
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Tai (Cymru) 2014 (Cychwyn Rhif 3 a Darpariaethau Darfodol a Throsiannol a Darpariaethau Arbed) 2015.
(2) Yn y Gorchymyn hwn ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Tai (Cymru) 2014.
2 
Yn ddarostyngedig i erthyglau 4, 5, 6, 7 ac 8, y diwrnod penodedig i’r darpariaethau yn y Ddeddf a restrwyd yn yr Atodlen ddod i rym at y dibenion a bennwyd (i’r graddau nad ydynt eisoes mewn grym) yw 27 Ebrill 2015.
3 
Yn ddarostyngedig i erthyglau 4, 5 ac 8, y diwrnod penodedig i adran 78 o’r Ddeddf (penderfynu rhoi sylw i fwriadoldeb) ddod i rym at yr holl ddibenion sy’n weddill yw 1 Gorffennaf 2015.
4 
Mae’r darpariaethau darfodol a throsiannol a’r darpariaethau arbed a ganlyn yn cael effaith.
5 

(1) Er gwaethaf cychwyn adran 61 o’r Ddeddf, ac Atodlen 2 iddi, mae Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) 2014 yn parhau i gael effaith (yn ddarostyngedig i unrhyw ddiwygiad neu ddirymiad wedyn) fel pe baent wedi eu gwneud o dan baragraff 1 o Atodlen 2 i’r Ddeddf.
(2) I’r graddau y mae Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) 2014 yn parhau i gael effaith yn rhinwedd paragraff (1), maent yn gwneud hynny yn ddarostyngedig i’r addasiadau a ganlyn—
(a) yn rheoliad 5(1) mae’r cyfeiriad at “Ran 7 o Ddeddf 1996” yn cael effaith fel pe bai’n gyfeiriad at “adran 66, 68, 73 neu 75 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014”; a
(b) yn rheoliad 6(1) mae’r cyfeiriad at “Ran 7 o Ddeddf 1996” yn cael effaith fel pe bai’n gyfeiriad at “adran 66, 68, 73 neu 75 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014”.
6 

(1) Daw’r erthygl hon i rym ar 27 Ebrill 2015.
(2) Mae’r erthygl hon yn gwneud addasiad darfodol i adran 75(2)(d) o’r Ddeddf gydag effaith tan 1 Gorffennaf 2015.
(3) Hyd nes i adran 78 o’r Ddeddf (penderfynu rhoi sylw i fwriadoldeb) ddod i rym yn llawn yn rhinwedd erthygl 3, mae adran 75(2)(d) i’w darllen fel pe bai’r geiriau “os yw’r awdurdod yn rhoi sylw i ba un a yw ceisydd yn ddigartref yn fwriadol ai peidio (gweler adran 77)” wedi eu hepgor.
7 

(1) Daw’r erthygl hon i rym ar 27 Ebrill 2015.
(2) Mae’r erthygl hon yn gymwys mewn perthynas â cheisydd sydd wedi gwneud cais, cyn 27 Ebrill 2015, i awdurdod tai lleol am lety neu gynhorthwy i sicrhau llety o dan Ran 7 o Ddeddf Tai 1996.
(3) Er gwaethaf erthyglau 2 a 3, mae Rhan 7 o Ddeddf Tai 1996 yn parhau mewn grym mewn perthynas â’r ceiswyr hyn.
8 

(1) Mae’r erthygl hon yn gwneud addasiad darfodol i Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdodau Lleol 1970fel y mae’n gymwys i Gymru, gydag effaith o 27 Ebrill 2015.
(2) Hyd nes i Atodlen 2 (swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol) i Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 ddod i rym, mae Atodlen 1 (swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol) i Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdodau Lleol 1970 i’w darllen o ran ei chymhwyso at Gymru—
(a) fel pe bai’r eitem ar gyfer Deddf Tai 1996 wedi ei hepgor;
(b) fel pe bai’r canlynol wedi ei fewnosod yn lle’r eitem honno:“
Housing (Wales) Act 2014Section 95(2), (3) and (4); but only where those functions apply by virtue of subsection (5)(b) of that section. Co-operation and information sharing in relation to homeless persons and persons threatened with homelessness.”
Lesley Griffiths
Y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi, un o Weinidogion Cymru
21 Ebrill 2015
YR ATODLEN
Erthygl 2
1 
Adran 50 (dyletswydd i gynnal adolygiad digartrefedd a llunio strategaeth ddigartrefedd) at bob diben sy’n weddill;
2 
Adran 51 (adolygiadau digartrefedd) at bob diben;
3 
Adran 52 (strategaethau digartrefedd) at bob diben;
4 
Adran 53 (trosolwg o’r bennod hon) at bob diben;
5 
Adran 54 (cymhwyso termau allweddol) at bob diben;
6 
Adran 55 (ystyr digartrefedd a’r bygythiad o ddigartrefedd) at bob diben;
7 
Adran 56 (ystyr llety sydd ar gael i’w feddiannu) at bob diben;
8 
Adran 57 (a yw’n rhesymol parhau i feddiannu llety) at bob diben sy’n weddill;
9 
Adran 58 (ystyr camdriniaeth a camdriniaeth ddomestig) at bob diben;
10 
Adran 59 (addasrwydd llety) at bob diben sy’n weddill;
11 
Adran 60 (dyletswydd i ddarparu gwybodaeth, cyngor a chynhorthwy i gael gafael ar gymorth) at bob diben;
12 
Adran 61 (cymhwystra am gymorth o dan y bennod hon) at bob diben;
13 
Adran 62 (dyletswydd i asesu) at bob diben;
14 
Adran 63 (hysbysu am ganlyniad asesiad) at bob diben;
15 
Adran 64 (sut i sicrhau neu gynorthwyo i sicrhau bod llety ar gael) at bob diben sy’n weddill;
16 
Adran 65 (ystyr cynorthwyo i sicrhau) at bob diben;
17 
Adran 66 (dyletswydd i gynorthwyo i atal ceisydd rhag dod yn ddigartref) at bob diben;
18 
Adran 67 (amgylchiadau pan fo’r ddyletswydd yn adran 66 yn dod i ben) at bob diben;
19 
Adran 68 (dyletswydd interim i sicrhau llety ar gyfer ceiswyr digartref mewn angen blaenoriaethol) at bob diben;
20 
Adran 69 (amgylchiadau pan fo’r ddyletswydd yn adran 68 yn dod i ben) at bob diben;
21 
Adran 70 (angen blaenoriaethol am lety) at bob diben;
22 
Adran 71 (ystyr hyglwyf yn adran 70) at bob diben;
23 
Adran 72 (pŵer i ddiwygio neu ddiddymu darpariaethau ynghylch angen blaenoriaethol am lety) at bob diben sy’n weddill;
24 
Adran 73 (dyletswydd i gynorthwyo i sicrhau llety ar gyfer ceiswyr digartref) at bob diben;
25 
Adran 74 (amgylchiadau pan fo’r ddyletswydd yn adran 73 yn dod i ben) at bob diben;
26 
Adran 75(1), (2) a (4) (dyletswydd i sicrhau llety ar gyfer ceiswyr mewn angen blaenoriaethol pan fo’r ddyletswydd yn adran 73 yn dod i ben) at bob diben;
27 
Adran 76 (amgylchiadau pan fo’r ddyletswydd yn adran 75 yn dod i ben) at bob diben;
28 
Adran 77 (ystyr bod yn ddigartref yn fwriadol) at bob diben;
29 
Adran 78(2) (penderfynu rhoi sylw i fwriadoldeb) at ddibenion galluogi awdurdod tai lleol i wneud penderfyniad a chyhoeddi hysbysiad o’r penderfyniad hwnnw;
30 
Adran 79 (amgylchiadau pellach pan fo’r dyletswyddau i gynorthwyo ceiswyr yn dod i ben) at bob diben;
31 
Adran 80 (atgyfeirio achos at awdurdod tai lleol arall) at bob diben sy’n weddill;
32 
Adran 81 (cysylltiad lleol) at bob diben sy’n weddill;
33 
Adran 82 (dyletswyddau i geisydd y mae ei achos yn cael ei ystyried ar gyfer ei atgyfeirio neu’n cael ei atgyfeirio) at bob diben;
34 
Adran 83 (achosion a atgyfeirir gan awdurdod tai lleol yn Lloegr) at bob diben;
35 
Adran 84 (hysbysiad bod dyletswyddau wedi dod i ben) at bob diben;
36 
Adran 85 (hawl i ofyn am adolygiad) at bob diben;
37 
Adran 86 (gweithdrefn ar gyfer adolygiad) at bob diben sy’n weddill;
38 
Adran 87 (effaith penderfyniad mewn adolygiad neu apêl na chafodd camau rhesymol eu cymryd) at bob diben;
39 
Adran 88 (hawl i apelio i lys sirol ar bwynt cyfreithiol) at bob diben;
40 
Adran 89 (apelau yn erbyn gwrthodiad i letya wrth aros am apêl) at bob diben;
41 
Adran 90 (ffioedd) at bob diben;
42 
Adran 91 (lleoli y tu allan i’r ardal) at bob diben;
43 
Adran 92 (llety interim: trefniadau â landlord preifat) at bob diben;
44 
Adran 93 (gwarchod eiddo) at bob diben;
45 
Adran 94 (gwarchod eiddo: darpariaethau atodol) at bob diben;
46 
Adran 95 (cydweithredu) at bob diben sy’n weddill;
47 
Adran 96 (cydweithredu mewn achosion penodol yn ymwneud â phlant) at bob diben;
48 
Adran 97 (datganiadau anwir, celu gwybodaeth a methiant i ddatgelu newid mewn amgylchiadau) at bob diben;
49 
Adran 98 (canllawiau) at bob diben sy’n weddill;
50 
Adran 99 (dehongli’r bennod hon a mynegai o ymadroddion wedi eu diffinio) at bob diben sy’n weddill;
51 
Adran 100 (diwygiadau canlyniadol) at bob diben;
52 
Atodlen 2 at bob diben sy’n weddill; a
53 
Rhan 1 o Atodlen 3 at bob diben.