
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Tai (Hawl i Brynu a Hawl i Gaffael) (Terfynau’r Disgownt) (Diwygio) (Cymru) 2015.
(1) Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 14 Gorffennaf 2015.
2 
Yn erthygl 3 (cyfradd y disgownt) o Orchymyn Tai (Hawl i Gaffael) (Disgownt) (Cymru) 1997 yn lle “£16,000” rhodder “£8,000 (eight thousand pounds)”.
3 
Yn erthygl 3 (uchafswm y disgowntiau) o Orchymyn Tai (Hawl i Brynu) (Terfynau’r Disgownt) (Cymru) 1999 yn lle “£16,000” rhodder “£8,000 (eight thousand pounds)”.
4 
Mae Gorchymyn Tai (Hawl i Brynu) (Terfynau’r Disgownt) (Diwygio) (Cymru) 2003 wedi ei ddirymu.
5 
Nid yw’r Gorchymyn hwn yn cael effaith mewn achos pan fo hysbysiad o dan adran 122(1) o Ddeddf Tai 1985 wedi ei gyflwyno cyn y daeth y Gorchymyn hwn i rym.
Lesley Griffiths
Y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi, un o Weinidogion Cymru
1 Mehefin 2015