
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gofal a Chymorth (Asesu) (Cymru) 2015.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 6 Ebrill 2016 ac maent yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “asesiad” ac “asesu” (“assessment”) yw asesiad a gynhelir gan awdurdod lleol o dan adran 19, 21 neu 24 o’r Ddeddf;
 ystyr “canlyniadau personol” (“personal outcomes”) yw’r canlyniadau sydd wedi eu nodi mewn perthynas â pherson yn unol ag adran 19(4)(a), 21(4)(b) neu 24(4)(c) neu (d) o’r Ddeddf;
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.
2 
Rhaid i’r awdurdod lleol sy’n gyfrifol am gynnal asesiad sicrhau bod unigolyn a enwir a chanddo’r swyddogaeth o gydgysylltu’r modd y mae’r asesiad yn cael ei gynnal.
3 

(1) Rhaid i awdurdod lleol sicrhau bod unrhyw berson sy’n cynnal asesiad—
(a) yn meddu ar y sgiliau, yr wybodaeth a’r cymhwysedd i gynnal yr asesiad o dan sylw, a
(b) wedi cael hyfforddiant i gynnal asesiadau.
(2) Wrth gynnal asesiad, rhaid i awdurdod lleol ystyried a yw natur anghenion y person yn galw am ymglymiad person a chanddo sgiliau arbenigol, gwybodaeth arbenigol neu arbenigedd.
(3) Os yw’r awdurdod lleol yn penderfynu bod galw am ymglymiad o’r fath, rhaid iddo naill ai ymgynghori â pherson a fyddai’n gallu darparu’r sgiliau hynny neu’r wybodaeth honno neu’r arbenigedd hwnnw neu drefnu i’r asesiad gael ei gynnal gan berson a chanddo’r sgiliau arbenigol, yr wybodaeth arbenigol neu’r arbenigedd sy’n ofynnol.
4 
Wrth gynnal asesiad, rhaid i awdurdod lleol—
(a) asesu amgylchiadau’r person a rhoi sylw iddynt,
(b) rhoi sylw i’r canlyniadau personol,
(c) asesu unrhyw rwystrau i sicrhau’r canlyniadau hynny a rhoi sylw i’r rhwystrau hynny,
(d) asesu unrhyw risgiau i’r person ac i bersonau eraill os na chaiff y canlyniadau hynny eu sicrhau, a rhoi sylw i’r risgiau hynny, ac
(e) asesu cryfderau a galluoedd y person a rhoi sylw iddynt.
5 

(1) Pan fydd asesiad wedi ei gwblhau, rhaid i’r awdurdod lleol wneud cofnod ysgrifenedig o ganlyniadau’r asesiad a’r materion y mae’r awdurdod wedi rhoi sylw iddynt wrth gynnal yr asesiad.
(2) Os yw’r awdurdod lleol, yng nghwrs cynnal yr asesiad, yn ystyried y gallai darparu gwasanaethau ataliol, darparu gwybodaeth, cyngor neu gynhorthwy, neu faterion eraill, gyfrannu at gyflawni’r canlyniadau personol neu fel arall ddiwallu’r anghenion a nodwyd yn yr asesiad, rhaid i’r cofnod ysgrifenedig—
(a) cynnwys manylion y ddarpariaeth honno neu’r materion hynny, a
(b) cynnwys manylion ynghylch sut y gallai’r ddarpariaeth honno neu’r materion hynny gyfrannu at gyflawni’r canlyniadau personol neu fel arall ddiwallu’r anghenion a nodwyd yn yr asesiad.
6 

(1) Pan fo’r asesiad yn asesiad o anghenion oedolyn (gan gynnwys anghenion gofalwr sy’n oedolyn), rhaid i’r awdurdod lleol gynnig rhoi copi o’r cofnod i—
(i) yr oedolyn,
(ii) unrhyw berson sydd wedi ei awdurdodi i weithredu ar ran yr oedolyn, a
(iii) pan na fo gan yr oedolyn alluedd i fedru gofyn i berson weithredu ar ei ran ac nad oes unrhyw berson wedi ei awdurdodi i weithredu ar ei ran, unrhyw berson sy’n gweithredu er lles pennaf yr oedolyn ym marn yr awdurdod lleol.
(2) Pan fo’r asesiad yn asesiad o anghenion plentyn (gan gynnwys anghenion gofalwr sy’n blentyn), rhaid i’r awdurdod lleol gynnig rhoi copi o’r cofnod i—
(i) y plentyn,
(ii) unrhyw berson sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn, oni fyddai gwneud hynny’n anghyson â llesiant y plentyn,
(iii) unrhyw berson sydd wedi ei awdurdodi i weithredu ar ran y plentyn, a
(iv) pan na fo gan y plentyn alluedd neu pan na fo’n gymwys i ofyn i berson weithredu ar ei ran ac nad oes unrhyw berson wedi ei awdurdodi i weithredu ar ei ran, unrhyw berson sy’n gweithredu er lles pennaf y plentyn ym marn yr awdurdod lleol.
(3) Yn y rheoliad hwn ac yn rheoliad 7, mae person wedi ei awdurdodi i weithredu ar ran oedolyn neu blentyn—
(a) os yw’r oedolyn neu’r plentyn wedi gofyn i’r person weithredu ar ei ran, neu
(b) os nad oes gan yr oedolyn neu’r plentyn alluedd a bod y person wedi ei awdurdodi o dan Ddeddf Galluedd Meddwl 2005 (p’un ai yn nhermau cyffredinol neu benodol) i wneud penderfyniadau ynghylch asesu anghenion y person.
7 

(1) Rhaid i awdurdod lleol adolygu asesiad os yw’n ymddangos iddo fod newid sylweddol wedi bod yn amgylchiadau’r person neu yn ei ganlyniadau personol.
(2) Caiff y personau canlynol ofyn am adolygiad o asesiad—
(a) pan fo’r asesiad yn asesiad o anghenion oedolyn (gan gynnwys anghenion gofalwr sy’n oedolyn)—
(i) yr oedolyn;
(ii) unrhyw berson sydd wedi ei awdurdodi i weithredu ar ran yr oedolyn;
(b) pan fo’r asesiad yn asesiad o anghenion plentyn (gan gynnwys anghenion gofalwr sy’n blentyn)—
(i) y plentyn;
(ii) unrhyw berson sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn;
(iii) unrhyw berson sydd wedi ei awdurdodi i weithredu ar ran y plentyn.
(3) Rhaid i’r awdurdod lleol gydymffurfio â’r cais os yw wedi ei fodloni bod newid sylweddol wedi bod yn amgylchiadau’r person neu yn ei ganlyniadau personol.
(4) Caiff yr awdurdod lleol wrthod cydymffurfio â’r cais os yw wedi ei fodloni nad oes unrhyw newid sylweddol wedi bod yn amgylchiadau’r person neu yn ei ganlyniadau personol ers i’r asesiad gael ei gwblhau.
Mark Drakeford
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
6 Mai 2015