
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Difrod Amgylcheddol (Atal ac Adfer) (Diwygio) (Cymru) 2015.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 19 Gorffennaf 2015 ac maent yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Rheoliadau hyn, mae i “Cymru” yr ystyr a roddir i “Wales” o dan adran 158 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.
2 

(1) Mae Rheoliadau Difrod (Atal ac Adfer) (Cymru) 2009 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2(1) (dehongli), yn y man priodol yn nhrefn yr wyddor mewnosoder—“
 ystyr “dyfroedd morol” (“marine waters”) yw dyfroedd sy’n cael eu dosbarthu’n ddyfroedd morol yn unol â Chyfarwyddeb 2008/56/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n sefydlu fframwaith ar gyfer gweithredu Cymunedol ym maes polisi amgylcheddol morol;”;“
 ystyr “gwaelodlin” (“baseline”) yw’r gwaelodlinau y mesurir lled y môr tiriogaethol ohonynt at ddibenion Deddf Moroedd Tiriogaethol 1987;”.
(3) Yn rheoliad 4 (ystyr “difrod amgylcheddol”)—
(a) ym mharagraff (1)—
(i) yn is-baragraff (b) hepgorer yr ail “neu”;
(ii) hepgorer is-baragraff (c) a mewnosoder—“
(c) dyfroedd morol, neu
(d) tir,”; a
(b) hepgorer paragraff (5) a mewnosoder—“
(5) Ystyr difrod amgylcheddol i ddyfroedd morol yw difrod i ddyfroedd morol sy’n effeithio’n sylweddol andwyol ar eu statws amgylcheddol.
(6) Ystyr difrod amgylcheddol i dir yw halogi’r tir â sylweddau, paratoadau, organeddau neu ficro-organeddau sy’n arwain at risg sylweddol o effeithiau andwyol ar iechyd dynol.”.
(4) Yn rheoliad 6 (yr ardaloedd lle mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys)—
(a) ym mharagraff (1)—
(i) ar ôl y cofnod yn y tabl “Difrod i ddŵr” creer rhes newydd ac yn y golofn gyntaf (Y math o ddifrod) mewnosoder “Difrod i ddyfroedd morol”; a
(ii) yn y cofnod cyfatebol yn yr ail golofn (Yr ardal lle mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys) mewnosoder—“
 Yr holl ddyfroedd morol o fewn unrhyw un neu ragor o’r disgrifiadau a ganlyn—
(a) dyfroedd morol hyd at un filltir fôr tua’r môr o’r gwaelodlin yng Nghymru i’r graddau nad ydynt wedi cael sylw fel difrod i ddŵr eisoes;
(b) dyfroedd morol o un filltir fôr tua’r môr o’r gwaelodlin yng Nghymru, gan ymestyn i 12 milltir fôr o’r gwaelodlin yng Nghymru”; a
(b) hepgorer paragraff (2).
(5) Ar ôl rheoliad 8(1) (esemptiadau) mewnosoder—“
(1A) Mae paragraff (1) yn gymwys mewn perthynas â’r difrod i ddyfroedd morol fel petai “19 Gorffennaf 2015” wedi ei roi yn lle “i’r rheoliadau hyn ddod i rym” yn is-baragraff (a).”
(6) Yn rheoliad 10 (yr awdurdodau gorfodi o dan Reoliadau Caniatáu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2010) hepgorer paragraff (3)(b)(iii) a mewnosoder—“
(iii) Gweinidogion Cymru, os yw’r difrod i ddyfroedd morol; a
(iv) Corff Adnoddau Naturiol Cymru, os yw’r difrod i gynefinoedd naturiol neu rywogaethau a warchodir neu safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig.”
(7) Yn rheoliad 11(1) (Yr awdurdodau gorfodi mewn achosion eraill) ar ôl y cofnod yn y tabl “Difrod i ddŵr—” creer rhes newydd a mewnosoder—
(a) yng ngholofn gyntaf y tabl (Y math o ddifrod amgylcheddol) “Difrod i ddyfroedd morol—”;
(b) yn y cofnod cyfatebol yn yr ail golofn (Man y difrod) mewnosoder “Yr holl ddyfroedd morol hyd at 12 milltir fôr o’r gwaelodlin yng Nghymru”; ac
(c) yn y cofnod cyfatebol yn y drydedd golofn (Yr awdurdod gorfodi) mewnosoder “Gweinidogion Cymru”.
Carl Sargeant
Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, un o Weinidogion Cymru
17 Mehefin 2015