/98/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor ar wastraff fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EU) Rhif 1357/2014;” .
(3) Yn rheoliad 3(a) (Atodiad III i’r Gyfarwyddeb Wastraff), hepgorer “, fel y gosodir yr Atodiad hwnnw yn Atodlen 3”.
(4) Yn lle rheoliad 4(1) (y Rhestr Wastraffoedd), rhodder—“
(1) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y Rhestr Wastraffoedd” (“the List of Wastes”) yw’r rhestr o wastraffoedd a sefydlir gan Benderfyniad y Comisiwn 2000/532/EC sy’n disodli Penderfyniad 94/3/EC sy’n sefydlu rhestr wastraffoedd yn unol ag Erthygl 1(a) o Gyfarwyddeb y Cyngor 75/442/EEC ar wastraff a Phenderfyniad y Cyngor 94/904/EC sy’n sefydlu rhestr o wastraffoedd peryglus yn unol ag Erthygl 1(4) o Gyfarwyddeb y Cyngor 91/689/EEC ar wastraff peryglus, fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd.”.
(5) Yn rheoliad 6(b), yn lle “62A(1)” rhodder “62A(2)”.
(6) Yn rheoliad 8—
(a) ym mharagraff (1)(b), yn lle “62A(1)” rhodder “62A(2)”;
(b) ym mharagraff (2) (gwastraff penodol sydd i’w drin fel gwastraff peryglus), yn lle “Erthygl 3 o Benderfyniad y Rhestr Wastraffoedd” rhodder “Erthygl 7(2) o’r Gyfarwyddeb Wastraff”.
(7) Yn rheoliad 9—
(a) ym mharagraff (1)(b), yn lle “62A(1)” rhodder “62A(2)”;
(b) ym mharagraff (2), yn lle “Erthygl 3 o Benderfyniad y Rhestr Wastraffoedd” rhodder “Erthygl 7(3) o’r Gyfarwyddeb Wastraff”.
(8) Hepgorer Atodlen 3 (Atodiad III i’r Gyfarwyddeb Wastraff).
(9) Yn lle Atodlen 8 (ffurf ar ateb y traddodai i’r cynhyrchydd neu’r deiliad) rhodder y testun sydd yn yr Atodlen i’r Rheoliadau hyn.
4 

(1) Mae Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2010 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2(1) (dehongli: cyffredinol) yn y diffiniad o “WEEE”, yn lle “Article 3(b)” rhodder “Article 3(1)(e)”.
(3) Yn adran 3 (dehongli: Cyfarwyddebau)—
(a) yn lle’r diffiniad o “the Waste Framework Directive” rhodder—“
 “the Waste Framework Directive” means Directive 2008/98/EC of the European Parliament and of the Council on Waste;”;
(b) yn lle’r diffiniad o “the WEEE Directive” rhodder—“
 “the WEEE Directive” means Directive 2012/19/EU of the European Parliament and of the Council on waste electrical and electronic equipment (WEEE).”.
(4) Ym mharagraff 1 o bennod 1 o Ran 1 o Atodlen 3, (cyfleusterau esempt: disgrifiadau ac amodau)—
(a) yn is-baragraff (1), yn y man priodol, mewnosoder—“
 “List of Wastes” means the list of wastes established by Commission Decision 2000/532/EC replacing Decision 94/3/EC establishing a list of wastes pursuant to Article 1(a) of Council Directive 75/442/EEC on waste and Council Decision 94/904/EC establishing a list of hazardous waste pursuant to Article 1(4) of Council Directive 91/689/EEC on hazardous waste, as amended from time to time;”;
(b) yn lle is-baragraff (2) rhodder—“
(2) In this Part, a six digit code used to refer to a waste is a reference to the waste specified by the six digit code in the List of Wastes except insofar as the waste in this Part in relation to such a code does not include some of the types of waste specified by the code in the List”.
(5) Yn adran 2 o bennod 3 o ran 1 o Atodlen 3—
(a) ym mharagraff 1—
(i) yn is-baragraff (3)(e), yn lle “dangerous substance” rhodder “hazardous substance”;
(ii) yn lle is-baragraff (5), rhodder—“
(5) In this paragraph, “hazardous substance” means a substance classified as hazardous as a consequence of fulfilling the criteria laid down in parts 2 to 5 of Annex 1 to Regulation (EC) No 1272/2008 on classification, labelling and packaging of substances and mixtures.”;
(b) ym mharagraff 11 is-baragraff (3)(c) yn lle “Annex III” rhodder “Annex VIII”; ac
(c) yn y tabl ym mharagraff 15(2), yn ail golofn y rhes sy’n dechrau “160504*”, yn lle “dangerous substances”, rhodder “hazardous substances”.
(6) Yn adran 2 o bennod 5 o ran 1 o Atodlen 3, yn y tabl ym mharagraff 1(2), yn ail golofn y rhes sy’n dechrau “150202*”, yn lle “dangerous substances” rhodder “hazardous substances”.
(7) Yn Atodlen 12 (cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff)—
(a) ym mharagraff 2, is-baragraff (1), yn lle “Article 3(b)” rhodder “Article 3(1)(e)”;
(b) ym mharagraff 3—
(i) yn is-baragraff (1), yn lle “Article 6(1) first paragraph and Article 6(3) and (4)” rhodder “Articles 8(1) to (3) and 9(3)”;
(ii) yn lle is-baragraff (2) rhodder—“
(2) But when interpreting the WEEE Directive for the purposes of this paragraph, ignore the following words in Article 9(3)—
(a) “or the registration referred to in paragraphs 1 and 2”; and
(b) “and for the achievement of the recovery targets set out in Article 11”.”.
5 

(1) Mae Rheoliadau Gwastraff (Cymru a Lloegr) 2011 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 3(1) (dehongli), yn y man priodol, mewnosoder—“
 “the List of Wastes” means the list of wastes established by Commission Decision 2000/532/EC replacing Decision 94/3/EC establishing a list of wastes pursuant to Article 1(a) of Council Directive 75/442/EEC on waste and Council Decision 94/904/EC establishing a list of hazardous waste pursuant to Article 1(4) of Council Directive 91/689/EEC on hazardous waste, as amended from time to time;”.
(3) Yn rheoliad 35(2)(a) (gwybodaeth am wastraff), hepgorer “(England) Regulations 2005 or, as the case may be, the List of Wastes (Wales) Regulations 2005”.
(4) Yn lle paragraff 11(3)(b) o Atodlen 1 (rhaglenni atal gwastraff a chynlluniau rheoli gwastraff), rhodder—“
(b) naturally occurring material falling within the description relating to code 17 05 04 in the List of Wastes.”.
6 
Ym mharagraff 1 o Atodlen 1 i Reoliadau Gwastraff a Reolir (Cymru a Lloegr) 2012(gwastraff cartrefi, diwydiannol a masnachol), yn lle paragraff (c) o’r diffiniad o “offensive waste”, rhodder—“
(c) falls within the description relating to code 18 01 04, 18 02 03 or 20 01 99 in the list of wastes established by Commission Decision 2000/532/EC replacing Decision 94/3/EC establishing a list of wastes pursuant to Article 1(a) of Council Directive 75/442/EEC on waste and Council Decision 94/904/EC establishing a list of hazardous waste pursuant to Article 1(4) of Council Directive 91/689/EEC on hazardous waste, as amended from time to time;”.
7 
Mae’r darpariaethau a ganlyn wedi eu dirymu—
(a) Rheoliadau’r Rhestr Wastraffoedd (Cymru) 2005;
(b) rheoliad 4 (diwygio Rheoliadau’r Rhestr Wastraffoedd (Cymru) 2005) o Reoliadau Gwastraff (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2011.
Carl Sargeant
Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, un o Weinidogion Cymru
24 Mehefin 2015
SCHEDULE/ATODLEN
Regulation/Rheoliad 3(9)
“
SCHEDULE 8/ATODLEN 8
Regulation/Rheoliad 54
”