
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) (Cymru) (Diwygio) 2015.
(2) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y prif Reoliadau” (“the principal Regulations”) yw Rheoliadau Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) (Cymru) 2012.
(3) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(4) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 22 Mehefin 2015.
2 

(1) Mae’r prif Reoliadau wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 12(1)—
(a) ar ddiwedd is-baragraff (a)(ii), hepgorer “neu”;
(b) hepgorer is-baragraff (b); ac
(c) ar ôl y geiriau “o fewn chwe mis i’r hysbysiad o benderfyniad”, hepgorer “neu ar ôl i’r cyfnod priodol a ganiateir o dan reoliad 3(5) ddod i ben, yn ôl y digwydd,”.
(3) Yn rheoliad 12(2), yn lle’r geiriau “Rhaid i berson o’r fath hefyd” rhodder “Rhaid i geisydd sy’n dymuno apelio yn erbyn penderfyniad awdurdod cynllunio lleol a grybwyllir yn is-baragraff (1) neu yn dilyn methiant awdurdod cynllunio lleol i roi hysbysiad o’i benderfyniad neu hysbysiad o gyfeirio’r cais i Weinidogion Cymru”.
(4) Ar ôl rheoliad 12 mewnosoder—“
12A. 
Y cyfnod ychwanegol a ragnodir at ddibenion adran 20A o’r Ddeddf yw pedair wythnos.”
3 
Nid yw’r diwygiadau a wneir i’r prif Reoliadau gan reoliad 2 o’r Rheoliadau hyn yn gymwys i unrhyw apêl sy’n ymwneud â chais a wneir cyn y daw’r Rheoliadau hyn i rym ac yn unol â hynny, mae’r prif Reoliadau, ar y ffurf yr oeddent yn bodoli yn union cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym, yn parhau i fod yn gymwys i’r apelau hynny.
Carl Sargeant
Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, un o Weinidogion Cymru
20 Mai 2015