
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Byrddau Diogelu (Cyffredinol) (Cymru) 2015.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 6 Ebrill 2016.
(3) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2 
Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “adroddiad blynyddol” (“annual report”) yw’r adroddiad a gyhoeddir gan Fwrdd Diogelu o dan adran 136(2) o’r Ddeddf;
 ystyr “Bwrdd Cenedlaethol” (“National Board”) yw’r Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol a sefydlir gan adran 132(1) o’r Ddeddf;
 ystyr “Bwrdd Diogelu” (“Safeguarding Board”) yw Bwrdd Diogelu Plant neu Fwrdd Diogelu Oedolion;
 ystyr “cynllun blynyddol” (“annualplan”) yw’r cynllun a gyhoeddir gan Fwrdd Diogelu o dan adran 136(1) o’r Ddeddf;
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014;
 mae “partner Bwrdd Diogelu” (“Safeguarding Board partner”) i’w ddehongli yn unol ag adran 134(2) ac adran 134(6)(b);
 ystyr “prif ardal llywodraeth leol” (“principal local government area”) yw prif ardal llywodraeth leol fel y’i nodir yn Rhannau I a II o Atodlen 4 i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.
3 
Yr ardaloedd yng Nghymru y bydd Byrddau Diogelu ar eu cyfer yw’r prif ardaloedd llywodraeth leol a nodir yng ngholofn 2 o’r tabl a nodir yn Atodlen 1, a ddynodir â’r enw sydd gyferbyn yng ngholofn 1.
4 

(1) Mae Gweinidogion Cymru yn pennu’r partner Bwrdd Diogelu a ddangosir yng ngholofn 2 o’r tabl a nodir yn Atodlen 2 fel y partner arweiniol mewn perthynas â phlant ar gyfer yr ardal a ddangosir gyferbyn yng ngholofn 1.
(2) Mae Gweinidogion Cymru yn pennu’r partner Bwrdd Diogelu a ddangosir yng ngholofn 3 o’r tabl a nodir yn Atodlen 2 fel y partner arweiniol mewn perthynas ag oedolion ar gyfer yr ardal a ddangosir gyferbyn yng ngholofn 1.
5 
Rhaid i gynllun blynyddol Bwrdd Diogelu gynnwys yr wybodaeth a ganlyn—
(a) rhestr o aelodau’r Bwrdd Diogelu;
(b) unrhyw ganlyniadau penodol y mae’r Bwrdd Diogelu yn bwriadu eu sicrhau;
(c) crynodeb o unrhyw welliant y mae’r Bwrdd Diogelu yn bwriadu ei wneud i’w alluogi i gyflawni ei amcanion yn well;
(d) swm y gwariant y mae partneriaid y Bwrdd Diogelu yn cytuno bod y Bwrdd Diogelu yn debyg o fynd iddo er mwyn sicrhau ei amcanion;
(e) disgrifiad o sut y mae’r Bwrdd Diogelu yn bwriadu cydweithredu â phersonau neu gyrff eraill sy’n ymgymryd â gweithgareddau sy’n ymwneud â’i amcanion;
(f) pryd a sut y bydd y Bwrdd Diogelu yn rhoi i blant ac oedolion y mae arfer ei swyddogaethau yn effeithio arnynt, neu y gall effeithio arnynt, gyfle i gymryd rhan yn ei waith.
6 

(1) Rhaid i adroddiad blynyddol Bwrdd Diogelu gynnwys yr wybodaeth a nodir yn Atodlen 3.
(2) Cyn belled ag y bo’n ymarferol mae’r adroddiad i ddilyn ffurf cynllun blynyddol diweddaraf y Bwrdd Diogelu.
7 
Rhaid i Fwrdd Diogelu—
(a) trefnu bod ei gynllun blynyddol cyfredol a’i adroddiad blynyddol cyfredol ar gael i’r cyhoedd;
(b) trefnu bod copi o unrhyw un neu rai o’i gynlluniau blynyddol a’i adroddiadau blynyddol yn y gorffennol ar gael ar gais;
(c) anfon ei gynllun blynyddol cyfredol a’i adroddiad blynyddol cyfredol at y Bwrdd Cenedlaethol.
Mark Drakeford
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
4 Mehefin 2015
ATODLEN 1
Rheoliad 3


Enw’r ardal Bwrdd Diogelu Rhychwant yr ardal Bwrdd Diogelu

Caerdydd a’r Fro
 
 Cyngor Dinas a Sir Caerdydd a
 Chyngor Bro Morgannwg;
 
 Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful a
 Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf;
 
 Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent,
 Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili,
 Cyngor Sir Fynwy,
 Cyngor Dinas Casnewydd, a
 Chyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen;
 
 Cyngor Sir Caerfyrddin,
 Cyngor Sir Ceredigion,
 Cyngor Sir Penfro a
 Chyngor Sir Powys;
 
 Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy,
 Cyngor Sir Ddinbych,
 Cyngor Sir y Fflint,
 Cyngor Gwynedd,
 Cyngor Sir Ynys Môn, a
 Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam;
 
 Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr,
 Cyngor Dinas a Sir Abertawe a
 Chyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot.
ATODLEN 2
Rheoliad 4


Ardal Bwrdd Diogelu Y partner arweiniol mewn perthynas â phlant ar gyfer yr ardal Y partner arweiniol mewn perthynas ag oedolion ar gyfer yr ardal
 Cyngor Bro Morgannwg Cyngor Dinas a Sir Caerdydd
 Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf
 Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili
 Cyngor Sir Penfro Cyngor Sir Caerfyrddin
 Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
 Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot
ATODLEN 3
Rheoliad 6(1)

Rhaid i adroddiad blynyddol Bwrdd Diogelu gynnwys yr wybodaeth a ganlyn—
(a) rhestr o aelodau’r Bwrdd Diogelu;
(b) y camau y mae’r Bwrdd Diogelu wedi eu cymryd i sicrhau canlyniadau penodol;
(c) i ba raddau y mae’r Bwrdd Diogelu wedi rhoi ar waith ei gynllun blynyddol diweddaraf, ynghyd â manylion ynglŷn â pha mor bell y cafodd unrhyw welliannau arfaethedig penodol eu rhoi ar waith;
(d) sut y mae’r Bwrdd Diogelu wedi cydweithredu â phersonau neu gyrff eraill sy’n ymgymryd â gweithgareddau sy’n ymwneud ag amcanion y Bwrdd;
(e) unrhyw geisiadau y mae’r Bwrdd Diogelu wedi eu gwneud i bersonau cymhwysol o dan adran 137(1) am wybodaeth benodedig, ac a gydymffurfiwyd â’r ceisiadau;
(f) cyflawniadau’r Bwrdd Diogelu yn ystod y flwyddyn;
(g) i ba raddau y cyfrannodd pob aelod o’r Bwrdd Diogelu at effeithiolrwydd y Bwrdd;
(h) asesiad o sut y mae’r Bwrdd Diogelu wedi defnyddio ei adnoddau wrth arfer ei swyddogaethau neu sicrhau ei ganlyniadau;
(i) unrhyw themâu gwaelodol o ran y ffordd y mae’r Bwrdd Diogelu wedi arfer ei swyddogaethau, fel y’u dangosir drwy ddadansoddiad o achosion y mae wedi ymdrin â hwy, ac unrhyw newidiadau y mae wedi eu rhoi ar arfer o ganlyniad;
(j) pryd a sut y defnyddiodd plant neu oedolion gyfle i gymryd rhan yng ngwaith y Bwrdd Diogelu a sut y cyfrannodd hynny at y modd y sicrhaodd y Bwrdd ei ganlyniadau;
(k) nifer y gorchmynion amddiffyn a chynorthwyo oedolion y gwnaed cais amdanynt yn yr ardal Bwrdd Diogelu, faint ohonynt a wnaed, a pha mor effeithiol yr oeddynt;
(l) unrhyw wybodaeth neu ddysg y mae’r Bwrdd Diogelu wedi ei lledaenu, neu hyfforddiant y mae wedi ei gymeradwyo neu wedi ei ddarparu;
(m) sut y mae’r Bwrdd Diogelu wedi rhoi ar waith unrhyw ganllawiau neu gyngor a roddwyd gan Weinidogion Cymru neu gan y Bwrdd Cenedlaethol;
(n) materion eraill sy’n berthnasol i waith y Bwrdd Diogelu.
