
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Rheoleiddio Tai Rhent Preifat (Gofynion Hyfforddi) (Cymru) 2015.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 3 Mehefin 2015.
2 
Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “awdurdod trwyddedu” (“licensing authority”) yw’r person neu’r personau a ddynodir drwy orchymyn o dan adran 3 o’r Ddeddf;
 ystyr “ceisydd am drwydded” (“applicant for a licence”) yw person sydd wedi gwneud cais am drwydded o dan adran 19 o’r Ddeddf;
 ystyr “cwrs hyfforddi cymeradwy” (“approved training course”) yw cwrs sydd wedi ei gymeradwyo gan yr awdurdod trwyddedu at ddibenion cyflwyno hyfforddiant perthnasol;
 ystyr “darparwr hyfforddiant awdurdodedig” (“authorised training provider”) yw person sydd wedi ei awdurdodi gan yr awdurdod trwyddedu i ddarparu hyfforddiant perthnasol;
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Tai (Cymru) 2014;
 ystyr “hyfforddiant perthnasol” (“relevant training”) yw hyfforddiant sy’n bodloni’r gofynion y cyfeirir atynt yn rheoliad 3(1)(a) i (c) a rheoliad 4;
 ystyr “person cysylltiedig” (“connected person”) yw person sy’n gwneud pethau o dan gontract gwasanaeth neu brentisiaeth gyda cheisydd am drwydded—
(a) os y landlord yw’r ceisydd am drwydded a bod y person yn gwneud unrhyw un neu ragor o’r pethau a restrir yn—
(i) adran 6(2) (gofyniad i landlordiaid fod yn drwyddedig i ymgymryd â gweithgareddau gosod) o’r Ddeddf; a
(ii) adran 7(2) (gofyniad i landlordiaid fod yn drwyddedig i ymgymryd â gweithgareddau rheoli eiddo) o’r Ddeddf; neu
(b) os yw’r ceisydd am drwydded yn gweithredu ar ran y landlord a bod y person yn gwneud unrhyw un neu ragor o’r pethau a restrir yn—
(i) is-adrannau (1)(a) a (b), (2)(a) a (b) a (3)(a) i (c) o adran 10 (ystyr gwaith gosod) o’r Ddeddf; a
(ii) adran 12(1) (ystyr gwaith rheoli eiddo) o’r Ddeddf.
3 

(1) Y gofynion mewn perthynas â hyfforddiant a bennir at ddibenion adran 19(2)(b) o’r Ddeddf yw—
(a) bod yr awdurdod trwyddedu wedi pennu’r gofynion mewn perthynas â hyfforddiant a nodir yn rheoliad 4;
(b) bod darparwr hyfforddiant awdurdodedig neu’r awdurdod trwyddedu yn ymgymryd â’r hyfforddiant;
(c) bod yr hyfforddiant yn cael ei gyflwyno drwy gwrs hyfforddi cymeradwy neu gwrs a gyflwynir gan yr awdurdod trwyddedu;
(d) bod rhaid i’r awdurdod trwyddedu fod wedi ei fodloni—
(i) bod y ceisydd am drwydded ac unrhyw berson cysylltiedig wedi cwblhau hyfforddiant perthnasol neu y bydd yn ei gwblhau, neu
(ii) os yw’r ceisydd am drwydded yn gorff corfforaethol neu’n landlord y mae adran 45 (landlordiaid sy’n ymddiriedolwyr) o’r Ddeddf yn gymwys iddo, bod unrhyw berson cysylltiedig wedi cwblhau hyfforddiant perthnasol neu y bydd yn ei gwblhau.
(2) At ddibenion y rheoliad hwn, rhaid i ddarparwr hyfforddiant awdurdodedig neu awdurdod trwyddedu ddarparu tystiolaeth bod yr hyfforddiant perthnasol wedi ei gwblhau drwy ddyroddi cadarnhad bod y ceisydd am drwydded neu unrhyw berson cysylltiedig wedi cwblhau’r cwrs neu’r cyrsiau yn llwyddiannus.
4 
Mae Gweinidogion Cymru yn awdurdodi’r awdurdod trwyddedu, yn unol ag adran 19(3)(a) o’r Ddeddf, i bennu gofynion mewn perthynas â hyfforddiant mewn cysylltiad ag—
(a) rhwymedigaethau statudol landlord a thenant;
(b) y berthynas gontractiol rhwng landlord a thenant;
(c) rôl asiant sy’n ymgymryd â gwaith gosod neu waith rheoli eiddo;
(d) yr arfer orau wrth osod a rheoli anheddau sy’n ddarostyngedig i denantiaeth ddomestig, neu sy’n cael eu marchnata neu eu cynnig ar gyfer eu gosod o dan denantiaeth o’r fath;
(e) rôl landlord sy’n ymgymryd â gweithgareddau gosod neu weithgareddau rheoli eiddo; ac
(f) unrhyw ofynion eraill mewn perthynas â hyfforddiant y mae’r awdurdod trwyddedu yn ystyried bod angen eu cynnwys mewn cwrs hyfforddi cymeradwy.
5 

(1) Rhaid i gais i’r awdurdod trwyddedu am awdurdodiad neu gymeradwyaeth (“cais”) gael ei wneud yn ysgrifenedig a chael gydag ef—
(a) y cyfryw wybodaeth y caiff yr awdurdod trwyddedu ei gwneud yn rhesymol ofynnol; a
(b) unrhyw ffi gymwys a godir gan yr awdurdod trwyddedu yn unol â rheoliad 9.
(2) Caiff yr awdurdod trwyddedu wrthod ystyried cais os yw’r person sy’n gwneud y cais (“y ceisydd”) yn methu â chydymffurfio â’r gofyniad ym mharagraff (1).
(3) Rhaid i’r awdurdod trwyddedu roi penderfyniad ysgrifenedig mewn perthynas â phob cais sy’n cydymffurfio â’r gofyniad ym mharagraff (1).
(4) Pan fo’r awdurdod trwyddedu yn cynnig naill ai roi awdurdodiad neu gymeradwyaeth yn ddarostyngedig i amod neu amodau neu wrthod cais, rhaid rhoi hysbysiad ysgrifenedig i’r ceisydd sy’n nodi—
(a) y rhesymau am y cynnig, a
(b) hawl y ceisydd i gyflwyno sylwadau o dan baragraff (5) ynghylch y cynnig.
(5) Pan fo’r awdurdod trwyddedu yn rhoi hysbysiad i’r ceisydd o dan baragraff (4)—
(a) caiff y ceisydd, yn ddim hwyrach na’r cyfnod o 14 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y rhoddir hysbysiad o dan baragraff (4), gyflwyno sylwadau ysgrifenedig i’r awdurdod trwyddedu ynghylch y cynnig, a
(b) os gwneir unrhyw sylwadau o’r fath o fewn y cyfnod y cyfeirir ato yn is-baragraff (a), rhaid i’r awdurdod trwyddedu ystyried y sylwadau hynny cyn penderfynu pa un ai i roi awdurdodiad neu gymeradwyaeth ai peidio yn ddarostyngedig i amod neu amodau neu i wrthod y cais.
6 

(1) Caiff yr awdurdod trwyddedu gynnig amrywio awdurdodiad neu gymeradwyaeth i atodi neu ddileu amod neu amodau.
(2) Pan fo’r awdurdod trwyddedu yn cynnig atodi amod neu amodau o dan baragraff (1), rhaid rhoi hysbysiad ysgrifenedig i’r person a ymgeisiodd yn wreiddiol am yr awdurdodiad neu’r gymeradwyaeth (“y ceisydd gwreiddiol”) sy’n nodi—
(a) y rhesymau am y cynnig,
(b) hawl y ceisydd gwreiddiol i gyflwyno sylwadau o dan baragraff (3) ynghylch y cynnig.
(3) Pan fo’r awdurdod trwyddedu yn rhoi hysbysiad i’r ceisydd gwreiddiol o dan baragraff (2)—
(a) caiff y ceisydd gwreiddiol, yn ddim hwyrach na’r cyfnod o 14 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y rhoddir hysbysiad o dan baragraff (2), gyflwyno sylwadau ysgrifenedig i’r awdurdod trwyddedu ynghylch y cynnig, a
(b) os gwneir unrhyw sylwadau o’r fath o fewn y cyfnod y cyfeirir ato yn is-baragraff (a), rhaid i’r awdurdod trwyddedu ystyried y sylwadau hynny cyn penderfynu pa un ai i roi awdurdodiad neu gymeradwyaeth ai peidio yn ddarostyngedig i amod neu amodau neu i wrthod y cais.
(4) Rhaid i’r awdurdod trwyddedu roi hysbysiad ysgrifenedig i’r ceisydd gwreiddiol am unrhyw benderfyniad i amrywio awdurdodiad neu gymeradwyaeth i atodi neu ddileu amod neu amodau.
7 

(1) Caiff awdurdod trwyddedu dynnu awdurdodiad yn ôl os yw’r darparwr hyfforddiant—
(a) wedi methu ag ufuddhau i amod a osodwyd ar ei awdurdodiad gan yr awdurdod trwyddedu; neu
(b) wedi peidio â bod yn ddarparwr hyfforddiant priodol.
(2) Pan fo’r awdurdod trwyddedu yn cynnig tynnu awdurdodiad yn ôl, rhaid i’r awdurdod trwyddedu roi hysbysiad ysgrifenedig i’r darparwr hyfforddiant sy’n nodi—
(a) y rhesymau am y cynnig; a
(b) hawl y darparwr hyfforddiant i gyflwyno sylwadau o dan baragraff (3) ynghylch y cynnig.
(3) Pan fo’r awdurdod trwyddedu yn rhoi hysbysiad i’r darparwr hyfforddiant o dan baragraff (2)—
(a) caiff y darparwr hyfforddiant, yn ddim hwyrach na’r cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y rhoddir hysbysiad o dan baragraff (2), gyflwyno sylwadau ysgrifenedig i’r awdurdod trwyddedu ynghylch y cynnig;
(b) ni chaiff yr awdurdod trwyddedu benderfynu pa un ai i dynnu awdurdodiad yn ôl ai peidio nes i’r cyfnod y cyfeirir ato yn is-baragraff (a) ddod i ben; ac
(c) os cyflwynir unrhyw sylwadau o fewn y cyfnod y cyfeirir ato yn is-baragraff (a), rhaid i’r awdurdod trwyddedu ystyried y sylwadau hynny cyn penderfynu pa un ai i dynnu’r awdurdodiad yn ôl ai peidio.
(4) Wrth wneud penderfyniad i dynnu awdurdodiad darparwr hyfforddiant yn ôl, rhaid i’r awdurdod trwyddedu roi hysbysiad ysgrifenedig i’r darparwr hyfforddiant a rhaid i’r hysbysiad nodi—
(a) y dyddiad y mae’r tynnu’n ôl, yn ddarostyngedig i baragraff (3), yn cael effaith; a
(b) y rhesymau am y penderfyniad i dynnu’r awdurdodiad yn ôl.
(5) Nid yw paragraffau (2) i (4) yn gymwys os yw’r awdurdod trwyddedu—
(a) wedi ei fodloni, oherwydd camymddwyn difrifol ar ran y darparwr hyfforddiant neu berson sy’n gweithredu ar ran neu o dan gyfarwyddyd y darparwr hyfforddiant, bod rhaid tynnu’r awdurdodiad yn ôl yn ddi-oed; a
(b) yn rhoi hysbysiad ysgrifenedig i’r darparwr hyfforddiant i’r perwyl hwnnw sy’n nodi natur y camymddwyn difrifol.
8 

(1) Caiff yr awdurdod trwyddedu dynnu cymeradwyaeth yn ôl ar gyfer cwrs hyfforddi os yw’r cwrs hyfforddi hwnnw yn peidio â bod yn hyfforddiant perthnasol.
(2) Pan fo’r awdurdod trwyddedu yn cynnig tynnu cymeradwyaeth yn ôl ar gyfer cwrs hyfforddi, rhaid i’r awdurdod trwyddedu roi hysbysiad ysgrifenedig i’r person a ymgeisiodd yn wreiddiol am y gymeradwyaeth (“y ceisydd gwreiddiol”) sy’n nodi—
(a) y rhesymau am y cynnig; a
(b) hawl y ceisydd gwreiddiol i gyflwyno sylwadau o dan baragraff (3) ynghylch y cynnig.
(3) Pan fo’r awdurdod trwyddedu yn rhoi hysbysiad i’r ceisydd o dan baragraff (2)—
(a) caiff y ceisydd gwreiddiol, yn ddim hwyrach na’r cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y rhoddir hysbysiad o dan baragraff (2), gyflwyno sylwadau ysgrifenedig i’r awdurdod trwyddedu ynghylch y cynnig;
(b) ni chaiff yr awdurdod trwyddedu benderfynu pa un ai i dynnu’r gymeradwyaeth yn ôl ai peidio nes bod y cyfnod y cyfeirir ato yn is-baragraff (a) wedi dod i ben; ac
(c) os gwneir unrhyw sylwadau o’r fath o fewn y cyfnod y cyfeirir ato yn is-baragraff (a), rhaid i’r awdurdod trwyddedu ystyried y sylwadau hynny cyn penderfynu pa un ai i dynnu’r gymeradwyaeth yn ôl ai peidio.
(4) Wrth wneud penderfyniad i dynnu cymeradwyaeth yn ôl ar gyfer cwrs hyfforddi, rhaid i’r awdurdod trwyddedu roi hysbysiad ysgrifenedig i’r ceisydd gwreiddiol a rhaid i’r hysbysiad nodi—
(a) y dyddiad y bydd y tynnu’n ôl, yn ddarostyngedig i baragraff (3), yn cael effaith; a
(b) y rhesymau am y penderfyniad i dynnu’r gymeradwyaeth yn ôl.
9 

(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo’r awdurdod trwyddedu yn codi ffi am awdurdodiad neu gymeradwyaeth o dan reoliad 5(1)(b).
(2) Cyn codi ffi, rhaid i’r awdurdod trwyddedu baratoi a chyhoeddi polisi ffioedd.
(3) Wrth bennu ffi at ddibenion penderfynu ynghylch cais am awdurdodiad neu gymeradwyaeth o dan reoliad 5—
(a) rhaid i’r awdurdod trwyddedu weithredu yn unol â’i bolisi;
(b) caiff yr awdurdod trwyddedu bennu ffioedd gwahanol ar gyfer achosion gwahanol neu ddisgrifiadau gwahanol o achosion; ac
(c) caiff yr awdurdod trwyddedu benderfynu nad oes unrhyw ffi yn ofynnol i’w thalu mewn achosion penodol neu ddisgrifiadau penodol o achosion.
(4) Caiff yr awdurdod trwyddedu adolygu ei bolisi ffioedd a phan fo’n gwneud hynny rhaid iddo gyhoeddi’r polisi fel y’i diwygiwyd.
10 

(1) Rhaid i ddarparwr hyfforddiant awdurdodedig, ar gais yr awdurdod trwyddedu, ddarparu i’r awdurdod trwyddedu—
(a) y cyfryw wybodaeth am drefniadau gweinyddol y darparwr hyfforddiant awdurdodedig a sut bydd cyrsiau yn cael eu rhedeg ac yn y fath fodd ag y caiff yr awdurdod trwyddedu ei gwneud yn rhesymol ofynnol; a
(b) cofnodion neu ddogfennau eraill (ym mha bynnag ffurf y’u cedwir) a gedwir at ddibenion cydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.
(2) Rhaid i’r darparwr hyfforddiant awdurdodedig ddarparu gwybodaeth neu ddogfennau (yn ôl y digwydd) y gwneir cais amdanynt o dan baragraff (1) o fewn pa bynnag derfyn amser ag y caiff yr awdurdod trwyddedu ei gwneud yn rhesymol ofynnol neu cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.
Lesley Griffiths
Y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi, un o Weinidogion Cymru
2 Mehefin 2015